P-06-1229 Cynyddu'r cyllid ar gyfer Clinigau Hunaniaeth Rywedd yng Nghymru
P-06-1229 Cynyddu'r cyllid ar gyfer Clinigau Hunaniaeth Rywedd yng Nghymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Rosie Williams, ar ôl casglu cyfanswm o 52
lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Ar hyn o bryd, dim ond un Clinig Hunaniaeth Rywedd (GIG) sydd yng Nghymru.
Yn y GIG, rhaid aros rhwng 24 a 30 mis am yr apwyntiad cyntaf, heb sôn am
weddill y driniaeth. Mae pethau’n anodd i bobl drawsryweddol yng Nghymru yn
barod ac mae’r ffaith mai dim ond un GIG sydd yng Nghymru, a honno ag amseroedd
aros afresymol o hir, yn hynod niweidiol, yn enwedig i bobl ifanc
drawsryweddol. Mae angen cyllid ychwanegol.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 10/01/2022 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Nododd y Pwyllgor fod y deisebydd yn fodlon ar y cynnydd
a adroddwyd ac a fwriedir ar gyfer y gwasanaeth yn y dyfodol gan Lywodraeth
Cymru, felly diolchodd yr Aelodau i'r deisebydd am dynnu sylw at fater mor
bwysig a chaewyd y ddeiseb.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar
10/01/2022.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Aberafan
- Gorllewin De Cymru
Rhagor o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 10/12/2021