P-06-1225 Dylai Cyfoeth Naturiol Cymru orfod cynnal a chyhoeddi arolygon bywyd gwyllt blynyddol cyn cwympo coetir
P-06-1225 Dylai Cyfoeth Naturiol Cymru orfod cynnal a chyhoeddi arolygon bywyd gwyllt blynyddol cyn cwympo coetir

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Martin Bailey, ar ôl casglu cyfanswm o 1,211
lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rheoli coedwigoedd y wladwriaeth, ond nid
ydynt yn cynnal arolygon o boblogaethau rhywogaethau gwarchodedig cyn cwympo
coetir. Er mwyn osgoi colli bioamrywiaeth, dylent asesu maint poblogaethau
rhywogaethau prin sy'n bresennol cyn ymgymryd â gweithrediadau cwympo coetir,
fel eu bod yn sicrhau nad yw colli cynefinoedd yn peri dirywiad. Dylai'r data
poblogaeth gael ei gyhoeddi cyn i unrhyw goed gael eu gwerthu i'w torri. Ar hyn
o bryd, dim ond ceisio atal anifeiliaid ac adar prin rhag cael eu lladd gan
beiriannau cynaeafu y maen nhw’n ei wneud, ond nid yw hyn yn ddigon.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Nid yw'n ddigon da ceisio osgoi lladd anifeiliaid prin pan fydd coed yn
cael eu torri i lawr. Mae angen rhai mathau o gynefin coedwig ar adar,
ystlumod, pathewod a madfallod ac mae ei dorri i lawr yn golygu na allant
oroesi yno mwyach. Yn ôl Clare Pillman, Prif Swyddog Gweithredol Cyfoeth
Naturiol Cymru, mae mamaliaid fel y wiwer goch a llygoden y dŵr, adar fel
y gylfinir a phlanhigion fel tegeirian y fign wedi'u gwasgu allan trwy golli
cynefin
https://bbc.co.uk/news/uk-wales-58641886
Mae angen i Gyfoeth Naturiol Cymru fod yn onest ac arolygu poblogaethau cyn
cwympo coed, gan gyhoeddi'r data fel y gall y cyhoedd weld a yw'r asiantaeth yn
peri i'r boblogaeth ostwng. Fe ddylen nhw fod yn cymryd yr awenau gan sicrhau
bod gan rywogaethau prin ddigon o gynefin, ac nid dim ond torri coedwigoedd i
lawr trwy'r amser heb ddangos beth mae hyn wedi'i wneud i ystlumod a phathewod.

Statws
Yn ei gyfarfod ar 10/01/2022 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Tynnodd Cadeirydd y
Pwyllgor sylw at y ffaith bod y ddeiseb wedi cael ei chrybwyll yn nadl y Senedd
a gynhaliwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 8 Rhagfyr ynghylch amddiffyn gwiwerod coch.
Cytunodd yr Aelodau i
ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am amserlen
canllawiau Cyfoeth Naturiol Cymru a’r ddeddfwriaeth y cyfeiriwyd atynt yn y
Cyfarfod Llawn ar 8 Rhagfyr, a chytunwyd hefyd i gau’r ddeiseb ar ôl i lythyr y
Gweinidog ddod i law a chael ei rannu â’r deisebydd.
Gellir gweld manylion
llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig
ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf
gan y Pwyllgor Deisebau ar 10/01/2022.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Dyffryn Clwyd
- Gogledd Cymru
Rhagor o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 11/01/2022