P-06-1230 Mae pob eiliad yn cyfrif: Dylid gosod diffibriliwr ym mhob ysgol yng Nghymru i'r cyhoedd gael mynediad ato
P-06-1230 Mae pob eiliad yn cyfrif: Dylid gosod diffibriliwr ym mhob ysgol yng Nghymru i'r cyhoedd gael mynediad ato
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Rob Shill, ar ôl casglu cyfanswm o 64
lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae llawer o bobl nad ydynt yn gwybod ble mae eu diffibriliwr agosaf.
Pe bai diffibriliwr wedi'i osod y tu allan i bob ysgol ar giât / ffens /
wal allanol, yna byddai pawb yn gwybod, pe bai angen diffibriliwr arnynt, dim
ond edrych am eu hysgol agosaf fyddai ei angen arnynt i ddod o hyd i’r offer
hanfodol hwn.
Ni ddylid cyfyngu mynediad at ddyfeisiau mewn lleoliadau pan fydd y
sefydliad ar agor yn unig.
Mae mynediad cyhoeddus 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos yn hanfodol.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 07/03/2022 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Yng ngoleuni'r ffaith bod y Gweinidog wedi darparu ymateb
pellach ynghylch mynediad at gyllid, gan ddweud bod potensial o gyllid pellach
yn cael ei ystyried ac y bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn ystyried hyrwyddo hyn
drwy rwydweithiau ysgolion a cholegau, cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i'r
deisebydd a chau'r ddeiseb.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 10/01/2022.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Aberafan
- Gorllewin De Cymru
Rhagor o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 21/12/2021