P-06-1204 Amddiffynnwch bobl Cymru - cymerwch gamau brys ar yr argyfwng tai nawr
P-06-1204 Amddiffynnwch bobl Cymru - cymerwch gamau brys ar yr argyfwng tai nawr
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Cara Wilson, ar ôl casglu cyfanswm o 6,469
lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae prisiau tai’n gorfodi pobl leol o'u cymunedau eu hunain. Mae hyn yn
dinistrio ein diwylliant a'n hiaith. Nid yw adeiladu mwy o dai’n ddigon.
Rydym yn galw am ailfeddwl polisi sylfaenol i flaenoriaethu anghenion
cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd pobl Cymru yn unol â’r cynllun
gweithredu Cymraeg 2050 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Rhowch lais i bobl ar ddatrys ein hargyfwng tai: gweithredu wyth gofyniad y
Siarter Cyfiawnder Cartrefi a sefydlu Cynulliad Dinasyddion i sbarduno newid.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Mae Covid-19 wedi dangos yr angen am gamau gweithredu pendant gan
Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael ag argyfwng mawr. Mae angen gweithredu ar
frys nawr i fynd i’r afael â’n hargyfwng tai, cyn i ddiwylliannau lleol a’r
Gymraeg gael eu colli a chyn i farchnad dai ddireolaeth ddinistrio cymunedau
trefol a gwledig Cymru.
Mae'r grŵp Siarter Cyfiawnder Cartrefi yn gydweithrediad gwleidyddol
di-blaid ar draws Cymru. Gwnaethom ymchwilio i'r holl faterion a’r atebion a
gynigiwyd gan eraill a'u crynhoi mewn wyth maes cyflawnadwy a chadarnhaol ar
gyfer gweithredu.
Gweithredu gofynion y Siarter; defnyddio Cynulliad Dinasyddion i sbarduno'r
newid:
1. Datgan argyfwng tai yng Nghymru
2. Creu bil i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb tai.
3. Amddiffyn ein cymunedau; rhai gwledig a threfol.
4. Amddiffyn y Gymraeg a diwylliant Cymru.
5. Diwygio darpariaeth tai cymdeithasol.
6. Mynd i'r afael â’r mater dybryd perchnogaeth ail gartrefi ar frys.
7. Diwygio cyfreithiau cynllunio i ymateb i anghenion tai lleol.
8. Creu Cynulliad Dinasyddion ar dai.
I gael mwy o wybodaeth am bob gofyniad, ewch i siartercartrefi.org.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 10/01/2022 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Cydnabu’r
Pwyllgor y pryderon difrifol a godwyd gan y ddeiseb ynghylch tai fforddiadwy
a’r effaith negyddol ar gymunedau lleol ledled Cymru. O ystyried natur gymhleth
y pryderon hyn, croesawodd y Pwyllgor y ffaith bod y Pwyllgor Llywodraeth Leol
a Thai yn cynnal ymchwiliad manwl i’r maes hwn, a chytunwyd i ysgrifennu at
Gadeirydd y Pwyllgor i ofyn i’r Pwyllgor gynnwys y materion a godwyd yn y
ddeiseb hon fel rhan o'i ymchwiliad.
Wrth wneud hynny,
cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod
gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 10/01/2022.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Preseli Sir Benfro
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 06/12/2021