P-06-1222 Gwahardd barbeciws untro o'n Parciau Cenedlaethol, Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol a thraethau yng Nghymru!

P-06-1222 Gwahardd barbeciws untro o'n Parciau Cenedlaethol, Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol a thraethau yng Nghymru!

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Robert Curtis, ar ôl casglu cyfanswm o 223 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:       

Bob blwyddyn, mae archfarchnadoedd a siopau ar-lein yn annog pobl i brynu miloedd o farbeciws untro rhad sydd wedyn yn cael eu defnyddio mewn ffordd ddiofal ac anghyfrifol, gan arwain at ddifetha cynefinoedd bywyd gwyllt bregus a phwysig.

 

Dim ond drwy wahardd y nwyddau hyn yn gyfan gwbl y gallwn ni warchod ein bywyd gwyllt gwerthfawr yng Nghymru.

 

Erbyn hyn, rydym yn deall pam mae ein hucheldiroedd a’n fforestydd yn bwysig ar gyfer storio carbon a’n hamddiffyn rhag newid yn yr hinsawdd. Hefyd, mae’n rhaid i ni atal llygredd morol rhag niweidio moroedd Cymru.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Digon yw digon… mae’n hen bryd gwahardd barbeciws untro o draethau Cymru, yn ogystal â’n Parciau Cenedlaethol a’n Gwarchodfeydd Natur. Gyda’r argyfwng ecolegol yn gwaethygu, ni allwn fforddio anwybyddu’r mater hwn.

 

Mae’r tanau hyn yn cymryd amser maith i’w rheoli a’u diffodd. Fel gyda thanau ar y rhosydd, unwaith y bydd un darn o dir sydd ar dân wedi’i ddiffodd, gall y tân deithio o dan y ddaear ac ailgynnau mewn man arall. Caiff y tanau effaith hynod ddinistriol ar ardaloedd lleol, gan ladd bywyd gwyllt a distrywio ardaloedd anferth o brydferthwch naturiol, heb sôn am roi ein bywydau ni mewn perygl. Mae modd osgoi’r holl effeithiau hollol ddiangen hyn.

 

Caiff nifer o’n traethau mwyaf prydferth eu difrodi bob haf, gyda barbeciws crasboeth yn cael eu cynnau yn llythrennol modfeddi o dan arwyneb y tywod, gan fygwth bywyd gwyllt a phobl fregus sy’n defnyddio’r traeth… mae’n amser i ni warchod ein byd naturiol yn lle ei wylio’n llosgi

 

grill above fire

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 09/05/2022 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ac, yn sgil y dystiolaeth a ddaeth i law nad ystyrir bod barbeciws untro yn broblem enfawr o safbwynt diogelwch tân, ac y byddai’n anodd gorfodi gwaharddiad, cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i'r deisebydd am godi'r mater a chau’r ddeiseb.

 

Wrth wneud hynny, anogodd y Pwyllgor bobl Cymru ac unrhyw un sy’n dod i ymweld yr haf hwn i ddefnyddio barbeciws untro mewn ffordd ddiogel, a’u gwaredu’n briodol, gan sicrhau mai diogelwch sydd bwysicaf, ac y gall pawb fwynhau’r parciau cenedlaethol a’n gwarchodfeydd natur a’n traethau bendigedig ar draws Cymru.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 10/01/2022.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Bro Morgannwg
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 29/11/2021