Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Price
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 16/06/2025 - Y Pwyllgor Deisebau
| Rhif | Eitem |
|---|---|
|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.2 Datganodd
Vaughan Gething AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae'n Aelod o
Unison. Datganodd Joel
James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae'n adnabod y
deisebydd. |
|
|
Deisebau newydd |
|
|
P-06-1499 Rhoi terfyn ar y defnydd o’r term 'Darpariaeth Gyffredinol' fel rheswm dros wrthod ADY Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a mynegodd gydymdeimlad ag ymgyrch y deisebydd, gan gydnabod
pwysigrwydd craffu ar weithrediad y diwygiadau Anghenion Dysgu Ychwanegol er
mwyn sicrhau bod y system yn gweithredu'n effeithiol. Mae'n ymddangos bod
Ysgrifennydd y Cabinet yn mynd i'r afael â'r pryderon hyn ac mae disgwyl iddo
wneud datganiad gerbron y Senedd ym mis Gorffennaf, wrth i’r Pwyllgor Plant,
Pobl Ifanc ac Addysg barhau i fonitro'r sefyllfa'n weithredol. Cytunodd yr
Aelodau i gadw'r ddeiseb yn agored tra mae’n aros am ddatganiad Ysgrifennydd y
Cabinet ac, yn y cyfamser, i gyfeirio'r ddeiseb at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc
ac Addysg o ystyried ei adolygiad parhaus o'r diwygiadau ADY. Gwnaethant hefyd,
fodd bynnag, bwysleisio pwysigrwydd osgoi dyblygu gwaith sydd eisoes yn cael ei
wneud gan bwyllgor arall. |
|
|
P-06-1500 Mae angen arian ychwanegol ar gyfer Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn ôl UNSAIN Castell-nedd Port Talbot Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Gyngor Castell-nedd Port Talbot
i dynnu sylw at y ddeiseb ac i ofyn am y
wybodaeth ddiweddaraf am y cynlluniau ar gyfer dyrannu adnoddau’r Gronfa
Ffyniant Gyffredin (SPF) 2025–26, o fewn fframwaith y Cynllun Cyflawni
Economaidd Rhanbarthol. Cytunodd yr Aelodau i gadw'r ddeiseb yn agored wrth
iddynt aros am ymateb, ac i'w chau unwaith y ceir yr ymateb. |
|
|
P-06-1522 Cynnull uwchgynhadledd i gyflymu buddsoddi cynaliadwy a moesegol gan bensiynau’r sector cyhoeddus Dogfennau ategol:
Cofnodion: Yn dilyn
trafodaeth fanwl am gamau gweithredu posibl oherwydd bod pensiynau yn fater a
gedwir yn ôl, cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Gymdeithas Llywodraeth Leol
Cymru, at Ysgrifennydd y Cabinet ac at Bartneriaeth Pensiynau Cymru i ofyn am y
blaenoriaethau buddsoddi ar hyn o bryd, a blaenoriaethau yn y dyfodol, ac am y
dull o fuddsoddi i gefnogi twf yr economi yng Nghymru mewn ffordd gynaliadwy,
yng ngoleuni Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Nododd yr
Aelodau mor bwysig oedd mabwysiadu dull cyson o ymdrin â deisebau sy'n cyffwrdd
â meysydd polisi sydd wedi'u cadw'n ôl i raddau helaeth. |
|
|
P-06-1523 Gwrthdroi’r Penderfyniad i Gau Cyrsiau Cwnsela a Seicotherapi Ôl-raddedig ym Mhrifysgol De Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Gan nad yw'n
ymddangos yr effeithir ar y cyrsiau hyn bellach, er bod camau'n cael eu cymryd
ar fater cyllid Addysg Uwch yn fwy cyffredinol, cytunodd yr Aelodau i ddiolch
i'r deisebydd am dynnu sylw at y sefyllfa ym Mhrifysgol De Cymru, nododd y
canlyniad cadarnhaol, a chau'r ddeiseb. |
|
|
P-06-1524 Codi cerflun o Rachel Williams i goffáu’r effaith a gafodd ar addysg Gymraeg ym Mro Morgannwg Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cydnabu’r
Pwyllgor bwysigrwydd y ddeiseb, yn enwedig gan iddi gael ei chyflwyno gan
ddysgwr Blwyddyn 6, a mynegodd edifeirwch na ellid darparu ymateb mwy
cadarnhaol ar hyn o bryd. Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb, ond wrth wneud
hynny, roedd yn llongyfarch y disgybl am ddwyn sylw at y mater. Pwysleisiodd yr
Aelodau fod y ddeiseb yn enghraifft ardderchog o sut y gall unigolion, gan
gynnwys pobl ifanc, ymgysylltu â'r Senedd i godi materion pwysig, a diolchasant
i'r deisebydd am gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd. Wrth gau'r
ddeiseb, cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at yr ysgol i gydnabod ymgysylltiad
dysgwyr Blwyddyn 6 yn y broses ddeisebu, a'u llongyfarch ar eu hymgyrch, ac i
ysgrifennu at y mudiad Menywod Nodedig yng Nghymru yn uniongyrchol ynglŷn â'r ddeiseb a gofyn am gael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw gynlluniau yn
y dyfodol sy'n ymwneud â
cherflun coffaol i Rachel Williams. |
|
|
P-06-1527 Adolygu’r cyfyngiadau ar gerdded cŵn ar draethau Cymru a chyhoeddi canllawiau ar gyfer cyrff perthnasol. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid
Hinsawdd a Materion Gwledig i ofyn am ragor o wybodaeth am yr adolygiad o
reoliadau ynghylch Dŵr Ymdrochi a chanllawiau
cysylltiedig â hwy. Byddem yn rhoi
copi o’r ymateb i'r deisebydd, ond, cytunodd yr Aelodau mai mater i’r
awdurdodau lleol yw cyfyngiadau ar fynd â chŵn am dro, ac felly diolchasant i'r deisebydd a chau'r ddeiseb. |
|
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
|
P-06-1443 Ailsefydlu cyllid craidd ar gyfer TRAC Cymru (Traddodiadau Cerdd Cymru) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb a nododd y llythyr cynhwysfawr oddi wrth Trac Cymru, a oedd
yn tynnu sylw at rai o'u llwyddiannau diweddar a'u huchelgeisiau ar gyfer y
dyfodol. Croesawodd yr Aelodau gyhoeddiad sydd ar ddod ynghylch adolygiad o
gerddoriaeth draddodiadol, a gynhyrchir mewn cydweithrediad â Chyngor
Celfyddydau Cymru. Nodwyd y bydd yr argymhellion yn yr adroddiad yn helpu i
lunio'r ddadl ynghylch gofynion ariannu yn y dyfodol. O ystyried y bydd y
gwaith hwn a'i argymhellion bellach yn destun trafodaethau rhwng Cyngor
Celfyddydau Cymru a Gweinidogion, diolchodd y Pwyllgor i'r deisebwyr am godi'r
mater a chytunodd i gau'r ddeiseb. |
|
|
P-06-1464 Caniatáu i deuluoedd Cymru sydd wedi colli baban cyn 24 wythnos gael tystysgrif colli baban. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb, a nododd fod tynnu sylw at y ddeiseb wedi bod yn
ddefnyddiol i'r Gweinidog wrth iddo hyrwyddo'r mater gyda Llywodraeth y DU.
Cytunwyd i gadw'r ddeiseb ar agor am y tro ac i ysgrifennu unwaith eto at y
Gweinidog yn y gobaith y byddai modd sicrhau canlyniad terfynol cadarnhaol yn
fuan. |
|
|
P-06-1475 Gwella diogelwch yr A458, Treberfedd, Powys ar frys yn sgil gyrru peryglus parhaus Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb a, chan fod camau eisoes yn cael eu cymryd gan Lywodraeth
Cymru a bod ymgynghoriad ar y gweill, cytunwyd i ddiolch i'r deisebydd a chau'r
ddeiseb. Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor hefyd i dynnu sylw Aelodau o’r
Senedd lleol at y ddeiseb. |
|
|
P-06-1489 Deddfu i sicrhau bod briciau gwenoliaid duon yn cael eu gosod ym mhob adeilad newydd yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ofyn am gynnal dadl arni yn y Senedd. Cytunwyd
hefyd i anfon cwestiynau a phryderon pellach y deisebydd ynghylch polisi
cynllunio at y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid
Hinsawdd a Materion Gwledig. |
|
|
P-06-1510 Dylid cyfarwyddo Cyfoeth Naturiol Cymru i ddirymu’r drwydded amgylcheddol a sicrhau bod Enovert a’i Safle Tirlenwi’r Hafod yn Wrecsam yn cau Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i gynnal ymchwiliad byr a gwahodd Cyfoeth
Naturiol Cymru (CNC), Cyngor Wrecsam, ac Enovert i roi tystiolaeth lafar ar sut
maen nhw'n ymdrin â phryderon y deisebwyr. Cynigiwyd y byddai hyn yn digwydd yn
nhymor yr hydref i ganiatáu amser i grŵp rhanddeiliaid yr Hafod, a’r grŵp trigolion wneud rhagor o waith, ac i fesurau
adfer Enovert gael eu gweithredu'n llawn. |
|
|
Cyllido Addysg Uwch |
|
|
P-06-1463 Parhau i ariannu swyddogion heddlu ysgolion sy'n addysgu plant ac yn cefnogi ysgolion Dogfennau ategol: |
|
|
P-06-1525 Diogelu cymeriad unigryw Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru Dogfennau ategol: |
|
|
Cyllido Addysg Uwch Dogfennau ategol: |
|
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod |
PDF 200 KB