P-06-1500 Mae angen arian ychwanegol ar gyfer Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn ôl UNSAIN Castell-nedd Port Talbot
P-06-1500 Mae angen arian ychwanegol ar gyfer Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn ôl UNSAIN Castell-nedd Port Talbot
Petitions3
Cyflwynwyd y
ddeiseb hon gan Mark Fisher, ar ôl casglu cyfanswm o 355 lofnodion.
Geiriad y
ddeiseb:
Mae UNSAIN Castell-nedd
Port Talbot yn gofyn am ddyrannu arian y mae mawr ei angen i Gyngor
Castell-nedd Port Talbot i ddiogelu gwasanaethau, amddiffyn swyddi, a chadw
cymunedau'n ddiogel. Heb yr arian ychwanegol hwn bydd yn rhaid i Gyngor
Castell-nedd Port Talbot wneud penderfyniadau ar wasanaethau statudol ac
anstatudol, er enghraifft cau llyfrgelloedd, gwasanaethau ieuenctid, amwynderau
cyhoeddus, a hefyd diswyddo staff yn orfodol.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Bydd yr holl
gyllid ychwanegol a ddyrennir i Gyngor Castell-nedd Port Talbot yn cefnogi’r
bobl ddifreintiedig sy’n byw yn yr ardal y mae’r swyddi a gollwyd yn TATA Steel
wedi effeithio arnyn nhw. Mae'r Undebau Llafur a'r Cyngor Lleol yn gweithio
mewn Partneriaeth Gymdeithasol i amddiffyn y gweithlu a bydd unrhyw refeniw
ychwanegol yn cynorthwyo partneriaethau ymhellach yn y cyfnod ofnadwy hwn.p-06-

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
·
Aberafan
·
Gorllewin De Cymru
[PetitionFooter]
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 17/01/2025