P-06-1527 Adolygu’r cyfyngiadau ar gerdded cwn ar draethau Cymru a chyhoeddi canllawiau ar gyfer cyrff perthnasol
P-06-1527 Adolygu’r cyfyngiadau ar gerdded cwn ar draethau Cymru a chyhoeddi canllawiau ar gyfer cyrff perthnasol
Petitions4
Cyflwynwyd y
ddeiseb hon gan Philip Coates, ar ôl casglu 361 lofnodion.
Geiriad y
ddeiseb:
Yn Lloegr, ee
Cernyw, caiff cŵn
eu gwahardd am gyfnod byrrach, rhwng 15 Mai a 30 Medi ar draethau'r Faner Las a
chyfnod gwyliau'r ysgol rhwng 1 Gorffennaf a 31 Awst ar draethau eraill, ond
caniateir mynediad i gŵn
hefyd y tu allan i oriau, rhwng 6pm a 10am.
Yng Nghymru
gymylog, lawog a gwyntog, cyfnod y gwaharddiad yw 1 Mai tan 30 Medi neu hyd yn
oed yn hirach (heb DDIM eithriadau amser y tu allan i oriau) gan fod yn
berthnasol i rai traethau cyffredinol, gwobrau Arfordir Glas a thraethau’r
Faner Las. Mae hyn 2 wythnos hyd yn oed cyn dechrau'r tymor ymdrochi swyddogol
ar 15 Mai o dan Reoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013 Cymru a Lloegr.
Nid oes UNRHYW
ragdybiaeth y dylai’r Faner Las gwmpasu traeth cyfan neu y dylid gosod eu tymor
rhwng 15 Mai a 30 Medi (neu hyd yn oed o 1 Mai!) na gwahardd mynediad y tu
allan i oriau. Dywed Cadwch Gymru'n Daclus (sy'n llunio dosbarthiad traethau'r
Faner Las yng Nghymru) mai mater i'r corff sy'n gwneud y cais yw penderfynu pa
mor hir fydd tymor y Faner Las o fewn amserlen y tymor Dŵr Ymdrochi ac ystyriaethau eraill.
Mae perchnogion
cyfrifol cŵn
yn clirio ar eu hôl ac
yn helpu i addysgu a phlismona eraill. Maent yn cydnabod ei bod yn werth
gwahardd cŵn
o draethau prysur yn yr haf. Ond maen nhw wedi cael digon ar gael eu gwahardd o
draethau gwag am 5 mis o'r flwyddyn heb ddim rheswm da o gwbl.
Mae adnoddau
Awdurdodau Lleol yn brin, ac ni allant fforddio plismona cŵn o draethau yn ddiangen. Byddai cyfnod
caeedig byrrach a gefnogir yn well i gerdded cŵn yn lleihau’r baich arnynt.
Mae adolygiad o
amseriad cŵn
ar draethau yn cyd-fynd ag ymgynghoriad diweddar (Tachwedd 2024) Rheoliadau
Dyfroedd Ymdrochi 2013. I gynorthwyo hyblygrwydd mae llywodraethau yng Nghymru
a Lloegr wedi cefnogi dileu rheoliad 4 (tymor ymdrochi sefydlog) o'r rheoliadau
i ganllawiau.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Rydym ni,
berchnogion cyfrifol ar gŵn
yng Nghymru, yn galw ar y Senedd i gydnabod gwerth cŵn - yn gymdeithasol, i economi Cymru, i'n
twristiaeth ac i iechyd a llesiant perchnogion cŵn. Hefyd, rinweddau cerdded cŵn ar draethau eang yn hytrach na chaeau,
llwybrau neu barciau mwdlyd.
Gofynnwn i'r
Senedd drafod y mater a chefnogi Llywodraeth Cymru i gyhoeddi canllawiau i
Awdurdodau Lleol Cymru (All), Cyfoeth Naturiol Cymru a Cadwch Gymru'n Daclus y
dylai'r cyfnod gwaharddiad diofyn ar gŵn o draethau Cymru ddilyn cyfnod Cernyw, ar y
cyfan, sef 1 Gorffennaf - 31 Awst a gyda mynediad ychwanegol o 6 - 10 y tu
allan i oriau, ac eithrio pan fo Awdurdodau Lleol yn cyflwyno achos dros
waharddiad hirach. Pan fydd ALl yn galw am waharddiad hirach, dylai ystyried
argaeledd cyfleoedd cerdded ar draeth cyfagos ac effeithiau cymdeithasol ac
economaidd.
Statws
Yn ei gyfarfod ar
16/06/2025 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon
wedi'i chwblhau.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod
gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 16/06/2025.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Gŵyr
- Gorllewin De Cymru
[PetitionFooter]
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 22/05/2025