<OpeningPara>Sefydlwyd y Pwyllgor Deisebau gan y
Senedd i gyflawni swyddogaethau’r pwyllgor cyfrifol a amlinellir yn Rheol
Sefydlog 23. Mae’n ystyried pob deiseb dderbyniadwy a gyflwynir i’r Senedd.
</OpeningPara>
<OpeningPara>Mae gan y Pwyllgor bedwar Aelod sy'n
dod o'r gwahanol grwpiau plaid sydd â chynrychiolaeth yn y Senedd, ac mae’n
cael ei gadeirio gan Jack Sargeant AS. </OpeningPara>
Newyddion
<news>Bydd y Pwyllgor yn cyfarfod nesaf ar ddydd
Llun 27 Mehefin 2022.</news><link>ieListMeetings.aspx?CommitteeId=744</link>
<news>Mae gwefan Deisebau’r Senedd wedi cael ei
diweddaru.
Ar gyfer pob deiseb, gallwch nawr weld ‘map gwres’ sy’n
dangos ble mae pobl wedi bod yn llofnodi’r ddeiseb. Gallwch weld mapiau sy’n
dangos y llofnodion yn ôl Etholaeth neu Ranbarth. Gobeithio y bydd y nodwedd
newydd hon yn ddefnyddiol i’r rhai sy’n creu deisebau a’r rhai sy’n eu
llofnodi.</news>
<news>Ddydd Mercher 16 Rhagfyr, cytunodd y Senedd i
ddiwygio’r Rheolau Sefydlog sy’n ymwneud â nifer y llofnodion sy'n ofynnol er
mwyn i ddeiseb gael ei hystyried gan y Pwyllgor Deisebau. O Ionawr 1 2022
ymlaen, bydd angen i unrhyw ddeiseb sy’n cael ei chyflwyno gasglu 250 o
lofnodion er mwyn i'r Pwyllgor ei
hystyried.</news><link>https://senedd.cymru/media/pe4fydb2/cr-ld14726-w.pdf</link>
<news>Yn dilyn etholiad Jack Sargeant AS yn
gadeirydd y Pwyllgor Deisebau ar 29 Mehefin 2021 yn y Cyfarfod Llawn, etholwyd
Buffy Williams AS, Joel James AS a Luke Fletcher MS yn aelodau o'r Pwyllgor
Deisebau ar 7 Gorffennaf
2021.</news><link>ieListDocuments.aspx?CId=700&MId=12322&Ver=4</link>
<news>Sefydlwyd y Pwyllgor ar 23 Mehefin 2021 gan
gynnig yn y Cyfarfod Llawn.</news><link>ieListDocuments.aspx?CId=700&MId=12318&Ver=4</link>
Gwaith Cyfredol
<inquiry>P-06-1161 Casglu a chyhoeddi data yn
rheolaidd o ran faint o fabanod/plant sy'n dychwelyd at ofal eu rhieni sydd
wedi bod mewn gofal ar ddiwedd Lleoliad Rhiant a Phlentyn</inquiry><link>https://busnes.senedd.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=37041</link>
<inquiry>P-06-1224 Dylunio cynllun peilot Incwm
Sylfaenol Cyffredinol 'Ymadawyr Gofal a Mwy' sy'n cynnwys amrywiaeth o
bobl</inquiry><link>https://busnes.senedd.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=38293</link>
<inquiry>P-06-1247 Rydym yn galw ar Lywodraeth
Cymru i arwain y ffordd drwy gefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng
Nghymru</inquiry><link>https://busnes.senedd.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=38607</link>
<inquiry>P-06-1253 Gwahardd rasio milgwn yng
Nghymru</inquiry><link>https://busnes.senedd.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=38716</link>