P-06-1489 Deddfu i sicrhau bod briciau gwenoliaid duon yn cael eu gosod ym mhob adeilad newydd yng Nghymru
P-06-1489 Deddfu i sicrhau bod briciau gwenoliaid duon yn cael eu gosod ym mhob adeilad newydd yng Nghymru
Petitions3
Cyflwynwyd y
ddeiseb hon gan Julia Susan Barrell, ar ôl casglu cyfanswm o 10,934 lofnodion.
Geiriad y
ddeiseb:
Gwennoliaid duon yw'r
adar cyflymaf wrth hedfan yn wastad a gallant gysgu, bwyta, yfed a pharu ar yr
adain. Eu cri yw sŵn
yr haf Cymreig. Yn anffodus, mae eu niferoedd yn gostwng yn gyflym – i lawr 72 y cant yn y 30 mlynedd
diwethaf. Mae gwenoliaid duon yn nythu mewn tyllau mewn adeiladau. Mae gwaith
adnewyddu’n
amddifadu’r adar
o’u cartrefi, ac nid oes
ceudodau i’w cael
mewn adeiladau newydd ar hyn o bryd. Heb fwy o opsiynau ar gyfer nythu, bydd
gwenoliaid duon yn diflannu. Byddai ymgorffori briciau gwenoliaid duon ym mhob
datblygiad newydd yn helpu gydag adferiad gwenoliaid duon (ac adar eraill sydd
mewn trafferthion, megis gwenoliaid y bondo ac adar y to).
Gwybodaeth
ychwanegol:
Mae data
Ymddiriedolaeth Adareg Prydain yn dangos gostyngiad o 72 y cant yn niferoedd
gwenoliaid duon Cymru rhwng 1995 a 2018. Maent ar y Rhestr Goch fel Adar o
Bryder Cadwraethol. Mae gwenoliaid duon yn wynebu llawer o heriau, ond mae
colli safleoedd nythu yn ffactor mawr. Oherwydd maint y dirywiad yng Nghymru, a
dinistriad parhaus eu safleoedd nythu diymgeledd, dim ond dull gorfodol fydd yn
sicrhau digon o leoedd nythu newydd fel y gall niferoedd gwenoliaid duon
ddychwelyd i rywbeth tebyg i’w lefelau blaenorol. Ar gyfer hyn mae angen newid
rheoliadol neu ddeddfwriaethol.
Mae briciau
gwenoliaid duon yn flychau nythu y gellir eu hadeiladu i mewn i wal. Mae
ganddynt safon y BSI, ac maent yn fforddiadwy, yn gynaliadwy, ac yn hawdd eu
gosod. Nid oes angen eu cynnal na’u hamnewid, ac maent yn helpu i wrthdroi
dirywiad adar eraill sy'n nythu mewn tyllau.
Mae bywydau
gwenoliaid duon wedi’u cydblethu â’n bywydau ni ers canrifoedd. Mae cysylltiad
yr aderyn hwn ag adeiladau i'w weld mewn hen enw amdano – aderyn yr eglwys. Mae
gwenoliaid duon yn rhywogaeth garismatig; maent yn bywiogi ardaloedd adeiledig,
gan ysbrydoli pobl a chymunedau. Maen nhw'n dibynnu arnom ni - byddai eu
diflaniad yn golled wirioneddol.

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Gorllewin Caerdydd
- Canol De Cymru
[PetitionFooter]
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 25/11/2024