P-06-1475 Gwella diogelwch yr A458, Treberfedd, Powys ar frys yn sgil gyrru peryglus parhaus
P-06-1475 Gwella diogelwch yr A458, Treberfedd, Powys ar frys yn sgil gyrru peryglus parhaus
Petitions4
Cyflwynwyd y
ddeiseb hon gan Amanda Jenner, ar ôl casglu 311 lofnodion.
Geiriad y
ddeiseb:
Yn dilyn nifer o ddamweiniau
a marwolaeth drasig preswylydd lleol ar yr A458, Treberfedd (y tu allan i Bank
Farm), mae’r Cyngor Cymuned a’r Cynghorydd Lleol wedi galw am welliannau
diogelwch brys ar y rhan hon o'r ffordd i helpu i atal ceir rhag goddiweddyd yn
beryglus lle mae dau bant cudd. Mae ymateb diweddar gan y Gweinidog
Trafnidiaeth yn dweud nad oes unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd ar gyfer
gwelliannau diogelwch ar y ffyrdd yn y lleoliad hwn. Ni allwn aros am
farwolaeth arall. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu.
Gwybodaeth
ychwanegol:
Mae trigolion
lleol, yn ogystal â llawer o aelodau eraill o'r cyhoedd sy'n teithio ar y
ffordd hon yn rheolaidd, wedi’u tristáu ac yn rhwystredig nad oes unrhyw beth
arall yn cael ei ystyried ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru i wella diogelwch
y ffyrdd yn yr ardal hon. Dylai Ysgrifennydd y Cabinet fod yn bresennol mewn
cyfarfod ar y safle i drafod y pryderon ymhellach.
Er mwyn gwella'r
rhan hon o'r ffordd, mae angen rhoi ystyriaeth frys i ddarparu'r canlynol:
• Camera
cyflymder parhaol
• Ymestyn y
llinellau 'dim goddiweddyd' gwyn dwbl i'r ddau gyfeiriad
• Rhoi wyneb
newydd ar y ffordd, yn benodol yr ardaloedd tarmac coch.
• Golau sy'n
fflachio sy'n dangos cyflymder gyrrwr ac yn dweud na ddylid goddiweddyd ceir
eraill.
• Golau sy'n
fflachio i dynnu sylw at y ffaith bod car yn y pant cudd o'u blaenau.
Fel rhan o'r
adolygiad o ddiogelwch ar y ffyrdd, hoffem i gyflymder y ffordd gael ei
ystyried, ac a fyddai lleihau'r cyflymder yn helpu i atal unrhyw ddamweiniau yn
y dyfodol
Statws
Yn ei gyfarfod ar
16/06/2025 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon
wedi'i chwblhau.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod
gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 02/12/2024.

Etholaeth a Rhanbarth y
Senedd
·
Sir
Drefaldwyn
·
Canolbarth
a Gorllewin Cymru
[PetitionFooter]
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 19/11/2024