P-06-1523 Gwrthdroi’r Penderfyniad i Gau Cyrsiau Cwnsela a Seicotherapi Ôl-raddedig ym Mhrifysgol De Cymru
P-06-1523 Gwrthdroi’r Penderfyniad i Gau Cyrsiau Cwnsela a Seicotherapi Ôl-raddedig ym Mhrifysgol De Cymru
Petitions4
Cyflwynwyd y
ddeiseb hon gan Kelsey Young, ar ôl casglu 584 lofnodion.
Geiriad y
ddeiseb:
Rydym yn annog Prifysgol
De Cymru i wrthdroi ei phenderfyniad i gau cyrsiau cwnsela a seicotherapi
allweddol. Mae'r rhaglenni hyn yn darparu hyfforddiant hanfodol ac yn cefnogi
gwasanaethau iechyd meddwl lleol. Bydd colli’r cyrsiau’n lleihau mynediad at
therapyddion cymwys ac yn gorfodi myfyrwyr i hyfforddi yn Lloegr. Rhaid i
Brifysgol De Cymru ymgynghori â myfyrwyr a rhanddeiliaid, gan gynnwys
Llywodraeth Cymru, i ddod o hyd i ateb sy'n diogelu’r cyrsiau hanfodol hyn.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Mae myfyrwyr ar y
cyrsiau hyn yn rhoi cefnogaeth hanfodol i elusennau, ysgolion, a gwasanaethau'r
GIG. Bydd eu habsenoldeb yn gwaethygu'r straen ar ddarpariaethau sydd eisoes
wedi'u gorymestyn.
Heb unrhyw
hyfforddiant seicotherapi ôl-raddedig Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain
arall yng Nghymru, rhaid i fyfyrwyr deithio i Loegr, gan gynyddu heriau
ariannol a logistaidd. Mae hyn yn effeithio'n anghymesur ar fyfyrwyr aeddfed
a'r rheini o gefndiroedd incwm is, gan leihau amrywiaeth yn y proffesiwn.
Nid yw Prifysgol
De Cymru wedi dilyn ei pholisïau ei hun ar ymgynghori, gan fethu ag ymgysylltu
â myfyrwyr a rhanddeiliaid cyn gwneud penderfyniadau.
Mae'r cyrsiau hyn
yn hanfodol ar gyfer hyfforddi gweithwyr proffesiynol medrus a sicrhau cymorth
iechyd meddwl hygyrch. O ystyried y galw cynyddol am wasanaethau, mae'r
penderfyniad hwn yn gibddall ac yn niweidiol.
Rydym yn annog
Gweinidogion Cymru a Phrifysgol De Cymru i ailystyried ac i archwilio atebion
amgen, megis ailstrwythuro rhaglenni neu sicrhau cyllid ychwanegol. Mae
diogelu’r cyrsiau hyn yn hanfodol ar gyfer dyfodol cwnsela a seicotherapi yng
Nghymru.
Statws
Yn ei gyfarfod ar
16/06/2025 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon
wedi'i chwblhau.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod
gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 16/06/2025.

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Torfaen
- Dwyrain De Cymru
[PetitionFooter]
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 22/05/2025