P-06-1463 Parhau i ariannu swyddogion heddlu ysgolion sy'n addysgu plant ac yn cefnogi ysgolion
P-06-1463 Parhau i ariannu swyddogion heddlu ysgolion sy'n addysgu plant ac yn cefnogi ysgolion
Petitions4
Cyflwynwyd y
ddeiseb hon gan Cai Gleaves, ar ôl casglu 5,717 lofnodion.
Geiriad y
ddeiseb:
Caniataodd School
Beat Cymru i 68 o swyddogion heddlu ysgolion o’r pedwar heddlu yng Nghymru gyflwyno gwersi ar
gamddefnyddio sylweddau, diogelwch personol, materion diogelu ac ymddygiad.
Ond mae
Llywodraeth Cymru am roi'r gorau i ariannu'r cynllun er mwyn arbed £2m y
flwyddyn o fis Ebrill ymlaen.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Bydd hyn yn cael
effaith niweidiol ar adnoddau ysgolion a’r heddlu, sydd eisoes dan bwysau
sylweddol. Yn ogystal ag addysgu disgyblion, mae swyddogion heddlu ysgolion yn
ymateb i helyntion mewn ysgolion. Maent wedi datblygu sgiliau a gwybodaeth
benodol i ymdrin â phroblemau mewn ysgolion ac wedi meithrin perthynas waith
dda gyda staff a disgyblion. Heb swyddog heddlu penodedig, bydd yn rhaid i
ysgolion ffonio 101, a gallai hynny hefyd orlethu’r ganolfan gyfathrebu a rhoi
pwysau ychwanegol ar swyddogion ymateb cyffredinol. Bydda hyn yn lleihau
ymhellach yr adnoddau i ymateb i alwadau eraill. Mae helyntion yn codi’n
rheolaidd mewn ysgolion, yn enwedig ysgolion uwchradd, ac mae cael swyddog
penodedig yn ffordd fwy effeithiol ac effeithlon o ymdrin â sefyllfaoedd o'r
fath.
Statws
Yn ei gyfarfod
ar 24/03/2025 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y
ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod
gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 02/12/2024

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd:
>>>>
>>>Dwyrain
Caerfyrddin a Dinefwr
>>>Canolbarth
a Gorllewin Cymru
<<<
[PetitionFooter]
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 21/08/2024