P-06-1499 Rhoi terfyn ar y defnydd o’r term 'Darpariaeth Gyffredinol' fel rheswm dros wrthod ADY.
P-06-1499 Rhoi terfyn ar y defnydd o’r term 'Darpariaeth Gyffredinol' fel rheswm dros wrthod ADY.
Petitions4
Cyflwynwyd y
ddeiseb hon gan Victoria Lightbown, ar ôl casglu 1,454 o lofnodion.
Geiriad y
ddeiseb:
Dros y misoedd diwethaf,
bu llawer o drafod ynghylch y term Darpariaeth Gyffredinol. Mae Deddf Anghenion
Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a Llywodraeth Cymru wedi
rhoi canllawiau clir o ran ystyr y term hwn. Eto, er gwaethaf yr eglurhad hwn,
mae Awdurdodau Lleol ac aelodau o Lywodraeth Cymru yn parhau i ganiatáu i’r
term hwn gael ei ddefnyddio i wrthod statws ADY i ddysgwr a darparu darpariaeth
ddysgu ychwanegol. Gall fod un ateb yn
unig a hynny yw i’r defnydd o’r term hwn gael ei wahardd.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Tra bo aelodau o
Lywodraeth Cymru yn parhau i ddefnyddio’r term hwn wrth drafod ADY, gan gynnwys
yn ystod cyfweliadau i’r cyfryngau, mae’n rhoi cyfle i Awdurdodau Lleol wneud
yr un peth, a pharhau i wrthod ADY i ddysgwyr.
Mae gwaith
parhaus drwy’r ymchwiliad i ddiwygiadau addysg a’r Pwyllgor PPIA, ond mae
materion parhaus gyda theuluoedd sy’n codi sy’n dangos anghysondebau ymysg
awdurdodau yng Nghymru a Llywodraeth Cymru.
Statws
Yn ei gyfarfod
ar 24/11/2025
penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod
gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 16/06/2025.

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
·
Gorllewin
Clwyd
·
Gogledd
Cymru
[PetitionFooter]
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 16/01/2025