P-06-1443 Ailsefydlu cyllid craidd ar gyfer TRAC Cymru (Traddodiadau Cerdd Cymru)
P-06-1443 Ailsefydlu cyllid craidd ar gyfer TRAC Cymru (Traddodiadau Cerdd Cymru)
Petitions4
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Owen Shiers, ar ôl casglu
cyfanswm o 822 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Ffurfiwyd TRAC i hyrwyddo a thynnu sylw at draddodiadau cerddoriaeth
werin a dawns Cymru, er mwyn iddynt gael eu cefnogi ar yr un lefel â mathau
eraill o gerddoriaeth glasurol a chyfoes, a genres diwylliannol eraill.
Cymerwyd camau breision yn y degawdau diwethaf i feithrin
diwylliant gwerin Cymru, a hyrwyddo Cymru ar lefel ryngwladol. Er gwaethaf
hynny, mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi penderfynu dileu cyllid craidd TRAC,
gan olygu na allant barhau â'u gwaith hanfodol. Dyma fynnu bod y cyllid hwn yn
cael ei adfer.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Mae celfyddydau traddodiadol Cymru yn garreg sylfaen yn
hunaniaeth ein cenedl. Mae ein cerddoriaeth, ein cân, ein dawns, a’n straeon
llafar yn cario ac yn mynegi ein diwylliant a’n ffordd o fyw nodedig. Dyma
draddodiadau a gadwyd yn fyw ers canrifoedd gan werin Cymru, gydag ychydig iawn
o gydnabyddiaeth na chefnogaeth gan lywodraeth ganolog.
Sefydlwyd TRAC yn 1997 gan grŵp o gerddorion gwerin
a chefnogwyr a oedd yn rhannu cred ym mhwysigrwydd a gwerth ein diwylliant
traddodiadol, ymwybyddiaeth o’i berthnasedd parhaus i’r presennol, ac angerdd
dros rannu’r hyn sydd gan draddodiadau cerddorol i’w gynnig.
Heb gefnogaeth, mae’r ffurfiau traddodiadol hyn yn colli
buddsoddiad a ffocws i ffurfiau clasurol a chyfoes o greu cerddoriaeth, ac
maent mewn perygl o berthyn i amgueddfeydd yn hytrach na bod yn draddodiad
gwerin byw sy’n llywio ein diwylliant cyfoes a’n hymdeimlad o hunaniaeth.
Mae llawer o gynnydd wedi’i wneud yn y degawdau diwethaf
i unioni’r fantol, ond mae cael gwared ar gyllid craidd TRAC yn fygythiad
gwirioneddol.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 16/06/2025 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon
wedi'i chwblhau.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar
08/07/2024.
Etholaeth a Rhanbarth y
Senedd
- Caerffili
- Dwyrain De Cymru
[PetitionFooter]
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 30/07/2024