Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Price
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 08/07/2024 - Y Pwyllgor Deisebau
| Rhif | Eitem |
|---|---|
|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chyflwynwyd
ymddiheuriadau. Roedd yr holl
Aelodau’n bresenol. |
|
|
Deisebau newydd |
|
|
P-06-1422 Diddymu’r terfyn cyflymder 20mya ar y TRA4076 yn Johnston, Sir Benfro Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod Llywodraeth Cymru yn adolygu ac yn diweddaru
sut y dylid cymhwyso ei chanllawiau i awdurdodau priffyrdd ar bennu eithriadau
i’r terfyn cyflymder 20mya newydd. Nododd y Pwyllgor y byddai’r canllawiau
diwygiedig yn cael eu cyhoeddi’n fuan, ac y byddai awdurdodau priffyrdd yn rhoi
newidiadau ar waith o fis Medi. Yn sgil hyn, cytunodd yr Aelodau nad oedd
unrhyw gamau pellach y gallai’r Pwyllgor eu cymryd a chau’r ddeiseb, gan
ddiolch i’r deisebydd. |
|
|
P-06-1428 Stopiwch y llifogydd yn Cae Nant Terrace, Sgiwen NAWR! Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chroesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i ymrwymo i roi
£765,000 i'r awdurdod rheoli risg lleol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd
Port Talbot, i ddatblygu cynllun atal llifogydd ar gyfer Cae Nant Terrace.
Roedd y Pwyllgor yn bryderus ynghylch y penderfyniad i ohirio’r broses ymgeisio
ar gyfer dylunio a chyllid tan ddechrau 2025 a chytunodd i ysgrifennu at y
cyngor i bwysleisio’r angen i’r gwaith fynd rhagddo cyn gynted â phosibl.
Cytunodd y Pwyllgor i gadw'r ddeiseb yn agored hyd nes y bydd ymateb yn dod i
law. |
|
|
P-06-1436 Dileu cynlluniau i newid strwythur y flwyddyn ysgol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a nododd benderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â gwneud
newidiadau i'r flwyddyn ysgol yn ystod tymor y Senedd hon. Cytunodd y Pwyllgor
i gau'r ddeiseb a llongyfarch y deisebydd ar ganlyniad llwyddiannus. |
|
|
P-06-1442 Ehangu prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion uwchradd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Jack
Sargeant AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Aelodaeth o Uno’r
Undeb, a greodd ddeiseb P-06-1442. Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a nododd ymgyrch debyg gan Ysgol Sant Joseff yn Wrecsam,
sy'n gweithio gyda thîm Addysg y Senedd. Cytunodd y Pwyllgor yr hoffai
ddychwelyd at y mater a chlywed yn uniongyrchol gan ddisgyblion Ysgol Sant
Joseff (drwy'r Tîm Addysg). |
|
|
P-06-1443 Ailsefydlu cyllid craidd ar gyfer TRAC Cymru (Traddodiadau Cerdd Cymru) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i'w gadael ar agor, gan nad oedd wedi cael
ymateb gan Trac Cymru eto. Nododd y Pwyllgor mai hon oedd y drydedd ddeiseb yn
ymwneud â chyllid diwylliannol sydd wedi cael ei hystyried yn ystod y misoedd
diwethaf. Cytunodd i ddychwelyd at y ddeiseb unwaith y byddai ymateb wedi dod i
law. |
|
|
P-06-1445 Newid Treth Trafodiadau Tir ar gyfer y rheini sy’n prynu cartref am y tro cyntaf yng Nghymru, i fod yn unol â Llywodraeth y DU Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros
Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa'r Cabinet i egluro'r pwyntiau a wnaed gan y
deisebydd. |
|
|
P-06-1447 Atal Cyfoeth Naturiol Cymru rhag cau’r ganolfan ymwelwyr yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Ynyslas Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Cyfoeth Naturiol Cymru i ofyn am
eglurhad ynghylch a oedd penderfyniad wedi'i wneud i gau Ynyslas, a phryd y
gallai hynny fod wedi digwydd. Cytunodd y Pwyllgor i anfon copi at Gadeirydd
Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith y Senedd i roi gwybod iddo,
gan ei fod wedi gwneud argymhellion i Cyfoeth Naturiol Cymru yn flaenorol ar
fater canolfannau ymwelwyr. |
|
|
P-06-1448 Atal llygredd ym Mae’r Tŵr Gwylio ac Aberogwr Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunwyd i'w chadw ar agor hyd nes y bydd Cyfoeth
Naturiol Cymru yn cyhoeddi ystadegau llygredd dŵr newydd ym mis Rhagfyr 2024. Cytunodd y
Pwyllgor i ddychwelyd at y ddeiseb ym mis Rhagfyr a nododd fod Ysgrifennydd y
Cabinet wedi tynnu sylw at waith i ymchwilio i ffactorau sy’n achosi’r lefelau
llygredd dŵr
yn yr ardaloedd yr effeithir arnynt. |
|
|
P-06-1456 Ymchwiliad cyhoeddus llawn i gau canolfannau Ambiwlans Awyr Cymru yng nghanolbarth a gogledd Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod y deisebydd wedi cau'r ddeiseb ar ôl iddi
gyrraedd 10,000 o lofnodion, sef y trothwy i ddeisebau gael eu hystyried ar
gyfer dadl yn y Siambr. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Bwyllgor Busnes y
Senedd i wneud cais am ddadl. |
|
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
|
P-06-1291 Cynnal ymchwiliad i’r pryniant corfforaethol o’r proffesiwn milfeddygol yng Nghymru. Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor i ysgrifennu at yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd i roi
amlinelliad o’r ddeiseb, tynnu sylw at y dystiolaeth yr oedd wedi’i chasglu ac
i ofyn am gadarnhad y bydd yn ystyried y dystiolaeth yn ei drafodaethau. |
|
|
P-06-1374 Dylai tirfeddiannwyr Cymru – yn yr un modd â Lloegr – allu caniatáu 60 diwrnod y flwyddyn o wersylla mewn pebyll a faniau. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd i annog datrysiad
erbyn Pasg 2025. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i gadw'r ddeiseb yn agored hyd nes y
bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal ymgynghoriad pellach. |
|
|
P-06-1398 Cynyddu effeithiolrwydd gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru i atal llygredd yn y Teifi. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Cytunodd y
Pwyllgor y dylai’r deisebwyr drefnu trafodaethau unigol ag Aelodau o’r Senedd
cyn Cyllideb Llywodraeth Cymru er mwyn i’r Aelodau allu gyfleu eu barn yn ystod
dadleuon ar y Gyllideb. Nododd y Pwyllgor ddadl a arweiniwyd gan y Pwyllgor
Cyllid ar flaenoriaethau ariannu ar gyfer y Gyllideb nesaf a chytunwyd y
byddai'r Cadeirydd yn ceisio cyfrannu ar ran y Pwyllgor. Cytunodd y Pwyllgor i
gau’r ddeiseb. |
|
|
P-06-1335 Dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau i sicrhau y gall oedolion agored i niwed heb gerdyn banc dalu ag arian parod. Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor i gadw'r ddeiseb ar agor tra'n aros am ymateb Llywodraeth Cymru a'r
ddadl sydd i ddod yn y Siambr. Cytunodd y Pwyllgor i ddychwelyd at y ddeiseb yn
yr hydref. |
|
|
P-06-1437 Tyfu, nid torri, cyllid y Llyfrgell Genedlaethol, Amgueddfa Cymru a'r Comisiwn Brenhinol Dogfennau ategol: Cofnodion: Gwnaeth y
Cadeirydd ddiolch i Rhiannon Passmore AS, a arweiniodd y ddadl ar y ddeiseb hon
yn y Siambr ar 26 Mehefin. Nododd y Pwyllgor fod y ddeiseb wedi’i rhannu â’r
Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau
Rhyngwladol a’r Pwyllgor Cyllid. Gwnaeth y Pwyllgor ddiolch i'r deisebydd a
chau’r ddeiseb. |
|
|
Papur i’w nodi |
|
|
P-06-1368 Dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau i gadw’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol mewn perthynas â Chymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Nodwyd y papur
hwn gan y Pwyllgor. |
|
|
P-06-1408 Dylid gwneud y mynediad i Ardd Gudd A4042 Goetre Fawr yn ddiogel ar gyfer cerddwyr a cherbydau Dogfennau ategol: Cofnodion: Nodwyd y papur
hwn gan y Pwyllgor. |
|
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniwyd y
cynnig. |
|
|
Diweddariad ar Adroddiad Blynyddol a'r Eisteddfod Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ei gynlluniau ar gyfer toriad yr haf, gan gynnwys cyhoeddi ei
Adroddiad Blynyddol a chael presenoldeb amlwg yn yr Eisteddfod Genedlaethol. |
PDF 202 KB