P-06-1335 Dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau i sicrhau y gall oedolion agored i niwed heb gerdyn banc dalu ag arian parod
P-06-1335 Dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau i sicrhau y gall oedolion agored i niwed heb gerdyn banc dalu ag arian parod
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Mencap Cymru, ar ôl casglu 1,926 lofnodion
ar-lein ac 578 o lofnodion ar bapur, sef cyfanswm o 2,504 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae Mencap Cymru yn pryderu y gall y newid tuag at gymdeithas heb arian
parod wneud cam â phobl anabl na allant gael mynediad at ddulliau electronig ar
gyfer talu.
Yn ystod y misoedd diwethaf, mae pobl ag anableddau dysgu wedi methu talu
am nwyddau a gwasanaethau ac wedi gorfod gadael busnesau’n waglaw. Ni
chaniateir i weithwyr cymorth ddefnyddio’u cardiau eu hunain, ac ni ddylid
disgwyl iddynt wneud hynny.
Mae’n mynd yn anoddach iddynt brynu nwyddau a gwasanaethau wrth i nifer o
fusnesau a sefydliadau droi at systemau electronig o dalu.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Cwm Cynon
- Canol De Cymru
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 18/05/2023