P-06-1374 Dylai tirfeddiannwyr Cymru - yn yr un modd â Lloegr - allu caniatáu 60 diwrnod y flwyddyn o wersylla mewn pebyll a faniau

P-06-1374 Dylai tirfeddiannwyr Cymru - yn yr un modd â Lloegr - allu caniatáu 60 diwrnod y flwyddyn o wersylla mewn pebyll a faniau

O dan ystyriaeth

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Andrew Richard Walton, ar ôl casglu cyfanswm o 430 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:

Yn ystod Covid, estynnodd Cymru hawliau tirfeddianwyr i ganiatáu gwersylla mewn pebyll a faniau gwersylla/cartrefi modur o 28 diwrnod y flwyddyn i 56. Yn 2022, dychwelodd hynny i 28 diwrnod ond cynhaliwyd ymgynghoriad ynghylch gwneud cyfraith 56 diwrnod. Mae cyhoeddiad diweddar gan y Senedd wedi gohirio unrhyw newid parhaol. Ym mis Gorffennaf 2023, mae gan Loegr 60 diwrnod o wersylla a ganiateir, gan roi tirfeddianwyr Cymru dan anfantais. Anogaf y Senedd i edrych ar y gwelliannau i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref 2023 ac ystyried eu dwyn i mewn i gyfraith Cymru.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Mae’r gwelliant newydd, a basiwyd yn Lloegr ym mis Gorffennaf 2023, yn caniatáu 60 diwrnod o wersylla – gyda hyd at 50 o bebyll a faniau gwersylla/cartrefi modur – y flwyddyn i dirfeddianwyr, yn amodol ar rai rheoliadau newydd: https://www.legislation.gov.uk/cy/uksi/2023/747/article/3/made

Ymateb y Senedd oedd fod yr ymgynghoriad yng Nghymru wedi dod i ben, ac y byddai newidiadau i’r rheolau gwersylloedd dros dro yn cael eu hystyried mewn diweddariad o’r rheolau hawliau cynllunio a ganiateir yn y dyfodol:

https://cofnod.senedd.cymru/WrittenQuestion/87749

Anogaf fod yr adolygiad hwn yn cael ei gynnal yn awr, ac yn ceisio bod mor gyson â phosibl â’r gwelliannau yn Lloegr er mwyn peidio â rhoi tirfeddianwyr Cymreig fel fi – sydd am arallgyfeirio’r defnydd o’u tir er mwyn cynnal incwm yn y cyfnod anodd hwn i bawb – o dan anfantais.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Ceredigion
  • Canolbarth a Gorllewin Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 06/11/2023