P-06-1437 Tyfu, nid torri, cyllid y Llyfrgell Genedlaethol, Amgueddfa Cymru a’r Comisiwn Brenhinol

P-06-1437 Tyfu, nid torri, cyllid y Llyfrgell Genedlaethol, Amgueddfa Cymru a’r Comisiwn Brenhinol

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Susan Jane Jones Davies, ar ôl casglu 12,075 o lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:    

 

Galwn ar Lywodraeth Cymru i dyfu gwariant ar sefydliadau sy’n diogelu treftadaeth a hanes Cymru - Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Cymru a’r Comisiwn Brenhinol - ac nid torri’r cyllid o 10.5 - 22.3%

Mae’r sefydliadau yma yn gwarchod gwaddol hanes a diwylliant ein cenedl, yn casglu, yn rhoi ar gadw, ac yn ei gyflwyno i bawb sy’n byw yng Nghymru. Maent hefyd yn gosod ffenest i’r byd o’n hanes unigryw.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

 

O ystyried bod buddsoddiad yn y sector o £1 yn dod â thwf o £5 i’r economi, nid yw’r arbedion o 0.02% i’r cyllideb cenedlaethol yn gwneud synnwyr.

Gyda thoriadau llym i gyllidebau ysgolion, a chymdeithas yng Nghymru yn wynebu heriau tlodi a diffygion mewn darpariaeth iechyd a gofal, mae cyn bwysiced ag erioed dal gafael ar ganolfannau sy’n cynnal a thyfu ein gwlad a’n cymunedau, gan ganiatau i’r cenedlaethau a ddaw adeiladu ar seiliau cadarn llwyddiannau’r gorffennol.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

·     Ceredigion

·     Canolbarth a Gorllewin Cymru 

 

Rhagor o wybodaeth

·     Hafan y Pwyllgor Deisebau

·     Gweld pob deiseb sydd ar agor

·     Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach yn ystyried

·     Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio

·     Briffiau ymchwil deisebau

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 18/06/2024