P-06-1428 Stopiwch y llifogydd yn Cae Nant Terrace, Sgiwen NAWR!

P-06-1428 Stopiwch y llifogydd yn Cae Nant Terrace, Sgiwen NAWR!

Petitions4

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Susan Martin Kerslake, ar ôl casglu cyfanswm o 776 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:

Am y 40 mlynedd diwethaf, mae Cae Nant wedi dioddef llifogydd yn rheolaidd oherwydd nad yw’r cwlfert a’r system ddraenio yn gallu ymdopi â faint o ddŵr. Ac eto, maer teras yn cael ei droin afon gyda miloedd o alwyni o ddŵr yn arllwys i lawr y ffordd ar lôn gefn. Mae un tŷ wedi dioddef llifogydd sylweddol yn yr achos diweddaraf hwn o dorrir rheolau.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Mae'r cyngor wedi bod yn dweud wrth drigolion ers blynyddoedd y bydd yn cael ei drwsio, ond rydym bellach wedi cael digon ac yn deisebu i sicrhau bod:

 

1. Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn cytuno ar ateb sy'n dileu'r risg y bydd y llifogydd rheolaidd hyn yn digwydd eto; a

2. Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod cyllid yn cael ei ddarparu i gyflawni’r gwaith cyn gynted â phosibl.

 

Dywedodd y swyddog draenio ddoe nad yw’r system yn addas i’r diben, ac rydym yn annog pob corff cyfrifol i gymryd camau nawr.

 

Statws 

Yn ei gyfarfod ar 30/09/2024 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod. 

 

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 08/07/2024. 

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd:

>>>> 

>>>Aberafan

>>>Gorllewin De Cymru

<<< 

 

[PetitionFooter]

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 30/07/2024