P-06-1442 Ehangu prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion uwchradd
P-06-1442 Ehangu prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion uwchradd
Petitions4
Cyflwynwyd y
ddeiseb hon gan Unite Community Cardiff and Area Branch, ar ôl casglu cyfanswm
o 254 lofnodion.
Geiriad y
ddeiseb:
Rydym yn galw am
y canlynol:
Gweithredu prydau
ysgol am ddim i holl ddisgyblion ysgolion uwchradd, ni waeth beth fo'u gofynion
dietegol o ran alergeddau, crefydd neu resymau personol.
Sicrhau, hyd y
gellir, fod y prydau ysgol am ddim yn dod o ffynonellau moesegol a chynaliadwy,
a bod hawliau gweithwyr yn y gadwyn gyflenwi yn cael eu diogelu.
Annog pob ysgol i
gael cegin o ansawdd dda ar y safle sy’n gwneud bwyd ffres pryd bynnag y bo
modd a, phan na fo modd, fod cyflenwyr yn defnyddio cynnyrch ffres a lleol.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Fel rhan o’r
Cytundeb Cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn 2021,
cyflwynwyd prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd. Mae gwneud hyn
wedi bwydo degau o filoedd o blant ifanc y mae llawer ohonynt mewn tlodi, ac
mae wedi lleihau yn aruthrol y stigma ynghylch derbyn y prydau bwyd hyn. Rhaid
i fwydo plant fod yn flaenoriaeth wleidyddol bob amser.
Mae’n bryd i hyn
fynd yn ei flaen. Yn ôl y Grŵp
Gweithredu ar Dlodi Plant, mae 19% – sef tua 25,000 – o
blant mewn tlodi yn dal i fod heb fynediad at brydau ysgol am ddim oherwydd y
profion modd mewn ysgolion uwchradd. Mae risg y byddan nhw’n mynd heb fwyd, ac mae Ymddiriedolaeth
Trusell yn amcangyfrif bod 20% o oedolion yng Nghymru yn profi ansicrwydd bwyd.
Yn ogystal,
credwn fod modd, a bod rhaid, i brydau ysgol am ddim i holl blant gael eu
defnyddio i addysgu, gan gynnwys addysgu economeg y cartref yng Nghymru a
hyrwyddo gwerth am arian a diet iach yn enwedig, ynghyd â ffynonellau lleol,
moesegol a chynaliadwy, fel rhan o’r Cwricwlwm i Gymru.
Statws
Yn ei gyfarfod
ar 14/10/2024 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y
ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod
gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 8/7/2024.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd:
>>>>
>>>Gorllewin
Caerdydd
>>>Canol
De Cymru
<<<
[PetitionFooter]
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 30/07/2024