P-06-1445 - Newid Treth Trafodiadau Tir ar gyfer y rheini sy’n prynu cartref am y tro cyntaf yng Nghymru, i fod yn unol â Llywodraeth y DU
P-06-1445 - Newid Treth Trafodiadau Tir ar gyfer y rheini sy’n prynu cartref am y tro cyntaf yng Nghymru, i fod yn unol â Llywodraeth y DU
Petitions4
Cyflwynwyd y
ddeiseb hon gan Taylor Reynish, ar ôl casglu cyfanswm o 268 lofnodion.
Geiriad y
ddeiseb:
Mae Llywodraeth y
DU wedi dileu’r dreth stamp ar gyfer y rheini sy’n prynu eiddo – am y tro
cyntaf – o dan £425k yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae angen i Lywodraeth Cymru
wneud yr un peth drwy leihau Treth Trafodiadau Tir i’r un gyfradd ar gyfer y
rheini sy’n prynu cartref am y tro cyntaf yng Nghymru. Ar hyn o bryd nid oes
cyfradd ffafriol ar gyfer y rheini sy’n prynu cartref am y tro cyntaf yng
Nghymru. Yn hytrach, dim ond cyfradd unffurf o lai na £225k ydyw am bob cartref
a brynir yma. Gyda phrisiau eiddo yn codi'n gyflym, mae'n dod yn fwyfwy anodd
dod o hyd i eiddo afon o dan drothwy Llywodraeth Cymru, sef £225k.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Mae prynu cartref
cyntaf wedi dod yn fwyfwy anodd i’r rheini sy’n gwneud am y tro cyntaf – gyda’r
argyfwng costau byw presennol, a chyfraddau morgais yn codi – ac mae’n cael ei
wneud hyd yn oed yn fwy anodd yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru, yn sgil peidio
ag ychwanegu cymhelliant ychwanegol, fel y mae Llywodraeth y DU wedi’i wneud.
Drwy beidio â chael gwared ar y dreth, hon bydd yn ychwanegu at bobl sy’n dal i
orfod rhentu yng Nghymru, yn methu â chael mynediad i’r farchnad dai neu hyd yn
oed yn prynu y tu allan i Gymru. Pam cyfyngu ar y cymorth a’r dewis i’r rheini
sy’n prynu am y tro cyntaf yng Nghymru? Yn fy marn i, dylid cynnig cymaint o
help â phosibl i roi pobl ar ben ffordd i brynu cartref.
Statws
Yn ei gyfarfod
ar 10/11/2025 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y
ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod
gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 08/07/2024.
Etholaeth a
Rhanbarth y Senedd:
>>>>
>>>Dwyrain
Casnewydd
>>>Dwyrain
De Cymru
<<<
[PetitionFooter]
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 30/07/2024