P-06-1422 Diddymu’r terfyn cyflymder 20mya ar y TRA4076 yn Johnston, Sir Benfro

P-06-1422 Diddymu’r terfyn cyflymder 20mya ar y TRA4076 yn Johnston, Sir Benfro

Petitions4

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Helen Meopham, ar ôl casglu cyfanswm o 301 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ynghylch gostwng y terfyn cyflymder i 20mya yn nodi y dylid “yn gyffredinol” eithrio ffyrdd dosbarth A a B.

 

Mae’r TRA4076 trwy Johnston, Sir Benfro, yn rhan o’r prif rwydwaith trefol sy’n cysylltu de ein sir â’r ysbyty a’r dref sirol. Mae’n glirffordd drefol heb unrhyw leoedd parcio ar y stryd, llwybrau troed ar y ddwy ochr a dwy groesfan i gerddwyr a reolir gan oleuadau. Nid oes unrhyw gyfiawnhad dros ostwng y terfyn cyflymder ar y darn hwn o’r ffordd i 20mya.

 

Statws:

Yn ei gyfarfod ar 08/07/2024 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

 

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 08/07/2024.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd:

>>>> 

>>>Preseli Sir Benfro

>>>Canolbarth a Gorllewin Cymru

<<< 

 

[PetitionFooter]

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 30/07/2024