P-06-1448 Atal llygredd ym Mae’r Twr Gwylio ac Aberogwr

P-06-1448 Atal llygredd ym Mae’r Twr Gwylio ac Aberogwr

Petitions3

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Robert Curtis, ar ôl casglu cyfanswm o 894 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:      

 

Dosbarthwyd Bae'r Tŵr Gwylio ac Aberogwr yn ddyfroedd ymdrochi dynodedig newydd yn 2023.

 

Mae’r ddau draeth bellach wedi methu â chyrraedd y gofynion isaf ar gyfer ansawdd dŵr ymdrochi, a nhw oedd yr unig safleoedd ymdrochi yng Nghymru i fynd i’r categori 'gwael', gyda Llywodraeth Cymru yn dweud bod hyn yn "siomedig".

Yn hytrach na chodi arwyddion yn rhybuddio pobl i beidio â nofio ar y traethau hyn, dylai'r Cyngor, Dŵr Cymru a Llywodraeth Cymru fod yn gweithredu i atal y llygredd hwn.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

 

Rydym wedi bod yn ymgyrchu ers nifer o flynyddoedd yn erbyn y llygredd carthion sy'n mynd i'r Hen Harbwr a Bae'r Tŵr Gwylio yn y Barri.

Rydym wedi nodi mai pibellau gollwng carthion dynol a'r bibell gollwng o lyn y Cnap, sydd â phoblogaeth fawr o elyrch a gwyddau yn byw yno, yw prif achos y llygredd hwn mwy na thebyg.

Mae angen trin y dŵr hwn mewn tanciau cadw cyn ei ryddhau i'r môr.

Mae angen gweithredu i atal y llygredd ym Mae’r Tŵr Gwylio ac Aberogwr… digon yw digon!

Byddwn yn dod â'r ddeiseb hon i ben ar Ddiwrnod Cefnforoedd y Byd ddydd Sadwrn 8 Mehefin 2024...mae taer angen i ni amddiffyn ein cefnforoedd!

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

·     Bro Morgannwg

·     Canol De Cymru

 

[PetitionFooter]

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 01/08/2024