Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Price 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 10/01/2022 - Y Pwyllgor Deisebau

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(14.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

(14.00 - 14.40)

2.

Sesiwn Dystiolaeth (Panel 1) P-06-1212 Cyfraith Mark Allen – rydym ni am weld gorsafoedd cortyn taflu o amgylch pob safle dŵr agored yng Nghymru

 

Chris Cousens, RNLI a Chadeirydd Diogelwch Dŵr Cymru

 

Bleddyn Jones, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ac

Aelod o Grŵp Llywio Diogelwch Dŵr Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Chris Cousens, Cadeirydd Diogelwch Dŵr Cymru a Bleddyn Jones o wasanaeth Tân ac Achub De Cymru ac Aelod o Grŵp Llywio Diogelwch Dŵr Cymru.

 

 

 

(14.50 - 15.20)

3.

Sesiwn Dystiolaeth (Panel 2) P-06-1212 Cyfraith Mark Allen – rydym ni am weld gorsafoedd cortyn taflu o amgylch pob safle dŵr agored yng Nghymru

Nikki Kemmery, Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch,

Dŵr Cymru

 

Paula Steer, Cyfarwyddwr Iechyd, Diogelwch a Llesiant a Gwasanaethau Ystadau, United Utilities

 

Dominic Robinson, Arweinydd Profiad Ymwelwyr, Severn Trent a Hafren Dyfrdwy

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Nikki Kemmery, Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch, Dŵr Cymru, Paula Steer, Cyfarwyddwr Iechyd, Diogelwch a Llesiant a Gwasanaethau Ystadau, United Utilities, a Dominic Robinson, Arweinydd Profiad Ymwelwyr, Severn Trent a Hafren Dyfrdwy.

 

(15.20 - 15.45)

4.

Deisebau newydd

4.1

P-06-1220 Cynyddu'r cyllid sydd ar gael ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Menywod, Addysg ac Ymwybyddiaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Diolchodd y Pwyllgor i'r deisebydd am godi'r mater pwysig a chytunwyd i gadw golwg ar y ddeiseb dros yr wythnosau nesaf, yng ngoleuni'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru’n ei wneud ar hyn o bryd.

 

4.2

P-06-1222 Gwahardd barbeciws untro o'n Parciau Cenedlaethol, Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol a thraethau yng Nghymru!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gwasanaeth Tân ac at Gyfoeth Naturiol Cymru i ofyn am eu safbwynt ar farbeciws untro.

 

4.3

P-06-1204 Amddiffynnwch bobl Cymru - cymerwch gamau brys ar yr argyfwng tai nawr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Mae’n Aelod o’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn y Senedd.

 

Cydnabu’r Pwyllgor y pryderon difrifol a godwyd gan y ddeiseb ynghylch tai fforddiadwy a’r effaith negyddol ar gymunedau lleol ledled Cymru. O ystyried natur gymhleth y pryderon hyn, croesawodd y Pwyllgor y ffaith bod y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn cynnal ymchwiliad manwl i’r maes hwn, a chytunwyd i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor i ofyn i’r Pwyllgor gynnwys y materion a godwyd yn y ddeiseb hon fel rhan o'i ymchwiliad.

 

Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

4.4

P-06-1225 Dylai Cyfoeth Naturiol Cymru orfod cynnal a chyhoeddi arolygon bywyd gwyllt blynyddol cyn cwympo coetir

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Tynnodd Cadeirydd y Pwyllgor sylw at y ffaith bod y ddeiseb wedi cael ei chrybwyll yn nadl y Senedd a gynhaliwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 8 Rhagfyr ynghylch amddiffyn gwiwerod coch.

 

Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am amserlen canllawiau Cyfoeth Naturiol Cymru a’r ddeddfwriaeth y cyfeiriwyd atynt yn y Cyfarfod Llawn ar 8 Rhagfyr, a chytunwyd hefyd i gau’r ddeiseb ar ôl i lythyr y Gweinidog ddod i law a chael ei rannu â’r deisebydd.

 

4.5

P-06-1228 Talu bonws i athrawon uwchradd am farcio a safoni asesiadau haf 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cydnabu’r Pwyllgor ymroddiad a gwaith caled athrawon ledled Cymru sydd wedi gweithio’n ddiflino i sicrhau bod plant yn parhau i gael mynediad at addysg.

 

Nododd yr Aelodau nad yw'r Gweinidog yn cynnig unrhyw gydnabyddiaeth ariannol ychwanegol, a chytunwyd i ysgrifennu at Gymwysterau Cymru i ofyn am ganfyddiadau'r arolwg o’r cyfnod pennu graddau.

 

4.6

P-06-1229 Cynyddu’r cyllid ar gyfer Clinigau Hunaniaeth Rywedd yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor fod y deisebydd yn fodlon ar y cynnydd a adroddwyd ac a fwriedir ar gyfer y gwasanaeth yn y dyfodol gan Lywodraeth Cymru, felly diolchodd yr Aelodau i'r deisebydd am dynnu sylw at fater mor bwysig a chaewyd y ddeiseb.

 

4.7

P-06-1230 Mae pob eiliad yn cyfrif: Dylid gosod diffibriliwr ym mhob ysgol yng Nghymru i'r cyhoedd gael mynediad ato

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg i ofyn beth fyddai’r ffordd orau ymlaen i sicrhau bod y wybodaeth ar gael i sefydliadau ac ysgolion am sut i gael gafael ar arian i brynu diffibrilwyr.

 

 

5.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

5.1

P-05-937 Dylid stopio berwi cramenogion yn fyw (cimychiaid, crancod, cimychiaid afon, corgimychiaid ac ati) - Y wybodaeth ddiweddaraf yn sgil gwaith ymchwil newydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn pa ystyriaeth y mae wedi’i rhoi i adroddiad Ysgol Economeg Llundain ar allu decapodau i ymdeimlo, ac awgrymwyd hefyd y dylid ehangu’r diffiniad o anifeiliaid yn Neddf Lles Anifeiliaid 2006 i gynnwys infertebratau.

 

5.2

P-06-1200 Dylid gwneud rhwymo ceffylau yn anghyfreithlon ac yn weithred o greulondeb yng Nghymru, ni waeth a oes gan y ceffylau gysgod neu beidio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu’n ôl at Lywodraeth Cymru i rannu’r pryderon a’r awgrymiadau a godwyd gan RSPCA Cymru a Blue Cross ac i ofyn am eglurhad ynghylch a oes unrhyw drefniadau i roi cymorth ariannol i orfodi o ran gweithredu deddfwriaeth a rheoliadau ar waith yn y maes hwn.

 

5.3

P-05-1045 Dylai penderfyniadau ar y cyd ac adolygu cynlluniau gofal iechyd meddwl misol fod yn ofyniad cyfreithiol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y flaenoriaeth sydd gan iechyd meddwl ym mlaenraglen waith y Pwyllgor Iechyd a Chymdeithasol a chytunwyd i annog y deisebydd i achub ar y cyfle i gyfrannu i ymgynghoriad y Pwyllgor hwnnw.

 

Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd am godi mater mor bwysig â hwn.

 

5.4

P-06-1178 Prydau ysgol am ddim i bob disgybl yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Llongyfarchodd y Pwyllgor y deisebydd yn gynnes ar ganlyniad llwyddiannus, gan fod Llywodraeth Cymru mewn cydweithrediad â Phlaid Cymru wedi ymrwymo i ddarparu prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd. Galwad gyffredinol y deisebydd yw i bob disgybl ysgol gael prydau ysgol am ddim, ond mae hwn yn gam sylweddol tuag at gyflawni’r uchelgais hwnnw.

 

Cytunwyd mewn ymateb i gwestiynau pellach gan y deisebydd y byddai atebion sydd wedi’u gwneud yn hysbys yn cael eu casglu a’u hanfon at y deisebydd.

 

Cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb. [diweddarwyd ar 21/01/22]

 

5.5

P-06-1205 Buddsoddwch mewn amddiffynfeydd llifogydd ar y Tywi yng Nghaerfyrddin gan gynnwys ardal y Cei

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi datgan nad yw’n ystyried cynllun llifogydd ar gyfer Afon Tywi yng Nghaerfyrddin ar hyn o bryd, ac felly mae’n ymddangos nad oes llawer mwy y gall y Pwyllgor ei wneud ynglŷn â’r mater. Yng ngoleuni hyn, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

6.

Papur i’w nodi - P-05-949 ARBED YR HEN YSGOL GANOLRADD I FERCHED Y BONT-FAEN RHAG EI DYMCHWEL

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nodwyd y papur.

 

(15.45)

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 8.

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

(15.45 - 16.15)

8.

Trafod y dystiolaeth - P-06-1212 Cyfraith Mark Allen – rydym ni am weld gorsafoedd cortyn taflu o amgylch pob safle dŵr agored yng Nghymru

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.