Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: P Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 19/05/2025 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan Samuel Kurtz AS.

(13.30 - 13.35)

2.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3

Dogfennau ategol:

2.1

SL(6)614 - Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Weips Gwlyb) (Cymru) 2025

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

(13.35 - 13.40)

3.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd eisoes

Cofnodion:

Nid oedd dim i'w drafod o dan yr eitem sefydlog hon ar yr agenda yr wythnos hon.

(13.40 - 13.45)

4.

Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

4.1

Gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru: Cyfarfodydd y grwpiau rhyngweinidogol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig mewn cysylltiad â chanslo cyfarfod y Grŵp Rhyngweinidogol ar yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, y bwriadwyd ei gynnal ar 12 Mai.

4.2

Gohebiaeth oddi wrth y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Rheoliadau Amodau Ffytoiechydol (Diwygio) 2025

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.

4.3

Goheniaeth oddi wrth y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Rheoliadau Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff (Diwygio etc.) 2025

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.

4.4

Goheniaeth oddi wrth y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Rheoliadau Llygryddion Organig Parhaus (Diwygio) (Rhif 3) 2025

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.

(13.45 - 13.50)

5.

Papurau i’w nodi

5.1

Ymateb y Pwyllgor i ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar yr adolygiad statudol o Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ymateb a gyflwynir ganddo i ymgynghoriad Llywodraeth y DU.

5.2

Gohebiaeth gyda’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, a’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni: Sesiwn graffu gyffredinol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig a’r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni.

5.3

Gohebiaeth oddi wrth y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip: Sesiynau craffu ar garchardai a chyfiawnder troseddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip.

5.4

Adroddiad ymchwil gan PolicyWISE a Sefydliad Bennett ar gyfer Polisi Cyhoeddus: A More Collaborative Way of Governing? Why the UK's Council of the Nations and Regions Matter

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr adroddiad.

5.5

Gohebiaeth gyda Phrif Weinidog Cymru: Gwahoddiad i roi tystiolaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth Brif Weinidog Cymru.

5.6

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 5) Llywodraeth Cymru ar y Bil Data (Defnydd a Mynediad)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol.

(13.50)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

(13.50 - 14.00)

7.

Trafod yr ohebiaeth gyhoeddus

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr eitemau o ohebiaeth a nodwyd yn y sesiwn gyhoeddus.

(14.00 – 14.15)

8.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Cynllunio a Seilwaith: Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar ei adroddiad drafft:

(14.15 – 14.25)

9.

Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2 a Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Rheoleiddio Cynnyrch a Mesureg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft, a chytunwyd y gellid cytuno ar fân newidiadau y tu allan i’r Pwyllgor.

(14.25 - 14.35)

10.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Tybaco a Fêps: Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar ei adroddiad drafft.

(14.35 – 14.45)

11.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Iechyd Meddwl

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol, a chytunodd i drafod adroddiad drafft yn ystod cyfarfod yn y dyfodol.

(14.45 – 15.00)

12.

Cytundebau rhyngwladol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio ar nifer o Gytundebau Rhyngwladol, a chytunodd i drafod adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.

(15.00 – 15.10)

13.

Diweddariad ar Fframweithiau Cyffredin

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio ar Fframweithiau Cyffredin a chytunodd i ysgrifennu at y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i fynd ar drywydd rhai o'r prif themâu yn y sesiwn graffu gyffredinol sydd ar ddod ar 9 Mehefin, gyda'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig a'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog dros Gyflawni.