Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Cynllunio a Seilwaith

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Cynllunio a Seilwaith

Cyflwynwyd y Bil Cynllunio a Seilwaith (y Bil) yn Nhŷr Cyffredin ar 11 Mawrth 2025.

 

Mae enw hir y Bil yn nodi mai ei ddiben yw gwneud darpariaeth ynghylch seilwaith; gwneud darpariaeth ynghylch cynllunio gwlad a thref; gwneud darpariaeth ar gyfer cynllun, a weinyddir gan Natural England, i ddatblygwyr dalu ardoll adfer natur; gwneud darpariaeth ynghylch corfforaethau datblygu; gwneud darpariaeth ynghylch prynu tir yn orfodol; gwneud darpariaeth ynghylch adroddiadau ar ganlyniadau amgylcheddol; ac at ddibenion cysylltiedig.

 

Mae’r Bil yn ddarostyngedig i’r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29. Dyma pan fo Llywodraeth y DU yn ceisio cydsyniad Senedd Cymru i ddeddfu ar fater sy’n dod o fewn cymhwysedd y Senedd.

 

Derbyniwyd y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil yn y Cyfarfod Llawn ar 4 Tachwedd 2025

 

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 5) – Hydref 2025

 

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 200KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 21 Hydref 2025.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar ddyddiad cau i’r pwyllgorau gyflwyno adroddiad ar y memoranda sy'n ymwneud â'r Bil, sef 4 Tachwedd 2025 (PDF 143KB).

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 4) – Awst 2025

 

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 202KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 7 Awst 2025.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar ddyddiad cau i’r pwyllgorau gyflwyno adroddiad ar y memoranda sy'n ymwneud â'r Bil, sef 17 Hydref 2025 (PDF 54KB).

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ei adroddiad (PDF 312KB) ar 26 Medi 2025. Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF 235KB) ar 1 Hydref 2025.

Ymatebodd (PDF 177KB) Llywodraeth Cymru i’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar 17 Hydref 2025.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) – Mehefin 2025

 

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 192KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 17 Mehefin 2025.

 

Ar 24 Mehefin 2025, cytunodd (PDF 42KB) y Pwyllgor Busnes ar ddyddiad cau i’r pwyllgorau gyflwyno adroddiad ar y memoranda sy'n ymwneud â'r Bil, sef 26 Medi 2025.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF 241KB) ar 23 Gorffennaf 2025. Ymatebodd Llywodraeth Cymru i'r adroddiad ar 3 Medi 2025 (PDF 231KB). 

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) – Mai 2025

 

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 207KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 15 Mai 2025.

 

Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, ac y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, a bydd angen cyflwyno adroddiad arno erbyn 27 Mehefin 2025 (PDF 43KB).

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF 245KB) ar 18 Mehefin 2025. Ymatebodd (PDF 266KB) Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 9 Gorffennaf 2025.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ei adroddiad (PDF 202KB) ar 30 Mehefin 2025. Ymatebodd (PDF 191KB) Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 11 Awst 2025.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol – Mawrth 2025

 

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 257KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 26 Mawrth 2025.

 

Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, ac y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, a bydd angen cyflwyno adroddiad arno erbyn 6 Mehefin 2025 (PDF 42KB).

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF 255KB) ar 28 Mai 2025. Ymatebodd (PDF 266KB) Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 9 Gorffennaf 2025.

Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 27/03/2025