Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Data (Defnydd a Mynediad)
Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Data (Defnydd a Mynediad)
Cyflwynwyd y Bil Data (Defnydd a Mynediad)
yn Nhŷ’r
Arglwyddi ar 23 Hydref 2024.
Mae teitl hir y
Bil yn nodi ei fod yn Fil ‘i wneud darpariaeth ynghylch mynediad at ddata
cwsmeriaid a data busnes; i wneud darpariaeth ynghylch gwasanaethau sy'n
cynnwys defnyddio gwybodaeth i ganfod a gwirio ffeithiau am unigolion; i wneud
darpariaeth ynghylch cofnodi a rhannu, a chadw cofrestrau, gwybodaeth sy'n
ymwneud â chyfarpar mewn strydoedd; i wneud darpariaeth ynghylch cadw a chynnal
cofrestrau genedigaethau a marwolaethau; i wneud darpariaeth ar gyfer
rheoleiddio prosesu gwybodaeth sy'n ymwneud ag unigolion byw a nodir neu sy’n
adnabyddadwy; i wneud darpariaeth ynghylch preifatrwydd a chyfathrebiadau
electronig; sefydlu'r Comisiwn Gwybodaeth; i wneud darpariaeth ynghylch safonau
gwybodaeth ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol; i wneud darpariaeth ynghylch
rhoi trwyddedau cyfathrebu mesuryddion clyfar; i wneud darpariaeth ynghylch
datgelu gwybodaeth er mwyn gwella’r modd y darperir gwasanaethau cyhoeddus; i
wneud darpariaeth ynghylch cadw gwybodaeth gan ddarparwyr gwasanaethau
rhyngrwyd mewn cysylltiad ag ymchwiliadau i farwolaethau plant; i wneud
darpariaeth ynghylch darparu gwybodaeth at ddibenion sy’n ymwneud â chynnal
ymchwil annibynnol i faterion diogelwch ar-lein; i wneud darpariaeth ynghylch
cadw data biometrig; i wneud darpariaeth ynghylch gwasanaethau ar gyfer darparu
llofnodion electronig, seliau electronig a gwasanaethau ymddiriedaeth eraill;
ac at ddibenion cysylltiedig.
Mae’r Bil yn
ddarostyngedig i’r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol
Sefydlog 29. Dyma pan fo Llywodraeth y DU yn ceisio cydsyniad Senedd Cymru
i ddeddfu ar fater sy’n dod o fewn cymhwysedd y Senedd.
Derbyniwyd
y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil yn y Cyfarfod Llawn ar 6 Mai
2025.
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 5) – Mai 2025
Gosododd
Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil gerbron y
Senedd ar 16 Mai 2025
(PDF 102KB).
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 4) – Ebrill 2025
Gosododd
Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil gerbron y
Senedd ar 28 Ebrill
2025 (PDF 146KB).
Ar 29 Ebrill
2025, cytunodd
(PDF 62KB) y Pwyllgor Busnes ar ddyddiad cau i’r sef 2 Mai 2025.
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad
(PDF 179KB) ar 6 Mai 2025. Ymatebodd
(PDF 147KB) Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 17 Mehefin 2025.
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) – Ebrill 2025
Gosododd
Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil gerbron y
Senedd ar 3 Ebrill 2025
(PDF 213KB).
Ar 29 Ebrill
2025, cytunodd
(PDF 62KB) y Pwyllgor Busnes ar ddyddiad cau i’r sef 2 Mai 2025.
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad
(PDF 239KB) ar 1 Mai 2025. Ymatebodd
(PDF 147KB) Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 17 Mehefin 2025.
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) – Mawrth 2025
Gosododd
Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil gerbron y
Senedd ar 12
Mawrth 2025 (PDF 94KB).
Ar 18 Mawrth
2025, cytunodd
(PDF 63KB) y Pwyllgor Busnes ar ddyddiad cau i’r sef 2 Mai 2025.
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad ar 2 Ebrill 2025
(PDF 219KB). Ymatebodd
(PDF 245KB) Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 24 Ebrill 2025.
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol – Ionawr 2025
Gosododd
Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil gerbron y Senedd
ar 2
Ionawr 2025 (PDF 267KB).
Mae'r Pwyllgor
Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor
Diwylliant,
Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol, Pwyllgor yr
Economi, Masnach a Materion Gwledig, Pwyllgor
Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, y Pwyllgor
Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol a’r Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a bydd angen cyflwyno adroddiad
arno erbyn 7
Mawrth 2025 (PDF 39.2KB).
Ar 28 Ionawr
2025, cytunodd
(PDF 69KB) y Pwyllgor Busnes ar ddyddiad cau newydd i’r sef 14 Mawrth 2025.
Ar 18 Chwefror
2025, cytunodd
(PDF 44KB) y Pwyllgor Busnes i estyn ymhellach y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno
adroddiad tan 28 Mawrth 2025.
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad ar 7 Mawrth 2025
(PDF 459KB). Ymatebodd
(PDF 245KB) Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 24 Ebrill 2025.
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ei adroddiad ar 19 Mawrth 2025
(PDF 168KB). Ymatebodd
(PDF 128KB) Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 1 Mai 2025.
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau
Rhyngwladol ei adroddiad ar 01 Mai 2025
(PDF 802KB).
Cyhoeddodd y
Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ei adroddiad
(PDF 260KB) ar 2 Mai 2025.
Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol
Cyhoeddwyd gyntaf: 02/01/2025