Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol

Sefydlwyd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol gan y Senedd i graffu ar bolisi a deddfwriaeth, ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif mewn meysydd penodol. Mae'r meysydd hyn yn cynnwys cydraddoldeb a hawliau dynol, gwaith teg, cydlyniant cymunedol a diogelwch, mynd i’r afael â thlodi, a rhoi Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 ar waith.

Mae gan y Pwyllgor chwe Aelod sy'n dod o'r gwahanol bleidiau sydd â chynrychiolaeth yn y Senedd, ac mae’n cael ei gadeirio gan Jenny Rathbone AS. Mae rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor a’i aelodau isod, ynghyd â'r rhestr lawn o'r meysydd y mae'n ymdrin â nhw.

Cylch Gwaith

Sefydlwyd y Pwyllgor ar 23 Mehefin 2021 i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif trwy graffu ar ei materion o ran gwariant, gweinyddiaeth a pholisïau, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): cydraddoldeb a hawliau dynol, gwaith teg, cydlyniant cymunedol a diogelwch, mynd i’r afael â thlodi, a rhoi Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 ar waith. Yn ogystal, gall y pwyllgor ymchwilio i unrhyw faes polisi o safbwynt y materion trawsbynciol o fewn ei gylch gorchwyl, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): cydraddoldeb a hawliau dynol; a gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015.

Aelodau'r Pwyllgor