Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol

Mae’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol wedi’i sefydlu gan y Senedd i graffu ar bolisi a deddfwriaeth, ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif mewn meysydd penodol. Mae'r meysydd hyn yn cynnwys y Gymraeg, diwylliant; y celfyddydau; diwydiannau creadigol; yr amgylchedd hanesyddol; cyfathrebu, darlledu; y cyfryngau, chwaraeon a chysylltiadau rhyngwladol.

Mae gan y Pwyllgor chwe Aelod sy'n dod o'r pleidiau gwahanol a gynrychiolir yn y Senedd, ac mae’n cael ei gadeirio gan Delyth Jewell AS.

Gweithgaredd pwyllgor diweddaraf

Cylch Gwaith

Sefydlwyd y Pwyllgor ar 23 Mehefin 2021 i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif trwy graffu ar ei materion o ran gwariant, gweinyddiaeth a pholisïau, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): y Gymraeg, diwylliant; y celfyddydau; yr amgylchedd hanesyddol; cyfathrebu, darlledu; y cyfryngau, chwaraeon a chysylltiadau rhyngwladol. Gall y Pwyllgor ymchwilio i unrhyw faes polisi o safbwynt y Gymraeg.

Aelodau'r Pwyllgor