Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: P Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 22/11/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

13.30

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon.

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.

 

13.30-14.30

2.

Adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth gyda'r Arglwydd Thomas

Yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd, cyn-Gadeirydd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru

 

 

Adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru - mis Hydref 2019 (PDF 6MB)

LJC(6)-14-21 – Papur 1 – Nodyn briffio

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd.

 

14.30-14.35

3.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offerynnau ac roedd yn fodlon arnynt.

 

3.1

SL(6)073 - Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Diwygio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015) 2021

3.2

SL(6)074 – Rheoliadau Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949 (Ystyr Corff Cyhoeddus) (Cymru) 2021

3.3

SL(6)075 - Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Awdurdodau sy'n ddarostyngedig i ddyletswydd ynghylch Anghydraddoldebau Economaidd-gymdeithasol) (Rhif 2) (Cymru) 2021

3.4

SL(6)076 – Rheoliadau'r Strategaeth Tlodi Plant (Cyd-bwyllgorau Corfforedig) (Cymru) 2021

3.22

SL(6)078 – Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Awdurdodau Cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i’r Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau) 2021

3.6

SL(6)079 – Rheoliadau Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Diwygio’r Rhestr o Awdurdodau Cymreig) 2021

3.7

SL(6)080 – Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021

3.8

SL(6)081 - Rheoliadau Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Ystyr Corff Cyhoeddus) (Cymru) 2021

14.35-14.40

4.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.

4.1

SL(6)077 - Rheoliadau Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 1) 2015 (Diwygio) 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

14.40-14.45

5.

Papurau i'w nodi:

5.1

Gohebiaeth gan y Prif Weinidog: Uwchgynhadledd Cyngor Prydain-Iwerddon yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Weinidog.

 

5.2

Gohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil y Lluoedd Arfog.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ymateb y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol i'w adroddiad ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil y Lluoedd Arfog, a bod y ddadl yn y Cyfarfod Llawn o ran y Memorandwm wedi'i threfnu ar gyfer 23 Tachwedd.

 

14.45

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn.

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig

 

14.45-14.55

7.

Adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn ystod ei sesiwn gyda'r Arglwydd Thomas, ac y bydd yn ystyried ymhellach faterion allweddol a godwyd yn ystod y sesiwn wrth fynd ati â’i waith ar gyfiawnder yn y dyfodol.

 

14.55-15.05

8.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd - trafod yr adroddiad drafft.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd. Nododd y Pwyllgor y byddai’r adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol.

 

15.05-15.15

9.

Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16 - trafod yr adroddiad drafft.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16, a chytunodd arno. Nododd y Pwyllgor y byddai’r adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol.

 

15.15-15.30

10.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) - trafod yr adroddiad drafft.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir). Cytunodd y Pwyllgor i drafod fersiwn ddiwygiedig o'r adroddiad yn ei gyfarfod nesaf.

 

15.30-15.40

11.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Iechyd a Gofal - trafod yr adroddiad drafft.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Iechyd a Gofal, a chytunodd arno. Nododd y Pwyllgor y byddai’r adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol.

 

15.40-15.50

12.

Fframweithiau Cyffredin: Fframwaith ar gyfer Diogelu Iechyd y Cyhoedd a Diogelwch Iechyd

LJC(6)-14-21 – Papur 17 – Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Fframwaith ar gyfer Diogelu Iechyd y Cyhoedd a Diogelwch Iechyd.

 

15.50-16.00

13.

Cynnig ymgysylltu - Mynediad at Gyfiawnder

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried ei ddull gweithredu cychwynnol o ran ymgysylltu, a chytunodd arno, cyn cynnal ymchwiliad posibl i fynediad at gyfiawnder.