Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Y Lluoedd Arfog
Cyflwynwyd Bil y
Lluoedd Arfog (y Bil) yn Nhŷ'r
Cyffredin ar 26 Ionawr 2021.
Mae'r Bil yn ddarostyngedig
i'r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol
Sefydlog 29. Mae hwn yn fater lle mae Llywodraeth y DU yn gofyn am
gydsyniad Senedd Cymru i ddeddfu ar fater a allai ddod o fewn cymhwysedd y
Senedd fel arfer.
Gosododd
Llywodraeth Cymru Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ar 18
Chwefror 2021.
Mae'r Pwyllgor
Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, a bydd angen cyflwyno adroddiad
arno erbyn dydd Iau 25 Mawrth 2021.
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad ar y
Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar 24 Mawrth 2021.
Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 18/02/2021
Dogfennau
- Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar Fil y Lluoedd Arfog - Mawrth 2021
- Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol - Bil y Lluoedd Arfog - Chwefror 2021
- Amserlen ar gyfer ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil y Lluoedd Arfog - Chwefror 2021
PDF 60 KB