Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: P Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 04/10/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

13.30

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon.

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan Peter Fox AS. Roedd Samuel Kurtz AS yn dirprwyo ar ei ran.

 

13.30-13.35

2.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

2.1

SL(6)049 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Hysbysu) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021

LJC(6)-08-21 – Papur 1 – Adroddiad drafft

 

Rheoliadau

Memorandwm Esboniadol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

2.2

SL(6)052 – Rheoliadau Deddf y Coronafeirws (Tenantiaethau Preswyl: Estyn Cyfnod Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Rhif 3) (Cymru) 2021

LJC(6)-08-21 – Papur 2 – Adroddiad drafft

 

Rheoliadau

Memorandwm Esboniadol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

 

2.3

SL(6)050 - Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2021

LJC(6)-08-21 – Papur 3 – Adroddiad drafft

 

Rheoliadau

Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwynt adrodd a nodwyd.

 

2.4

SL(6)053 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2021

LJC(6)-08-21 – Papur 4 – Adroddiad drafft

LJC(6)-08-21 – Papur 5 – Llythyr gan y Prif Weinidog at y Llywydd, 24 Medi 2021

 

Rheoliadau

Memorandwm Esboniadol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

13.35-13.40

3.

Papurau i'w nodi:

3.1

Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Gohirio cyfarfod y Grŵp Rhyng-Weinidogol i drafod Etholiadau a Chofrestru

LJC(6)-08-21 – Papur 6 - Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, 27 Medi 2021

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.

 

3.2

Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Ymateb i adroddiad y Pwyllgor ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Amgylchedd

LJC(6)-08-21 – Papur 7 – Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, 28 Medi 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd, i’w adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar Fil yr Amgylchedd.

 

3.3

Gohebiaeth gan Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru: Trydydd adroddiad blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru

LJC(6)-08-21 – Papur 8 – Llythyr gan y Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, 28 Medi 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr a'r trydydd adroddiad blynyddol gan Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru ac, yn breifat, cytunwyd i wahodd Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru i sesiwn graffu ar y cyfle cyntaf.

 

3.4

Datganiad ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru: Y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu’r system gyfiawnder a'r sector cyfreithiol yng Nghymru.

LJC(6)-08-21 – Papur 9 – Datganiad ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru, 30 Medi 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig.

 

13.40

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn.

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig

 

13.40-13.55

5.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd - trafod yr adroddiad drafft.

LJC(6)-08-21 – Papur 10 – Adroddiad drafft

LJC(6)-08-21 – Papur 11 – Llythyr gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, 28 Mehefin 2021

LJC(6)-08-21 – Papur 12 – Llythyr at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, 22 Medi 2021

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd, a chytunodd i ystyried fersiwn ddrafft ddiwygiedig o’i adroddiad yn y cyfarfod nesaf.

 

13.55-14.05

6.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar

 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar

 

LJC(6)-08-21 – Papur 13 – Nodyn cyngor cyfreithiol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar Fil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar, a chytunodd i drafod ei adroddiad drafft yn y cyfarfod nesaf.

 

14.05-14.15

7.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16

 

LJC(6)-08-21 – Papur 14 – Nodyn cyngor cyfreithiol

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16, a chytunodd i drafod ei adroddiad drafft yn y cyfarfod nesaf.

 

14.15-14.25

8.

Nodyn briffio ar gytundebau rhyngwladol

LJC(6)-08-21 – Papur 15 – Nodyn briffio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y cytundebau rhyngwladol a ganlyn:

 

·         Y DU/Albania: Aildderbyn Pobl;

·         Y DU/Portiwgal: Cytundeb ynghylch Cyflogi Aelodau'r Teulu sy'n rhan o Aelwyd Cenadaethau Diplomyddol;

·         Y DU/Antigua a Barbuda: sefydlu Ffin Forwrol rhwng Anguilla ac Antigua a Barbuda;

 

a chytunodd i drafod ei adroddiad drafft ar y cytundebau yn y cyfarfod nesaf.