Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: P Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 12/07/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

10.00

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, cadarnhaodd y Cadeirydd ei fod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.

 

Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.

 

10.00

2.

Cylch gorchwyl y Pwyllgor

LJC(6)-01-21 – Papur 1 – Cylch gorchwyl y Pwyllgor

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau gylch gorchwyl a chyfrifoldebau'r Pwyllgor.

 

10.00-11.00

3.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Amgylchedd: Sesiwn dystiolaeth

Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd

Bernadette Payne, Gwasanaethau Cyfreithiol

Eifiona Williams, Pennaeth Dŵr

Howard Davies, Rheolwr Economi Gylchol

Jayne Anstee, Rheolwr Polisi Rheoliadau Gwastraff

Olwen Spiller, Pennaeth Ansawdd yr Amgylchedd

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

 

LJC(6)-04-21 Briff

LJC(6)-04-21Nodyn Cyngor Cyfreithiol

LJC(6)-04-21 - Papur briffio’r Gwasanaeth Ymchwil

LJC(6)-04-21 – Papur 2 – Llythyr gan y Pwyllgor Busnes, 7 Gorffennaf 2021

LJC(6)-04-21 – Papur 3 – Llythyr at y Pwyllgor Busnes, 2 Gorffennaf 2021

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd, mewn perthynas â Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar Fil yr Amgylchedd. Cytunodd y Gweinidog i roi gwybodaeth ychwanegol i'r Pwyllgor, a fyddai'n cael ei chadarnhau mewn gohebiaeth.

 

11.00-11.05

4.

Offerynnau negyddol arfaethedig nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3B.

LJC(6)-04-21 – Papur 4 – Offerynnau statudol negyddol arfaethedig sydd ag adroddiadau clir

 

Dogfennau ategol:

4.1

pNeg(6)001 - Rheoliadau Bwyd a Diod (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2021

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon y dylai'r weithdrefn negyddol fod yn gymwys.

 

11.05-11.10

5.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3

LJC(6)-04-21 – Papur 5 – Offerynnau statudol sydd ag adroddiadau clir

 

Dogfennau ategol:

5.1

SL(6)016 – Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Dod i Ben yn Gynnar: Gofal a Chymorth gan Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2021

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon ar yr adroddiad drafft.

 

5.2

SL(6)017 – Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) (Diwygio) 2021

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon ar yr adroddiad drafft.

 

11.10-11.15

6.

Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

6.1

SL(6)019 – Rheoliadau Tenantiaethau Busnes (Estyn Gwarchodaeth rhag Fforffediad etc.) (Cymru) (Coronafeirws) (Rhif 2) 2021

LJC(6)-04-21 – Papur 6 – Adroddiad drafft

LJC(6)-04-21 – Papur 7 – Rheoliadau

LJC(6)-04-21 – Papur 8 – Memorandwm Esboniadol

LJC(6)-04-21 – Papur 9 – Llythyr gan Weinidog yr Economi, 28 Mehefin 2021

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

 

6.2

SL(6)020 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021

LJC(6)-04-21 – Papur 10 – Adroddiad drafft

LJC(6)-04-21 – Papur 11 – Rheoliadau

LJC(6)-04-21 – Papur 12 – Memorandwm Esboniadol

LJC(6)-04-21 – Papur 13 – Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, 28 Mehefin 2021

LJC(6)-04-21 – Papur 31 – Ymateb Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn, ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

6.3

SL(6)018 – Rheoliadau Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol) 2021

LJC(6)-04-21 – Papur 14 – Adroddiad drafft

LJC(6)-04-21 – Papur 15 – Rheoliadau

LJC(6)-04-21 – Papur 16 – Memorandwm Esboniadol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn, ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

 

11.15-11.20

7.

Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd yn flaenorol

7.1

SL(6)009 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 11) 2021

LJC(6)-04-21 – Papur 17 – Adroddiad y Pwyllgor

LJC(6)-04-21 – Papur 18 – Ymateb pellach Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ymateb arall gan Lywodraeth Cymru.

 

7.2

SL(6)013 - Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Tenantiaethau Preswyl: Estyn Cyfnod Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Rhif 2) (Cymru) 2021

LJC(6)-04-21 – Papur 19 – Adroddiad y Pwyllgor

LJC(6)-04-21 – Papur 20 – Ymateb Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.

 

11.20-11.25

8.

Adroddiad Rheol Sefydlog 30B: Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Fframweithiau Cyffredin

LJC(6)-04-21 – Papur 21 – Datganiad ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru, 2 Mehefin 2021

LJC(6)-04-21 – Papur 22 – Adroddiad Llywodraeth y DU: Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Fframweithiau Cyffredin

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ddatganiad Llywodraeth Cymru ac adroddiad Llywodraeth y DU.

 

11.25-11.30

9.

Papurau i'w nodi

9.1

Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cod Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer Is-ddeddfwriaeth

LJC(6)-04-21 - Papur 23 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, 1 Gorffennaf 2021

LJC(6)-04-21 - Papur 24 - Cod Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer Is-ddeddfwriaeth

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.

 

9.2

Llythyr gan Bennaeth Swyddfa Cymru, Coleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd: Ymchwiliad posibl

LJC(6)-04-21 – Papur 25 – Llythyr gan Pippa Cotterill, Pennaeth Swyddfa Cymru, Coleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd, 5 Gorffennaf 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Goleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd ac, yn breifat, cytunodd i drafod cynigion ar gyfer gwaith yn y dyfodol fel rhan o'i waith cynllunio strategol yn nhymor yr hydref.

 

9.3

Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Ymestyn Cyfnodau Pontio) 2021

LJC(6)-04-21 – Papur 26 – Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, 7 Gorffennaf 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd.

 

9.4

Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru: Gwaith Archwilio Cymru

LJC(6)-04-21 – Papur 32 – Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, 9 Gorffennaf 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

 

11.30

10.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

11.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Amgylchedd: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn ystod y sesiwn gyda’r Gweinidog Newid Hinsawdd.

 

Derbyniodd y Pwyllgor gynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i gyfarfod yn breifat yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar 6 Medi 2021 (union ddyddiad i’w gadarnhau) i drafod ei adroddiad drafft ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Bil yr Amgylchedd, ar yr amod bod y Cadeirydd yn ymgynghori â'r Llywydd yn unol â Rheol Sefydlog 17.46 (ac ar yr amod bod yr Aelodau ar gael).

 

12.

Gweithdrefnau pwyllgorau a’u ffyrdd o weithio

LJC(6)-04-21 – Papur 27 – Ffyrdd o weithio

LJC(6)-04-21 – Papur 28 – Gweithgarwch cynnar y pwyllgor

LJC(6)-04-21 – Papur 29 – Adroddiad Rhinweddau ar gyfer Offerynnau Statudol a osodwyd ond na chraffodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad arnynt yn ffurfiol yn y Bumed Senedd

LJC(6)-04-21 – Papur 30 - Hyfforddiant a Datblygu

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Rheolau Sefydlog sy'n gymwys i bwyllgorau, a rolau a chyfrifoldebau’r Aelodau a swyddogion. Hefyd, trafododd y Pwyllgor y ffordd orau o weithio a'i ddull o weithio ddechrau tymor yr hydref. Cytunodd y Pwyllgor i ddychwelyd i gynllunio gwaith strategol ddechrau tymor yr hydref.

 

Os bydd unrhyw nam technegol yn effeithio ar y Cadeirydd, o dan Reol Sefydlog 17.22, cytunodd y Pwyllgor i ethol Jayne Bryant AS yn gadeirydd dros dro ar gyfer holl gyfarfodydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn y dyfodol, pe bai'r angen yn codi.