Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 30/11/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

09.30

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Cadeirydd ei fod, yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.

 

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon.

 

09.30-09.35

2.

Offerynnau a ystyriwyd yn flaenorol i’w sifftio ac sy’n awr yn destun craffu o dan Reolau Sefydlog 21.2 a 21.3

2.1

SL(5)658 - Rheoliadau Maethiad (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2020

CLA(5)-35-20 – Papur 1 – Adroddiad

CLA(5)-35-20 – Papur 2 – Rheoliadau

CLA(5)-35-20 – Papur 3 – Memorandwm Esboniadol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

 

09.35-09.40

3.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3

CLA(5)-35-20 – Papur 4 – Offerynnau statudol sydd ag adroddiadau clir

Dogfennau ategol:

3.1

SL(5)661 – Rheoliadau Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

 

09.40-09.45

4.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

4.1

SL(5)666 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol (Cymru) (Diwygio) (Rhif 20) 2020

CLA(5)-35-20 – Papur 5 – Adaroddiad

CLA(5)-35-20 – Papur 6 – Rheoliadau

CLA(5)-35-20 – Papur 7 – Memorandwm Esboniadol

CLA(5)-35-20 – Papur 8 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, 20 Tachwedd 2020

CLA(5)-35-20 – Papur 9 – Datganiad ysgrifenedig, 19 Tachwedd 2020

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

09.45-09.50

5.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd yn flaenorol

5.1

SL(5)651 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol (Cymru) (Diwygio) (Rhif 18) 2020

CLA(5)-35-20 – Papur 10 – Adroddiad

CLA(5)-35-20 – Papur 11 – Ymateb Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.

 

5.2

SL(5)652 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol (Cymru) (Diwygio) (Rhif 19) 2020

CLA(5)-35-20 – Papur 12 – Adroddiad

CLA(5)-35-20 – Papur 13 – Ymateb Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.

 

5.3

SL(5)660 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2020

CLA(5)-35-20 – Papur 14 – Adroddiad

CLA(5)-35-20 – Papur 15 – Ymateb Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.

 

09.50-09.55

6.

Papurau i'w nodi

6.1

Llythyr gan y Prif Weinidog: Hygyrchedd a dealltwriaeth y cyhoedd o reoliadau’r Coronafeirws yng Nghymru

CLA(5)-35-20 - Papur 16 - Llythyr gan y Prif Weinidog, 20 Tachwedd 2020

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Weinidog.

 

6.2

Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Rheoliadau Mabwysiadu a Maethu (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Coronafeirws) 2020

CLA(5)-35-20 – Papur 17 - Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, 20 Tachwedd 2020

CLA(5)-35-20 – Papur 18 – Llythyr at y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, 6 Tachwedd 2020

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

 

Yn unol â Rheol Sefydlog 17.24A, datganodd David Melding fuddiant mewn perthynas ag Eitem 6.2.

 

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

6.3

Llythyr gan y Prif Weinidog: Gorchymyn Senedd Cymru (Anghymhwyso) 2020

CLA(5)-35-20 – Papur 19 – Llythyr gan y Prif Weinidog, 24 Tachwedd 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Weinidog a bod Gorchymyn Senedd Cymru (Anghymhwyso) 2020 wedi'i wneud.

 

6.4

Llythyr gan y Prif Weinidog: Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2020

CLA(5)-35-20 – Papur 20 – Llythyr gan y Prif Weinidog, 25 Tachwedd 2020

CLA(5)-35-20 – Papur 21 – Llythyr at y Prif Weinidog, 4 Medi 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Weinidog.

 

6.5

Llythyr oddi wrth y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Y Ddyletswydd economaidd-gymdeithasol

CLA(5)-35-20 – Papur 22 – Llythyr gan y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, 25 Tachwedd 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip ac, mewn sesiwn breifat, cytunwyd i dderbyn y cynnig o friff technegol mewn perthynas â'r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol.

 

6.6

Llythyr gan y Prif Weinidog: Gwneud i Gyfiawnder Weithio yng Nghymru

CLA(5)-35-20 – Papur 23 – Llythyr gan y Prif Weinidog, 25 Tachwedd 2020

CLA(5)-35-20 – Papur 24 – Llythyr at y Prif Weinidog, 22 Hydref 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Weinidog.

 

09.55

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

09.55-10.10

8.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol ar y Bil Masnach - trafod yr adroddiad drafft

CLA(5)-35-20 – Papur 25 – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru ar y Bil Masnach a chytunodd arno.  Nododd y Pwyllgor y byddai’r adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol.

 

10.10-10.25

9.

Y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) - trafod yr adroddiad drafft

CLA(5)-35-20 – Papur 26 – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) a chytunodd arno.  Nododd y Pwyllgor y byddai’r adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol.

 

10.25-10.30

10.

Craffu ar reoliadau a wnaed o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 - y wybodaeth ddiweddaraf

CLA(5)-35-20 – Papur 27 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, 25 Tachwedd 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd.

 

10.30-10.40

11.

Bil Marchnad Fewnol y DU - y wybodaeth ddiweddaraf

CLA(5)-35-20 – Papur 28 – Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Bil Marchnad Fewnol y DU.