Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 09/11/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

10.00

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Cadeirydd ei fod wedi penderfynu, yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.

 

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon.

 

10.00-10.05

2.

Offerynnau negyddol arfaethedig nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3B

CLA(5)-32-20 – Papur 1 - Offerynnau statudol negyddol arfaethedig sydd ag adroddiadau clir

 

Dogfennau ategol:

2.1

pNeg(5)33 - Rheoliadau Maethiad (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon y dylai'r weithdrefn negyddol gael ei chymhwyso.

 

2.2

pNeg(5)35 - Rheoliadau Pysgodfeydd a Rheoli Morol (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2020

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon y dylai'r weithdrefn negyddol gael ei chymhwyso.

 

10.05-10.10

3.

Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

3.1

SL(5)640 – Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020

CLA(5)-32-20 – Papur 2 – Adroddiad

CLA(5)-32-20 – Papur 3 – Rheoliadau

CLA(5)-32-20 – Papur 4 – Memorandwm Esboniadol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd, ac i dynnu sylw at faterion sy’n codi o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r UE.

 

3.2

SL(5)644 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2020

CLA(5)-32-20 – Papur 5 – Adroddiad

CLA(5)-32-20 – Papur 6 – Rheoliadau

CLA(5)-32-20 – Papur 7 – Memorandwm Esboniadol

CLA(5)-32-20 – Papur 8 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, 30 Hydref 2020

CLA(5)-32-20 – Papur 9 – Datganiad ysgrifenedig, 29 Hydref 2020

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

10.10-10.15

4.

Offerynnau statudol y mae angen i’r Senedd gydsynio â hwy (Memoranda Cydsyniad Offeryn Statudol)

4.1

SICM(5)36 - Rheoliadau'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin (Diwygio etc.) (Ymadael â'r UE) (Rhif 2) 2020

CLA(5)-32-20 – Papur 10 – Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol

CLA(5)-32-20 – Papur 11 – Rheoliadau

CLA(5)-32-20 – Papur 12 – Memorandwm Esboniadol

CLA(5)-32-20 – Papur 13 – Llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, 27 Hydref 2020

CLA(5)-32-20 – Papur 14 – Datganiad ysgrifenedig

CLA(5)-32-20 – Papur 15 – Sylwebaeth

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol a’r sylwadau cysylltiedig.

 

4.2

SICM(5)38 - Rheoliadau Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (Addasiadau Canlyniadol) (Ymadael â'r UE) 2020

CLA(5)-32-20 – Papur 16 – Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol

CLA(5)-32-20 – Papur 17 – Rheoliadau

CLA(5)-32-20 – Papur 18 – Memorandwm Esboniadol

CLA(5)-32-20 – Papur 19 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, 2 Tachwedd 2020

CLA(5)-32-20 – Papur 20 – Datganiad ysgrifenedig

CLA(5)-32-20 – Papur 21 – Sylwebaeth

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol a’r sylwadau cysylltiedig. Nododd y Pwyllgor hefyd fod y Gweinidog wedi cyflwyno cynnig am ddadl. Cytunodd y Pwyllgor i gwblhau adroddiad y tu allan i'r cyfarfod a fyddai'n cael ei osod cyn y ddadl ynghylch cydsyniad.

 

10.15-10.25

5.

Datganiadau ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C

5.1

WS-30C(5)191 - Rheoliadau Cyd-drefniadaeth ar gyfer y Marchnadoedd mewn Cynhyrchion Amaethyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2020

CLA(5)-32-20 – Papur 22 – Datganiad ysgrifenedig

CLA(5)-32-20 – Papur 23 – Sylwebaeth

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwadau cysylltiedig, yn benodol bod anghytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch a oes angen cydsyniad. Yn ogystal, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am eglurder pellach o ran y datganiad hwn a'r datganiad ysgrifenedig a ystyriwyd yn eitem 5.2.

 

5.2

WS-30C(5)192 - Rheoliadau Cyd-drefniadaeth ar gyfer y Marchnadoedd mewn Cynhyrchion Amaethyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2020

CLA(5)-32-20 – Papur 24 – Datganiad ysgrifenedig

CLA(5)-32-20 – Papur 25 - Sylwebaeth

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwadau. Yn ogystal, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am eglurder pellach o ran y datganiad hwn a'r datganiad ysgrifenedig a ystyriwyd yn eitem 5.1.

 

5.3

WS-30C(5)193 - Rheoliadau Glanedyddion (Diwygiadau) (Ymadael â'r UE) 2020

CLA(5)-32-20 – Papur 26 – Datganiad ysgrifenedig

CLA(5)-32-20 – Papur 27 – Sylwebaeth

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwadau.

 

5.4

WS-30C(5)195 - Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Rhywogaethau Goresgynnol Estron (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2020

CLA(5)-32-20 – Papur 28 – Datganiad ysgrifenedig

CLA(5)-32-20 – Papur 29 – Sylwebaeth

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwadau.

 

5.5

WS-30C(5)197 - Rheoliadau Cynhyrchion Amaethyddol, Bwyd a Diod (Diwygio etc.) (Ymadael â'r UE) 2020

CLA(5)-32-20 – Papur 30 – Datganiad ysgrifenedig

CLA(5)-32-20 – Papur 31 – Sylwebaeth

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwadau. Yn ogystal, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig i dynnu sylw at y datganiad ysgrifenedig a'r rheoliadau cysylltiedig.

 

5.6

WS-30C(5)198 - Rheoliadau Mewnforio a Masnachu Cynhyrchion Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2020

CLA(5)-32-20 – Papur 32 – Datganiad ysgrifenedig

CLA(5)-32-20 – Papur 33 – Sylwebaeth

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwadau.

 

10.25-10.30

6.

Papurau i'w nodi

6.1

Llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Bil Pysgodfeydd y DU

CLA(5)-32-20 – Papur 34 – Llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, 30 Hydref 2020

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig. Yn ogystal, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn am eglurhad pellach ynghylch y wybodaeth a ddarperir gan y Gweinidog ynghylch Gorchymyn adran 109 sydd i ddod, a fydd yn cael ei wneud o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

 

6.2

Gohebiaeth gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)

CLA(5)-32-20 – Papur 35 – Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, 30 Hydref 2020

CLA(5)-32-20 – Papur 36 – Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol at Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 30 Hydref 2020

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol.

 

6.10

Gohebiaeth gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Tenantiaethau Preswyl: Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Cymru) 2020

CLA(5)-32-20 – Papur 37 – Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, 3 Tachwedd 2020

CLA(5)-32-20 – Papur 38 – Llythyr at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, 22 Hydref 2020

CLA(5)-32-20 – Papur 39 – Ymateb Llywodraeth Cymru

CLA(5)-32-20 – Papur 40 - Adroddiad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. Yn ogystal, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu llythyr pellach at y Gweinidog ynghylch gwaith cyffredinol y Pwyllgor o ystyried y Rheoliadau.

 

6.4

Llythyr gan y Prif Weinidog: Y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig

CLA(5)-32-20 – Papur 41 – Llythyr gan y Prif Weinidog, 3 Tachwedd 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Weinidog.

 

10.30

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

10.30-10.35

8.

Trafodaeth ar Femoranda Cydsyniad Offeryn Statudol

CLA(5)-32-20 – Papur 42 – Llythyr gan y Prif Weinidog, 4 Tachwedd 2020

CLA(5)-32-20 – Papur 43 – Llythyr at y Prif Weinidog, 23 Hydref 2020

CLA(5)-32-20 – Papur 44 – Llythyr gan y Llywydd, 7 Mai 2019

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Weinidog mewn perthynas â chyflwyno cynigion cydsyniad, a chytunodd i ysgrifennu at y Llywydd. Nododd y Pwyllgor hefyd y llythyr gan y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip mewn perthynas â’r Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol ar Reoliadau Caffael Cyhoeddus (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2020, a chytunwyd i gwblhau adroddiad y tu allan i’r cyfarfod a fyddai’n cael ei osod cyn y ddadl ynghylch cydsyniad.

 

10.35-10.40

9.

Briff ar y trefniadau ar gyfer Etholiadau’r Senedd 2021

CLA(5)-32-20 – Papur 45 – Papur briffio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio ar y trefniadau ar gyfer Etholiadau’r Senedd 2021, a thrafodwyd adroddiad diweddar y Grŵp Cynllunio Etholiadau. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Prif Weinidog i ofyn am eglurhad ar nifer o faterion yn ymwneud ag etholiad y Senedd yn 2021.

 

10.40-10.55

10.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar gyfer y Bil Masnach

CLA(5)-32-20 – Papur 46 – Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol

CLA(5)-32-20 – Papur 47 – Nodyn Cyngor Cyfreithio

CLA(5)-32-20 – Papur 48 – Llythyr gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, 11 Medi 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol mewn perthynas â’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar gyfer y Bil Masnach, a chytunodd i drafod ei adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

10.55-11.15

11.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Marchnad Fewnol y DU: Trafod yr adroddiad drafft

CLA(5)-32-20 – Papur 49 – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ddrafft cyntaf ei adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar Fil Marchnad Fewnol y DU. Cytunodd y Pwyllgor i drafod adroddiad drafft diwygiedig yn y cyfarfod nesaf.