Rheoliadau a wneir o dan Ddeddf yr UE (Ymadael) 2018 y bydd angen eu sifftio - Y Bumed Senedd
Mae Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 yn rhoi pwerau i Weinidogion y DU a Gweinidogion Cymru wneud
rheoliadau i ddiwygio deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth bresennol.
Mae paragraff 4 o Atodlen 7 i Ddeddf 2018 yn darparu ar gyfer
pennu pwyllgor yn y Senedd i sifftio rhai rheoliadau y mae Gweinidogion Cymru
yn bwriadu eu gwneud o dan y weithdrefn negyddol a elwir yn “rheoliadau
negyddol arfaethedig”. Yna bydd y Pwyllgor sifftio yn ystyried y weithdrefn
briodol i'w dilyn, naill ai negyddol neu gadarnhaol. Ceir rhagor o wybodaeth am
y gwahanol weithdrefnau ar y dudalen Is-ddeddfwriaeth.
Mae manylion y broses sifftio
i'w chael yn Atodlen 7 i Ddeddf 2018, fel a ganlyn:
- rhaid gosod yr holl reoliadau y bwriedir eu gwneud gan Weinidogion
Cymru o dan y pwerau yn Rhannau 1 a 2 o Atodlen 2 (ac eithrio'r rhai sydd
i'w gwneud ar y cyd â Gweinidogion y DU), ac y mae Gweinidogion Cymru o'r
farn y dylid eu gwneud o dan y weithdrefn negyddol, gerbron y Senedd;
- fewn cyfnod o 14 diwrnod calendr ar ôl gosod, ni chaiff Gweinidogion
Cymru wneud y rheoliadau negyddol arfaethedig (h.y. eu gwneud yn
gyfraith), oni bai ein bod wedi gwneud argymhelliad ynghylch y weithdrefn
briodol ar gyfer y rheoliadau;
- fewn y 14 diwrnod calendr hynny, caniateir inni ystyried y
rheoliadau negyddol arfaethedig ac argymell y dylai'r rheoliadau ddilyn
gweithdrefn amgen (megis y weithdrefn gadarnhaol);
- ar ôl i'r 14 diwrnod calendr fynd heibio (neu
yn gynt os byddwn eisoes wedi gwneud argymhelliad), caiff Gweinidogion
Cymru fwrw ymlaen â'r rheoliadau negyddol arfaethedig o dan naill ai:
- y weithdrefn a gaiff ei hargymell gennym, fel y
weithdrefn gadarnhaol (h.y. mae'n ofynnol cynnal dadl a phleidlais ar yr
offeryn yn y Senedd cyn y caiff ei wneud a'i ddwyn i rym), neu
- y weithdrefn negyddol (h.y. mae'r offeryn
wedi'i wneud a chaiff ei ddwyn i rym, ond caiff ei ddiddymu os bydd y
Senedd yn penderfynu ei ddiddymu o fewn 40 diwrnod i’w osod).
Protocol
(PDF 187KB) rhwng Llywodraeth Cymru a Phwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad Senedd Cymru - Craffu ar reoliadau sy'n deillio o ymadawiad y DU
â'r Undeb Ewropeaidd
Math o fusnes: Arall
Cyhoeddwyd gyntaf: 20/07/2018
Dogfennau
- Protocol - Tachwedd 2020
PDF 187 KB
- Protocol - Hydref 2018
PDF 102 KB
- Craffu ar y rheoliadau a wnaed o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018: Canllaw
PDF 275 KB
- Craffu ar y rheoliadau a wnaed o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018: Siart lif
PDF 78 KB
- pNeg(5)41 - Rheoliadau Bwyd, Bwyd Anifeiliaid a Hadau (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2021
- pNeg(5)40 - Rheoliadau Bwyd, Bwyd Anifeiliaid a Hadau (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2021 - TYNNWYD YN ÔL
- pNeg(5)39 - Rheoliadau Bwyd a Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2020
- pNeg(5)38 - Rheoliadau Gwastraff (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â'r UE) 2020
- pNeg(5)37 - Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhagnodi Cyffuriau etc.) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2020
- pNeg(5)36 - Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol a Chynllunio Gwlad a Thref (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2020
- pNeg(5)35 - Rheoliadau Pysgodfeydd a Rheoli Morol (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2020
- pNeg(5)34 - Rheoliadau’r Amgylchedd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020
- pNeg(5)33 - Rheoliadau Maethiad (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020
- pNeg(5)32 - Rheoliadau Cymwysterau Athrawon (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2020
- pNeg(5)31 - Rheoliadau Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019
- pNeg(5)30 - Rheoliadau Hadau (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019
- pNeg(5)29 - Rheoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019
- pNeg(5)28 - Rheoliadau Pysgodfeydd a Rheoli Morol (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019
- pNeg(5)27 - Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol a’u Symud ar draws Ffin) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019
- pNeg(5)26 - Rheoliadau Safonau a Labelu Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019
- pNeg(5)25 - Rheoliadau Safonau Ansawdd Aer (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019
- pNeg(5)24 - Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019
- pNeg(5)23 - Rheoliadau Gwastraff (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2019
- pNeg(5)22 - Rheoliadau Cymwysterau Athrawon (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019
- pNeg(5)21 - Rheoliadau Hylendid a Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019
- pNeg(5)20 - Rheoliadau Cynhyrchion Bwyd a Bwyd Anifeiliaid Rheoleiddiedig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019
- pNeg(5)19 - Rheoliadau Cyllid Llywodraeth Leol (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019
- pNeg(5)18 - Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019
- pNeg(5)17 - Rheoliadau Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymwysterau) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019
- pNeg(5)16 - Rheoliadau Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019
- pNeg(5)15 - Rheoliadau Adnabod Ceffylau (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019
- pNeg(5)14 -Rheoliadau Maethiad (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019
- pNeg(5)13 - Rheoliadau Dileu a Rheoli Afiechydon Milheintiol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019
- pNeg(5)12 - Rheoliadau Clefydau Egsotig mewn Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019
- pNeg(5)11 - Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni a’r Asesiadau Effaith Amgylcheddol (DiwygiadauAmrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019
- pNeg(5)10 - Rheoliadau Taliadau Gwasanaeth(Gofynion Ymgynghori) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019
- pNeg(5)09 - Rheoliadau Iechyd a Lles Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019
- pNeg(5)08 - Rheoliadau Llifogydd a Dŵr (Diwygio) (Cymru a Lloegr) (Ymadael â’r UE) 2019
- pNeg(5)07 - Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid ac Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019
- pNeg(5)06 - Rheoliadau Tir a Halogwyd yn Ymbelydrol (Addasu Deddfiadau) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019
- pNeg(5)05 - Rheoliadau Da Byw (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019
- pNeg(5)04 - Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019
- pNeg(5)03 - Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018
- pNeg(5)02 - Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018
- pNeg(5)01 - Rheoliadau Etholiadau (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018