Etholiad y Senedd yn 2021

Etholiad y Senedd yn 2021

Mae etholiad cyffredinol nesaf y Senedd wedi'i drefnu ar gyfer dydd Iau, 6 Mai 2021.

 

Ar 15 Mehefin, nododd Prif Weinidog Cymru efallai y bydd angen addasu'r trefniadau ar gyfer etholiadau'r Senedd yn 2021 oherwydd pandemig y coronafeirws.

 

Cyhoeddodd y datganiad fod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu 'Grŵp Cynllunio Etholiadau' i "ystyried yr effaith bosibl ar weinyddu’r etholiadau ac unrhyw effaith ar ddarpariaeth ddeddfwriaethol".

 

Ar 6 Tachwedd 2020, cyhoeddwyd Adroddiad y Grŵp Cynllunio Etholiadau. Ar 17 Tachwedd, trafodwyd yr Adroddiad yn y Cyfarfod Llawn.

 

Math o fusnes: Arall

Cyhoeddwyd gyntaf: 18/11/2020

Dogfennau