Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol - Y Bumed Senedd

Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol - Y Bumed Senedd

Ym mis Chwefror 2018, cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad* (y Pwyllgor) ei adroddiad, Llywodraethiant yn y DU ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd. Nododd Argymhelliad 9 o’r adroddiad hwnnw:

“Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i gytundeb cysylltiadau rhynglywodraethol gyda’r pwyllgor hwn er mwyn cefnogi gwaith craffu ar weithgaredd Llywodraeth Cymru yn y maes hwn.”

Yn dilyn trafodaethau â Llywodraeth Cymru, derbyniodd y Pwyllgor yn ffurfiol fersiwn derfynol o’r Cytundeb Cysylltiadau Rhyng-Sefydliadol (y Cytundeb) ar 7 Ionawr 2019. Cafodd y Cytundeb ei osod gerbron y Senedd ar 31 Ionawr 2019 a chafodd ei drafod (PDF 230KB) yn y Cyfarfod Llawn ar 6 Mawrth 2019.

Mae’r Cytundeb (PDF 230KB) hwn yn cynrychioli sefyllfa gyffredin y Senedd a Llywodraeth Cymru ar y wybodaeth y bydd Llywodraeth Cymru, lle y bo’n briodol (gweler paragraff o’r Cytundeb), yn ei darparu i’r Senedd o ran ei chyfraniad mewn cyfarfodydd rhynglywodraethol ar lefel weinidogol, concordatiau, cytundebau a memorandwm cyd-ddealltwriaeth.

Ar 27 Hydref 2020, gosododd Llywodraeth Cymru ei Hadroddiad Blynyddol cyntaf (PDF 190KB).

Mae gohebiaeth a dogfennau sydd i’w gweld ar y dudalen hon wedi cael eu rhannu â’r Senedd yn unol â’r Cytundeb.

* Yn dilyn penderfyniad yn y Cyfarfod Llawn ar 29 Ionawr 2020, daeth y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad.

Math o fusnes: Arall

Cyhoeddwyd gyntaf: 10/06/2019

Dogfennau