Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 17/09/2018 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Cafwyd
ymddiheuriadau gan Mandy Jones AC. |
|
Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3 CLA(5)-21-18
– Papur 1 –
Offerynnau statudol sydd ag adroddiadau clir Dogfennau ategol: |
|
SL(5)238 - Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Darllen a Rhifedd) (Cymru) (Diwygio) 2018 |
|
SL(5)244 - Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Aelodaeth a Phenodi) (Cymru) (Diwygio) 2018 |
|
SL(5)245 - Rheoliadau Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (Rhyddhad Adfer Safle) (Diwygio) 2018 Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr offerynnau ac roedd yn fodlon arnynt. |
|
Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 |
|
SL(5)237 - Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau a Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 CLA(5)-21-18 – Papur 2 –
Adroddiad CLA(5)-21-18
– Papur 3 –
Rheoliadau CLA(5)-21-18
– Papur 4 –
Memorandwm Esboniadol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr offeryn a bydd yn cyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r
pwyntiau adrodd a nodwyd. |
|
Rheoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) (Diwygio) (Rhif 3) 2018 CLA(5)-21-18
– Papur 5 –
Adroddiad CLA(5)-21-18
– Papur 6 –
Rheoliadau CLA(5)-21-18
– Papur 7 –
Memorandwm Esboniadol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd
y Pwyllgor yr offeryn a bydd yn cyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r
pwynt adrodd a nodwyd. Nododd y Pwyllgor fod y Memorandwm Esboniadol yn
cyfeirio at ymgynghoriad a wnaed, ond nid oes crynodeb o'r ymgynghoriad ar
gael. Bydd y Pwyllgor yn ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i
ofyn am eglurhad. |
|
SL(5)240 - Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) (Diwygio) 2018 CLA(5)-21-18
– Papur 8 –
Adroddiad CLA(5)-21-18
– Papur 9 –
Rheoliadau CLA(5)-21-18
– Papur 10 –
Memorandwm Esboniadol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb y
Llywodraeth a bydd yn cyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r pwyntiau
adrodd a nodwyd. Nododd y Pwyllgor fod y Llywodraeth yn datgan yn ei hymateb
nad oes newid polisi, fodd bynnag, dywed yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol, mewn
perthynas â rheoliadau 8 a 9, fod y rheoliad wedi cael ei wneud yn fwy
caniataol. Bydd y Pwyllgor yn ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
i ofyn am eglurhad. |
|
SL(5)248 - Rheoliadau Bwyd a Materion Gwledig (Dirymiadau Amrywiol) 2018 CLA(5)-21-18
– Papur 11 –
Adroddiad CLA(5)-21-18
– Papur 12 –
Rheoliadau CLA(5)-21-18
– Papur 13 –
Memorandwm Esboniadol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd
y Pwyllgor yr offeryn a bydd yn cyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r
pwynt adrodd a nodwyd. Tynnodd y Pwyllgor sylw at y ffaith nad yw'r Memorandwm
Esboniadol yn cyfeirio at pam y gwneir yr offeryn yn Saesneg yn unig. Bydd y
Pwyllgor yn ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a
Materion Gwledig i ofyn am eglurhad. |
|
Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 27 |
|
SL(5)246 - Cod Ymarfer ar gyfer Lles Cŵn CLA(5)-21-18
– Papur 14 -
Adroddiad CLA(5)-21-18
– Papur 15 – Cod
Ymarfer CLA(5)-21-18
– Papur 16 –
Memorandwm Esboniadol Dogfennau ategol: |
|
SL(5)247 - Cod Ymarfer ar gyfer Lles Ceffylau CLA(5)-21-18
– Papur 17 -
Adroddiad CLA(5)-21-18
– Papur 18 – Cod
Ymarfer CLA(5)-21-18
– Papur 19 –
Memorandwm Esboniadol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y Codau Ymarfer a bydd yn cyflwyno adroddiad i'r Cynulliad i dynnu
sylw at y materion sy'n ymwneud â'r DU yn ymadael â'r UE. |
|
Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3 ond sydd â goblygiadau o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r UE |
|
SL(5)241 - Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 CLA(5)-21-18
– Papur 20 -
Adroddiad Dogfennau ategol: |
|
SL(5)242 - Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2018 CLA(5)-21-18
– Papur 21 -
Adroddiad Dogfennau ategol: |
|
SL(5)251 - Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2018 CLA(5)-21-18
– Papur 22 -
Adroddiad Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr offerynnau a bydd yn cyflwyno adroddiad i'r Cynulliad i dynnu
sylw at y materion o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r UE. |
|
Offerynnau statudol y mae angen i’r Cynulliad gydsynio â hwy (Memoranda Cydsyniad Offeryn Statudol) |
|
SICM(5)3 - Rheoliadau’r Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Diwygiadau a Dirymiadau Amrywiol) 2018 CLA(5)-21-18
– Papur 23 – Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol CLA(5)-21-18
– Papur 24 – Llythyr
gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, yr Amgylchedd a Materion Gwledig Dogfennau ategol: Cofnodion: Ystyriodd
y Pwyllgor y Memorandwm Caniatâd Offeryn Statudol ac, o dan yr amgylchiadau,
roedd yn fodlon gyda'r dull a fabwysiadwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros
Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig |
|
Papurau i’w nodi |
|
Llythyr at y Llywydd gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol ynghylch y Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru) CLA(5)-21-18
– Papur 25 – Llythyr
at y Llywydd gan y Gweinidog dros Blant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol, 10
Gorffennaf 2018 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor y llythyr at y Llywydd ynghyd â'r llythyr a gafwyd gan y Gweinidog yn
gynharach y diwrnod hwnnw (wedi'i gylchredeg mewn copi caled) mewn ymateb i argymhellion
y Pwyllgor. Nododd yr aelodau fod y ddadl Cyfnod 1 yn y Cyfarfod Llawn ar
Egwyddorion Cyffredinol y Bil wedi'i threfnu ar gyfer y diwrnod canlynol, sef
18 Medi. Cytunodd yr Aelodau pe bai ystyriaeth bellach y Gweinidog o
argymhellion y Pwyllgor yn arwain at wneud newidiadau sylweddol i'r Bil,
efallai y bydd y Pwyllgor yn dymuno ystyried y Bil ar adeg briodol. |
|
Llythyr at Arweinydd y Tŷ ynghylch Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 – rheoliadau a wneir o dan Atodlen 4 CLA(5)-21-18
– Papur 26 – Llythyr
at Arweinydd y Tŷ, 11 Gorffennaf 2018 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor y llythyr at Arweinydd y Tŷ ynglŷn â rheoliadau Atodlen 4 ac
ymateb gan Arweinydd y Tŷ a gafwyd yn gynharach y diwrnod hwnnw (wedi'i
gylchredeg mewn copi caled). |
|
Llythyr gan Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip ynghylch rheoliadau a wneir o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 CLA(5)-21-18
– Papur 27 – Llythyr
gan Arweinydd y Tŷ, 20 Gorffennaf 2018 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor y llythyr gan Arweinydd y Tŷ. |
|
Llythyr gan Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip ynghylch rheoliadau a wneir o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 CLA(5)-21-18
– Papur 28 – Llythyr
gan Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip, 28 Awst 2018 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor y llythyr gan Arweinydd y Tŷ, a chytunodd i ymateb i Arweinydd y
Tŷ maes o law. |
|
Gohebiaeth ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus ynghylch Concordat gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder a Llywodraeth Cymru CLA(5)-21-18
- Papur 29 – Llythyr
at Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, 11
Gorffennaf 2018 CLA(5)-21-18
– Papur 30 – Llythyr
gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, 14
Awst 2018 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor ohebiaeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a
Gwasanaethau Cyhoeddus a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet i
ofyn am gopi o'r canllawiau cyfatebol unwaith y cânt eu cwblhau. |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: Cyfnod Pontio Brexit CLA(5)-21-18
– Papur 31 – Llythyr
gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, 20
Gorffennaf 2018 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor lythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth
Ychwanegol. Cytunodd y Pwyllgor i anfon copi o'r Cytundeb Rhyng-Sefydliadol
drafft y mae'n ei ddatblygu gyda Llywodraeth Cymru at y Pwyllgor Materion
Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol. |
|
Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Trawsnewid System Anghenion Dysgu Ychwanegol CLA(5)-21-18
- Papur 32 - Llythyr
gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, 17 Gorffennaf 2018 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. |
|
Llythyr gan y Llywydd at Gadeiryddion Pwyllgorau: Senedd@ CLA(5)-21-18
– Papur 33 – Llythyr
gan y Llywydd, 18 Gorffennaf 2018 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor y llythyr gan y Llywydd. |
|
Datganiad Ysgrifenedig a Thystiolaeth Ategol Llywodraeth Cymru i'r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru CLA(5)-21-18
– Papur 34 –
Datganiad Ysgrifenedig a thystiolaeth ategol Llywodraeth Cymru, 31 Awst 2018 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig a'r dystiolaeth atodol i'r Comisiwn ar
Gyfiawnder yng Nghymru. |
|
Cymdeithas Frenhinol Caeredin - Papur cynghori Awst 2018: Pwyllgor Cyllid a Chyfansoddiad Senedd yr Alban Fframweithiau Cyffredin y DU CLA(5)-21-18 – Papur 35 - The Royal Society of Edinburgh – Papur cynghori Awst 2018 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor y papur cynghori gan Gymdeithas Frenhinol Caeredin. |
|
Datganiadau: Cyflwyno Bil Amaethyddiaeth y DU CLA(5)-21-18 – Papur 36 – Datganiad ysgrifenedig Llywodraeth Cymru: cyflwyno Bil
Amaethyddiaeth y DU CLA(5)-21-18 – Papur 37 – Datganiad ar y cyd gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth
Cymru: hynt y fframwaith amaethyddol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor y datganiadau a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros
Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig. |
|
Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad y Pwyllgor: Craffu ar Reoliadau a wnaed o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018: Materion Gweithredol CLA(5)-21-18
– Papur 38 – Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad y Pwyllgor Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn: Cofnodion: Derbyniwyd
y cynnig. |
|
Protocol Drafft gyda Llywodraeth Cymru - Craffu ar Reoliadau a wneir o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 CLA(5)-21-18 – Papur 39 – Protocol Drafft Cofnodion: Ystyriodd
y Pwyllgor y protocol drafft a chytunodd ar y camau nesaf. |
|
Offerynnau Statudol a wneir gan Weinidogion y DU y mae arnynt angen Cydsyniad y Cynulliad: arfer yn sgil Brexit CLA(5)-21-18 – Papur 40 - Offerynnau Statudol a wneir gan Weinidogion y
DU y mae arnynt angen Cydsyniad y Cynulliad Cofnodion: Ystyriodd
y Pwyllgor y dull a fabwysiadwyd eisoes gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â
Memoranda Caniatâd Offerynnau Statudol sy'n ymwneud â deddfwriaeth Brexit a
chytunodd arno. |
|
Deddfu ar gyfer y Cytundeb Ymadael rhwng y DU a'r UE: Diweddariad Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf. |
|
Adroddiad gan Bwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol Tŷ'r Cyffredin - Crynodeb CLA(5)-21
– 18 – Paper 42 - Crynodeb Cofnodion: Ystyriodd
y Pwyllgor y crynodeb. |
|
Blaenraglen Waith CLA(5)-21-18 – Papur 43 – Blaenraglen Waith Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ei flaenraglen waith ar gyfer tymor yr hydref. |