Deddf Cyllido Gofal Plant (Cymru) 2019

Bil Llywodraeth Cymru a gyflwynwyd gan Huw Irranca-Davies AC, Y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol. Cyfeiriwyd y Bil i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gan y Pwyllgor Busnes.

 

Gwybodaeth am y Bil

 

Roedd y Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru) yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru ddarparu cyllid ar gyfer gofal plant i blant cymwys rhieni sy'n gweithio ac i wneud rheoliadau ar y trefniadau ar gyfer gweinyddu a gweithredu cyllid o'r fath.

 

Bwriad y Bil oedd helpu i gyflawni ymrwymiad allweddol ym maniffesto Llafur Cymru Gyda'n Gilydd Dros Gymru (2016), sef darparu 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant a ariennir gan y llywodraeth i rieni sy'n gweithio sydd â phlant tair a phedair oed yng Nghymru am hyd at 48 wythnos y flwyddyn.

 

Mae gan bob plentyn tair a phedair oed sy'n gymwys (o'r tymor ar ôl eu pen-blwydd yn dair oed) hawl i 10 awr o leiaf o addysg gynnar yr wythnos yn ystod y tymor ysgol am 39 wythnos y flwyddyn. Mae'r Cynnig yn adeiladu ar yr hawl gyffredinol hon ac yn darparu cyfanswm o 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal am 48 wythnos y flwyddyn ar gyfer plant tair a phedair oed rhieni sy'n gweithio.

 

Roedd y Bil yn ymwneud ag elfen gofal plant y Cynnig ac felly'n ymdrin â'r cyllid a fyddai’n cael ei ddarparu ar gyfer plant cymwys rhieni mewn gwaith.

 

Mae rhagor o fanylion am y Bil yn y Memorandwm Esboniadol cysylltiedig.

 

Cyfnod Presennol

 

BillStageAct

 

Daeth Deddf Cyllido Gofal Plant (Cymru) 2019 yn gyfraith yng Nghymru ar 30 Ionawr 2019.

 

Cofnod o daith y Bil drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru

 

Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith y Bil drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Cyfnod

Dogfennau

 

Cyflwyno'r Bil: 16 Ebrill 2018

Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru), fel y’i cyflwynwyd (PDF, 82KB)

 

Memorandwm Esboniadol (PDF, 1MB)

 

Datganiad y Llywydd: 16 Ebrill 2018 (PDF, 142KB)

 

Datganiad ar fwriad polisi’r Bil (PDF 289KB)

 

Adroddiad y Pwyllgor Busnes ar yr amserlen ar gyfer trafod y Bil (PDF 54KB) (Adolygwyd – gweler isod)

 

Pwyllgor Busnes: Amserlen ddiwygiedig ar gyfer ystyried y Bil (PDF54KB)

 

Crynodeb o Fil (PDF 2MB)

 

 

Cyfnod 1 - Pwyllgor yn trafod yr egwyddorion cyffredinol

Ymgynghoriad Cyhoeddus

 

Roedd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi cyhoeddi galwad am dystiolaeth, a wnaeth cau ar 18 Mai 2018.

 

Ymatebion i'r ymgynghoriad a gwybodaeth bhellach yn dilyn sesiynau tystiolaeth.

 

Llythyrau caniatâd

 

Dyddiadau'r Pwyllgor

 

Bu’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn trafod y Bil ar y dyddiadau canlynol:

 

Dyddiad ac Agenda

Diben y cyfarfod

Trawsgrifiad

Senedd.TV

18 Ebrill 2018

Ystyried y Dull o Graffu ar Gyfnod 1

(Preifat)

(Preifat)

16 Mai 2018

Sesiynau Tystiolaeth

16 Mai 2018 Trawsgrifiad

Gweld cyfarfod 16 Mai  

24 Mai 2018

Sesiynau Tystiolaeth

24 Mai 2018 Trawsgrifiad

Gweld cyfarfod 24 Mai  

6 Mehefin 2018

Sesiynau Tystiolaeth

6 Mehefin 2018

Trawsgrifiad

Gweld

Cyfarfod 6 Mehefin

14 Mehefin 2018

Sesiynau Tystiolaeth

14 Mehefin 2018 Trawsgrifiad

Gweld Cyfarfod 14 Mehefin

 

Adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor

 

Gosododd y Pwyllgor ei adroddiad 18 Gorffennaf 2018.

 

Ymateb gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol i adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Plant , Pobl Ifanc ac Addysg – 17 Medi 2018 (PDF, 671KB)

 

Llythyr gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol: ymateb ychwanegol ar argymhellion yng Nghyfnod 1 – 17 Hydref 2018 (PDF, 277KB)

 

Bu’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn trafod y Bil ar y dyddiad canlynol:

 

Dyddiad ac Agenda

Diben y cyfarfod

Trawsgrifiad

Senedd.TV

14 Mai 2018

Y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol

14 Mai 2018 Trawsgrifiad

Gweld cyfarfod 14 Mai  

 

Gosododd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ei adroddiad ar y Bil (PDF, 769kB) ar 28 Mehefin 2018

 

Llythyr gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol at y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol – 17 Medi 2018

(PDF, 407KB)

 

Llythyr gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol: ymateb ychwanegol ar argymhellion yng Nghyfnod 1 – 17 Hydref 2018 (PDF, 277KB)

 

Bu’r Y Pwyllgor Cyllid yn trafod y Bil ar y dyddiad canlynol:

 

Dyddiad ac Agenda

Diben y cyfarfod

Trawsgrifiad

Senedd.TV

13 Mehefin 2018

Y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol

13 Mehefin 2018 Trawsgrifiad

Gweld cyfarfod 13 Mehefin 2018 

 

Gosododd y Pwyllgor Cyllid ei adroddiad ar 16 Gorffennaf 2018 (PDF, 537KB).

 

Llythyr gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol at y Pwyllgor Cyllid

– 17 Medi 2018 (PDF, 367KB)

 

 

Cyfnod 1 - Dadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr egwyddorion cyffredinol

Cytunodd y Cynulliad ar egwyddorion cyffredinol y Bil ar ôl dadl Cyfnod 1 yn y Cyfarfod Llawn ar 18 Medi 2018.

 

Penderfyniad Ariannol

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.68, mae’r Llywydd wedi nodi bod angen penderfyniad ariannol ar gyfer y Bil hwn. Mae rhagor o wybodaeth am y penderfyniadau ariannol ar gael yn adran 3 o’r Canllaw i gyfnodau Biliau a Deddfau Cyhoeddus.

 

Cyfnod 2 - Pwyllgor yn ystyried y gwelliannau

Ystyriwyd gwelliannau Cyfnod 2 yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 18 Hydref 2018.

 

Hysbysiadau ynghylch Gwelliannau

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau – 19 Medi 2018 (PDF 59KB)

Llywodraeth Cymru: Tabl Diben ac Effaith – 19 Medi 2018 (PDF, 216KB)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau – 20 Medi 2018 (PDF 72KB)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau – 4 Hydref 2018 (PDF 65KB)

Llywodraeth Cymru: Tabl Diben ac Effaith – 4 Hydref 2018 (PDF 269KB)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau – 10 Hydref 2018 (PDF 95KB)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau – 11 Hydref 2018 (PDF 72KB)

Rhestr o Welliannau wedi’u didoli – 18 Hydref 2018 (PDF 117KB)

Grwpio Gwelliannau – 18 Hydref 2018 (PDF 69KB)

 

Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru), fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2 (PDF 83KB)

Caiff y gwelliannau i’r Bil ers y fersiwn flaenorol eu nodi ar ochr dde’r dudalen.

Memorandwm Esboniadol Diwygiwyd (PDF, 1,965KB)

 

Crynodeb o’r newidiadau yng Nghyfnod 2 – Blog Gwasanaeth Ymchwil 26 Hydref 2018

 

Gohebiaeth

Llythyr (PDF, 521KB)  gan y Cadeirydd at y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol: gofynion cofrestru: Memorandwm Esboniadol Diwygiwyd – 26 Tachwedd 2018

 

 

Cyfnod 3 - y Cyfarfod Llawn yn ystyried y gwelliannau

Dechreuodd Cyfnod 3 ar 19 Hydref 2018.

 

Cynhaliwyd ystyriaeth Cyfnod 3 yn y Cyfarfod Llawn ar 5 Rhagfyr 2018 pan drafodir y gwelliannau i’r Bil (fel y’i diwygiwyd yn ystod Cyfnod 2).

 

Hysbysiadau ynghylch Gwelliannau

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau – 6 Tachwedd 2018 (PDF, 65KB)

Llywodraeth Cymru: Tabl Diben ac Effaith – 6 Tachwedd 2018 (PDF, 281KB)

Hysbysiad ynghlych gwelliannau - 12 Tachwedd 2018 (PDF, 59KB)

Llywodraeth Cymru: Tabl Diben ac Effaith – 12 Tachwedd 2018 (PDF, 180KB)

Hysbysiad ynghlych gwelliannau - 28 Tachwedd 2018 (fersiwn 2) (PDF, 117KB)

Rhestr o Welliannau wedi’u didoli – 5 Rhagfyr 2018 (fersiwn 2) (PDF, 118KB)

Grwpio Gwelliannau – 5 Rhagfyr 2018 (PDF, 71KB)

 

Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru), fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 3 (PDF 85KB)

Caiff y gwelliannau i’r Bil ers y fersiwn flaenorol eu nodi ar ochr dde’r dudalen.

 

Gohebiaeth parthed Cyfnod 3

Llythyr (PDF, 91KB) gan y Cadeirydd at y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol: gofynion cofrestru – 23 Hydref 2018

Llythyr (PDF, 376KB) gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol: gofynion cofrestru – 5 Tachwedd 2018

Llythyr (PDF, 583KB) gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol – fframwaith drafft y cynllun gweinyddol – 5 Tachwedd 2018

Llythyr (PDF, 393KB)  gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol: y gwahanol gynlluniau sydd ar gael i rieni i'w helpu gyda gofal plant, y tu hwnt i ffiniau’r Bil – 21 Tachwedd 2018

 

Cyfnod 4 - Pasio'r Bil yn y Cyfarfod Llawn

Cytunodd y Cynulliad ar y Bil ar 12 Rhagfyr 2018.

 

Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru), fel y’I pasiwyd (PDF, 83KB)

 

 

Ar ôl Cyfnod 4

Mae'r cyfnod o hysbysiad o bedair wythnos wedi dod i ben. Mae'r breinlythyrau ar gyfer y Bil wedi cael eu cyflwyno i Ei Mawrhydi y Frenhines ar gyfer Cydsyniad Brenhinol.

 

Ysgrifenodd y Cyfreithiwr Cyffredinol (Saesneg yn unig) (PDF, 19KB) ar ran y Twrnai Cyffredinol, Cwnsler Cyffredinol (PDF, 253KB), a’r Ysgrifennydd Gwladl Cymru (Saesneg yn unig) (PDF, 201KB) at Brif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad i'w hysbysu na fyddent yn cyfeirio’r Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru) at y Goruchaf Lys o dan Adrannau 112 neu 114 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

 

Dyddiad Cydsyniad Brenhinol

Rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol ar 30 Ionawr 2019

 

 

Gwybodaeth gyswllt
Clerc: Llinos Madeley

Rhif ffôn: 0300 200 6352

 

Cyfeiriad post:
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd, CF99 1NA

 

Ebost: SeneddPPIA@Cynulliad.Cymru

Math o fusnes: Bil

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 17/04/2018

Dogfennau

Ymgynghoriadau