Yn dilyn marwolaeth Ei Uchelder Brenhinol, Dug Caeredin, mae pob baner wedi ei hanner gostwng y tu allan i adeiladau'r Senedd. Gall aelodau o'r cyhoedd sy'n dymuno llofnodi'r llyfr cydymdeimlad ar-lein wneud hynny yma.
Goblygiadau'r DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd i Gymru
Wedi'i alw'n flaenorol yn Fil y Diddymu Mawr, mae Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) (PDF,
303KB)
yn Fil Llywodraeth y DU sy'n anelu at ddiddymu Deddf Cymunedau Ewropeaidd 1972, trosi cyfraith
bresennol yr UE yn gyfraith ddomestig y DU a rhoi pŵer i weinidogion wneud is-ddeddfwriaeth.
Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei Phapur Gwyn, Legislating for the United Kingdom’s Withdrawal
from the European Union (PDF, 379KB), ar 30 Mawrth 2017.
Drwy gydol y broses, gwnaeth y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth
Ychwanegol a’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ymgynghori gyda’i
gilydd, cyn cynhyrchu allbwn ar wahân.
Tystiolaeth gychwynnol gan y cyhoedd
Cynhaliodd y ddau Bwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth ar y pwnc hwn.
Ystyriodd y Pwyllgorau y ffordd y mae'r Bil yn ymdrin â'r canlynol:
- yr ymdriniaeth o
ddatganoli;
- dirprwyo pwerau
a'u rheoli; a'r
- prosesau craffu
a rôl y deddfwrfeydd datganoledig.
Dechreuodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol weithio ar
y Bil ym mis Mawrth 2017 gyda'r bwriad o sicrhau bod Llywodraeth y DU yn deall
y goblygiadau i Gymru ac yn gweithredu arnynt.
Dilynodd hyn ystyriaeth o 13 o gyflwyniadau ysgrifenedig a dau wrandawiad pwyllgor.
Ym mis Mehefin 2017, nododd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol yr egwyddorion a ddylai fod yn sail i'r Bil
fel rhan o'i graffu ar Bapur Gwyn Bil y Diddymu Mawr.
Cyhoeddodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol adroddiad
ar Bapur Gwyn Bil y Diddymu Mawr ym mis Mehefin 2017. Darllenwch yr adroddiad llawn (PDF 1MB).
Derbyniodd Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) fel y'i ailenwyd ei
ddarlleniad cyntaf yn Nhŷ'r Cyffredin ar 13 Gorffennaf
2017.
Yn dilyn hyn, cyhoeddodd y Pwyllgor Materion
Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol alwad am ragor o dystiolaeth ysgrifenedig ym mis Gorffennaf 2017 a chynhaliodd gynhadledd i
randdeiliaid i drafod Bil yr Undeb
Ewropeaidd (Ymadael) ar 18 Medi 2017. Ymunodd rhanddeiliaid Cymreig ac
arbenigwyr cyfansoddiadol a chyfreithiol blaenllaw o bob cwr o'r DU â'r
Pwyllgorau i archwilio goblygiadau Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) i Gymru.
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Ar 12 Medi 2017, gosododd y Prif Weinidog, y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones
AC, Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol gerbron y Cynulliad
Cenedlaethol mewn perthynas â'r Bil. Cyfeiriodd y Pwyllgor Busnes at y Memorandwm i'w ystyried
gan y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a'r Pwyllgor Materion
Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar 19 Medi 2017.
Adroddiadau
Ar ôl ymgynghori ar y cyd ar y Bil, cynhyrchodd y ddau Bwyllgor allbynnau
ar wahân:
Cyhoeddodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ei adroddiad interim ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael):
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF, 426KB) ar 15 Rhagfyr 2017.
Cyhoeddodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ei adroddiad ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael):
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF, 443KB) ar 18 Rhagfyr 2017.
Argymhellodd y ddau Bwyllgor fod y Cynulliad yn atal ei gydsyniad ar gyfer
y Bil ar ei ffurf bresennol.
Ym mis Hydref 2017, ysgrifennodd Cadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol at
yr holl
(PDF, 156KB) ASau Cymreig gyda chwe
amcan (PDF, 767KB) ar gyfer newid Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael). Ynghyd
â'r amcanion hyn, anfonodd y Pwyllgor gwelliannau a awgrymwyd (PDF, 83KB) i
gyflawni ei chwe amcan.
Cafodd y gwelliannau a awgrymwyd gan y Pwyllgor eu cyflwyno gan Stephen Kinnock
AS, ond ni chawsant eu derbyn yn ystod cyfnod y Pwyllgor. Pasiodd y bil trwy Dŷ'r Cyffredin ar 17 Ionawr 2018 cyn mynd i Dŷ'r Arglwyddi.
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu
(PDF, 176KB) at Aelodau Tŷ'r Arglwyddi i dynnu eu sylw
at amcanion y Pwyllgor. Anfonwyd y llythyrau hyn ar 19 Chwefror 2018 cyn yr ail
ddarlleniad yn Nhŷ'r Arglwyddi.
Ar 23 Mawrth, anfonodd y Pwyllgor ohebiaeth
(PDF, 155KB) ychwanegol at aelodau Tŷ’r Arglwyddi ynghylch y
gwelliant i gymal 11 o Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael).
Dydd Llun 16 Ebrill, cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn graffu gydag Ysgrifennydd y Cabinet
dros Gyllid gan ganolbwyntio ar Fil yr UE (Ymadael) ac ystod o faterion sy’n
ymwneud â Brexit.
Dydd Llun 30 Ebrill, cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn
dystiolaeth â Robin Walker AS a Chloe Smith AS i drafod Bil yr UE
(Ymadael), perthynas y Deyrnas Unedig ag Ewrop yn y dyfodol a goblygiadau’r
polisi masnach i Gymru.
Ddydd Llun 14 Mai, cynhaliodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth
Ychwanegol sesiwn
graff gyda Phrif Weinidog Cymru. Roedd y sesiwn yn canolbwyntio ar
oblygiadau polisi masnachu’r DU a Bil Ymadael â’r UE.
Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru)
Ddydd Mercher 7 Mawrth 2018, cyflwynodd Llywodraeth Cymru y Bil
Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) (PDF, 181KB). Bwriad y
Bil yw diogelu cyfraith yr UE sy'n ymwneud â phynciau sydd wedi'u datganoli i
Gymru ar ôl i'r DU adael yr UE.
Bu'r Pwyllgor yn trafod y Bil yn ystod sesiwn
graffu gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid.
Cynhaliwyd dadl Cyfnod 1 ar y Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb
Ewropeaidd (Cymru) ddydd Mawrth
13 Mawrth.
Ystyriwyd gwelliannau Cyfnod 2 y Bil yn y Pwyllgor o’r Cynulliad Cyfan dydd
Mawrth 20
Mawrth 2018.
Ystyriwyd gwelliannau Cyfnod 3 a 4 y Bil ddydd Mercher
21 Mawrth cyn pasio’r Cynulliad ar yr un diwrnod.
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol
Ar ddydd Gwener 27 Ebrill, gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF, 402KB) (Memorandwm rhif 2) ar y Bil gerbron
y Cynulliad Cenedlaethol.
Cytunodd Llywodraeth Cymru i roi cydsyniad i’r Bil yn dilyn cytundeb
(PDF, 125KB) rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ddiwygio Bil yr UE
(Ymadael).
Cyhoeddodd y Pwyllgor Materion
Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ei adroddiad: Bil
yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) - Y Cynnydd o ran cyflawni ein chwe amcan
(PDF,586KB), ddydd Llun 14 Mai.
Ar ddiwrnod cyhoeddi’r adroddiad, dywedodd David
Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor:
“Mae’r Pwyllgor yn gallu gweld bod cynnydd sylweddol wedi’i wneud ac rydym
yn derbyn bod angen i bob ochr fod yn hyblyg wrth drafod, gan gyfaddawdu i ddod
i setliad y mae pawb yn cytuno arno.”
“Fodd bynnag, ni chafodd amcanion y Pwyllgor eu cyflawni’n llwyr ac rydym
yn parhau i fod yn arbennig o bryderus y gallai Senedd y Deyrnas Unedig gyfyngu
ar allu’r Cynulliad i basio deddfau mewn meysydd polisi datganoledig fel
amaethyddiaeth, hyd yn oed mewn amgylchiadau lle mae’r Cynulliad wedi gwrthod
caniatâd i gyfyngiadau o’r fath gael eu gosod.”
Ar 15 Mai, derbyniwyd Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil yr UE
(Ymadael) yn y Cyfarfod
Llawn, yn rhoi cydsyniad y Cynulliad i’r Bil.
Cafodd Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) Gydsyniad Brenhinol ar 26 Mehefin
2018, gan ddod yn Ddeddf.
Cadw mewn cysylltiad
Os hoffech wybod mwy am waith y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth
Ychwanegol, ewch i'w hafan, dilynwch ei gyfrif Twitter neu cysylltwch
â'r tîm sy'n cefnogi'r Pwyllgor yn SeneddMADY@cynulliad.cymru
Mae'r Pwyllgor yn anfon e-bost Diweddariad Brexit rheolaidd. Os hoffech
dderbyn hwn yn eich blwch post, e-bostiwch SeneddMADY@cynulliad.cymru i ofyn am hyn.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 08/09/2016
Dogfennau
- Gohebiaeth at Aelodau o Dŷ’r Arglwyddi ynglŷn a Diwygio cymal 11 o Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) – 23 Mawrth 2018
PDF 155 KB
- Gohebiaeth at Aelodau o Dŷ’r Arglwyddi ynglŷn a Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) – 19 Chwefror 2018
PDF 271 KB Gweld fel HTML (2) 20 KB
- Llythyr gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru at y Llywydd ynghylch: Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) - 16 Ionawr 2018
- Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol at Alun Cairns AS a Robin Walker AS
PDF 316 KB Gweld fel HTML (4) 31 KB
- Llythyr gan y Cadeirydd at holl Aelodau Seneddol Cymru ar y Bil yr UE (Ymadael) - 10 Hydref 2017
PDF 156 KB
- Atodiad 1 - Amcan esboniad - 10 Hydref 2017
PDF 767 KB
- Annex 2 - List of suggested amendments - 10 Hydref 2017
PDF 83 KB
Ymgynghoriadau
- Ymgynghoriad ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a'i oblygiadau i Gymru (Wedi ei gyflawni)