Ymchwiliad i Fil y Diddymu Mawr a’i oblygiadau i Gymru
Enw gwreiddiol y
Bil oedd y Bil Diddymu Mawr, ond cafodd ei newid i’r Bil Ymadael â’r Undeb
Ewropeaidd. Diben y Bil oedd diddymu Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, newid
cyfreithiau presennol yr UE yn gyfreithiau domestig y DU a rhoi pwerau i
weinidogion wneud is-ddeddfwriaeth.
Yn ystod cyfnod
cyntaf y gwaith yn hydref 2016, ceisiodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth
Ychwanegol safbwyntiau cychwynnol am y goblygiadau i Gymru yn sgil dull
Llywodraeth y DU o weithio gan lunio ambell gasgliad yn ei adroddiad cyntaf: Y
Goblygiadau i Gymru wrth i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.
Yng nghyd-destun Papur
Gwyn Llywodraeth y DU [Saesneg yn unig] (PDF, 379KB), asesodd y
Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol:
- a ddiogelir rôl y Cynulliad ym mhroses
ddeddfwriaethol Brexit ac o ran craffu ar swyddogaethau gweithredol yn y
meysydd cymhwysedd datganoledig;
- a ddilynir egwyddorion deddfu effeithiol;
- a oes gan bobl Cymru, rhanddeiliaid a sefydliadau
ddigon o gyfle i gyfrannu at y prosesau deddfwriaethol y mae’r Bil yn eu
sefydlu;
- a yw’r Bil yn galluogi’r Cynulliad i arfer rheolaeth
briodol dros y pwerau dirprwyedig a ddarperir gan y Bil; ac
- a yw ymateb Llywodraeth Cymru yn ddigonol.
Casglu tystiolaeth
Gofynnodd
y Pwyllgor am farn rhanddeiliaid ar Bapur Gwyn Llywodraeth y DU ar y Bil
Diddymu Mawr a'i oblygiadau i Gymru. Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben.
Cynhaliodd y
Pwyllgor nifer o sesiynau
tystiolaeth hefyd i lywio gwaith y Pwyllgor.
Cafodd y Bil
Ymadael â’r UE ei ddarlleniad cyntaf yn Nhŷ’r Cyffredin ar 13 Gorffennaf 2017.
Adroddiad
Cyhoeddwyd adroddiad y
Pwyllgor ar Bapur Gwyn Bil y Diddymu Mawr a’i oblygiadau i Gymru
ym mis Mehefin 2017. Darllenwch yr
adroddiad llawn.
Ar ddiwrnod cyhoeddi’r adroddiad, dywedodd David Rees AC, Cadeirydd y
Pwyllgor:
“Rydym yn
cydnabod maint yr her sy’n ein hwynebu ac yn sefyll yn barod i chwarae ein rhan
i ddarparu’r newidiadau deddfwriaethol fydd eu hangen i sicrhau bod gennym
gyfreithiau ymarferol ar ôl inni adael yr UE.
Gobeithio y bydd
Llywodraeth newydd y DU yn ystyried ein pryderon o ddifri ac yn cynyddu ei
hymdrechion i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad; yn ystyried eu
barn; ac yn gweithredu ar sylwadau a gaiff ei gwneud mewn meysydd y mae’r
Cynulliad a Gweinidogion Cymru yn gyfrifol amdanynt.”
Ymatebodd
Llywodraeth Cymru ar 6 Gorffennaf 2017.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 06/04/2017
Dogfennau
- Adroddiad - Y Goblygiadau i Gymru yn Sgil Gadael yr Undeb Ewropeaidd - Ionawr 2017
- Cwestiynnau ar gyfer yr ymgynghoriad - 8 Mai 2017
PDF 256 KB Gweld fel HTML (2) 21 KB
- Adroddiad - Papur Gwyn ar Fil y Diddymu Mawr: Goblygiadau i Gymru - 22 Mehefin 2017
- Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor - 6 Gorffennaf 2017
- Gohebiaeth gan y Cadeirydd at y Llywydd ynghylch ymchwiliad i Fil y Diddymu Mawr a’i oblygiadau i Gymru - 16 Mai 2017
PDF 302 KB Gweld fel HTML (5) 19 KB
Ymgynghoriadau
- Ymgynghoriad ar y Bil Diddymu Mawr a'i oblygiadau i Gymru (Wedi ei gyflawni)