Deddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018
Deddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018
Bil Brys Llywodraeth, a
gyflwynwyd gan Mark Drakeford AC,
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid. Bil
Brys yw Bil Llywodraeth y mae angen ei wneud yn Ddeddf yn gynt nag y mae proses
ddeddfu pedwar cyfnod arferol y Cynulliad yn ei ganiatáu. Ni ddarperir
diffiniad o Fil Brys yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 (“Deddf 2006”) nac yn Rheolau Sefydlog y Cynulliad. Fodd
bynnag, dywed Rheol Sefydlog 26.95:
“Os yw’n ymddangos i
aelod o’r llywodraeth fod angen Bil Brys, caiff gynnig bod Bil llywodraeth, a
gyflwynir yn y Cynulliad, yn cael ei drin fel Bil Brys llywodraeth.”
Fel yn achos pob Bil
Cynulliad, rhaid i Filiau Brys ymwneud ag un neu fwy o’r 21
Maes a gynhwysir yn Atodlen 7 i Ddeddf 2006 er mwyn iddynt fod o fewn
cwmpas pwerau deddfwriaethol y Cynulliad.
Gwybodaeth am y Bil
Bwriad y Bil yw diogelu cyfraith yr UE sy'n
ymwneud â phynciau sydd wedi'u datganoli i Gymru ar ôl i'r DU adael yr UE.
Ymhellach, bydd yn galluogi Gweinidogion Cymru i sicrhau bod deddfwriaeth sy'n
ymdrin â'r pynciau hyn yn gweithredu'n effeithiol ar ôl i'r DU adael yr UE ac
ar ôl i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 gael ei diddymu gan Fil yr Undeb
Ewropeaidd (Ymadael).
Bydd y Bil yn caniatáu i Weinidogion Cymru
ddeddfu i sicrhau bod y drefn reoleiddio yn parhau i fod yn gyflin â threfn
reoleiddio'r UE, a hynny er mwyn sicrhau bod gan fusnesau Cymreig fynediad
parhaus at farchnad yr UE. Bydd hefyd yn creu sefyllfa ddiofyn yn y gyfraith
lle bydd angen cydsyniad Gweinidogion Cymru cyn y gall Gweinidogion y DU wneud
unrhyw newidiadau i ddeddfwriaeth ddatganoledig o fewn cwmpas cyfraith yr UE.
Mae rhagor o fanylion am y Bil i'w gweld yn y Memorandwm
Esboniadol sy'n cyd-fynd ag ef.
Daeth Deddf
Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018 yn gyfraith yng Nghymru
ar 6 Mehefin 2018.
Cofnod o daith y Bil drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith y Bil
drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cyfnod |
Dogfennau |
||||||||
Cynnig
i drin y Bil fel Bil Brys y Llywodraeth Cynnig
i gytuno ar amserlen |
Cyflwynwyd
ar 27 Chwefror 2018, i’w drafod ar 6 Mawrth 2018 Amserlen
(PDF, 11KB) |
||||||||
Cyflwyno'r Bil: 7 Mawrth 2018 |
Bil
Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru), fel y'i cyflwynwyd
(PDF, 166KB) Memorandwm
Esboniadol (PDF, 906KB) Datganiad
y Llywydd: 27 Chwefror 2018 (PDF, 128KB) Datganiad
y Llywydd: Nodyn i Aelodau’r Cynulliad - 27 Chwefror 2018 (PDF, 187KB) |
||||||||
Y Pwyllgor yn trafod y Bil |
Bydd
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
yn trafod y Bil ar y dyddiadau canlynol:
Gosododd y
Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ei
adroddiad ar y Bil ar 13 Mawrth 2018. Ymateb
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid - 16 Mawrth 2018 [PDF 270 KB] |
||||||||
Cyfnod 1: Dadl yn y Cyfarfod Llawn ar
yr egwyddorion cyffredinol |
Cytunodd
y Cynulliad ar egwyddorion cyffredinol y Bil ar ôl dadl Cyfnod 1 yn y
Cyfarfod Llawn ar 13
Mawrth 2018. |
||||||||
Penderfyniad
Ariannol |
Cytunwyd
ar Benderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb
Ewropeaidd (Cymru) yn y Cyfarfod Llawn ar 13
Mawrth 2018. |
||||||||
Cyfnod 2: Y Pwyllgor yn trafod
gwelliannau |
Ystyriwyd
gwelliannau Cyfnod 2 yng nghyfarfod y Pwyllgor o’r Cynulliad Cyfan ar 20 Mawrth 2018. Hysbysiadau ynghylch
Gwelliannau Hysbysiad
ynghylch Gwelliannau – 15 Mawrth 2018 (PDF, 69KB) Llywodraeth
Cymru: Tabl Diben ac Effaith - 15 Mawrth 2018 (PDF, 186KB) Hysbysiad
ynghylch Gwelliannau – 16 Mawrth 2018 (PDF, 91KB) Rhestr
o Welliannau Wedi’u Didoli – 20 Mawrth 2018 (PDF, 98KB) Grwpio
Gwelliannau – 20 Mawrth 2018 (PDF, 67KB) Bil
Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru), fel y’i diwygiwyd ar ôl
Cyfnod 2 (PDF, 177KB) (Caiff y gwelliannau i’r Bil ers y fersiwn
flaenorol eu nodi ar ochr dde’r dudalen) Newidiadau
argraffu i’r Bil fel y’i diwygiwyd yng Nghyfnod 2 (PDF, 135KB) |
||||||||
Cyfnod 3: Trafod y gwelliannau yn y
Cyfarfod Llawn |
Cafodd y gwelliannau eu hystyried
a’u gwaredu yn ystod trafodion Cyfnod 3 yn y Cyfarfod Llawn ar 21 Mawrth 2018. Hysbysiadau ynghylch
Gwelliannau Hysbysiad
ynghylch Gwelliannau - 20 Mawrth 2018 (PDF, 82KB) Llywodraeth
Cymru: Tabl Diben ac Effaith - 20 Mawrth 2018 (PDF, 166KB) Rhestr
o Welliannau Wedi’u Didoli – 21 Mawrth 2018 (PDF, 79KB) Grwpio
Gwelliannau – 21 Mawrth 2018 (PDF, 67KB) Bil
Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru), fel y’i diwygiwyd ar ôl
Cyfnod 3 (PDF, 181KB) (Caiff y gwelliannau i’r Bil ers y fersiwn
flaenorol eu nodi ar ochr dde’r dudalen) |
||||||||
Cyfnod 4: Pasio'r Bil yn y Cyfarfod
Llawn |
Cytunodd y Cynulliad ar y Bil ar 21
Mawrth 2018. Bil
Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru), fel y’i pasiwyd (PDF,
181KB) Bil
Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru), fel y'i pasiwyd (Crown XML) |
||||||||
Ar ôl Cyfnod 4 |
Ysgrifennodd y Twrnai
Cyffredinol at Brif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad ar 17 Ebrill 2018 i
roi gwybod y byddai'n cyfeirio'r Bil i'r Goruchaf Lys o dan Adran 112 o
Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Ysgrifennodd Ysgrifennydd
Gwladol Cymru at y Llywydd ar 16 Ebrill 2018 i roi gwybod nad oedd yn
bwriadu gwneud Gorchymyn o dan Adran 114 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ar
hyn o bryd. Ysgrifennodd Cwnsler
Cyffredinol Cymru at Brif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad ar 17 Ebrill
2018 i roi gwybod na fyddai’n cyfeirio’r Bil i’r Goruchaf Lys o dan Adran 112
o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Ysgrifennodd y Cwnsler Cyffredinol at y Llywydd ar 23 Mai i roi gwybod
iddi fod y Goruchel Lys wedi nodi’n ffurfiol fod proses gyfeirio'r Bil
Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) wedi’i therfynu â
chytundeb yr holl bleidiau perthnasol. Ysgrifennodd Ysgrifennydd
Gwladol Cymru at y Llywydd ar 16 Ebrill 2018 i roi gwybod nad oedd yn
bwriadu gwneud Gorchymyn o dan Adran 114 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. |
||||||||
Dyddiad Cydsyniad Brenhinol |
Rhoddwyd
Cydsyniad Brenhinol (PDF, 60KB) ar 6 Mehefin 2018. |
Gwybodaeth gyswllt
Clerc: Gareth Rogers
Ffôn: 0300 200 6357
Cyfeiriad post:
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd, CF99 1NA
Cyfeiriad e-bost: deddfwriaeth@cynulliad.cymru
Math o fusnes: Bil
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 07/03/2018
Dogfennau
- Hysbysiad ynghylch Gwelliannau - 15 Mawrth 2018
PDF 69 KB
- Llywodraeth Cymru: Tabl Diben ac Effaith - 15 Mawrth 2018
PDF 186 KB
- Ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid - 16 Mawrth 2018
PDF 270 KB
- Hysbysiad ynghylch Gwelliannau - 16 Mawrth 2018
PDF 91 KB
- Rhestr o Welliannau Wedi’u Didoli – 20 Mawrth 2018
PDF 98 KB
- Grwpio Gwelliannau – 20 Mawrth 2018
PDF 67 KB
- Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru), fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2
PDF 177 KB
- Hysbysiad ynghylch Gwelliannau - 20 Mawrth 2018
PDF 82 KB
- Llywodraeth Cymru: Tabl Diben ac Effaith - 20 Mawrth 2018
PDF 165 KB
- Rhestr o Welliannau Wedi’u Didoli – 21 Mawrth 2018
PDF 79 KB
- Grwpio Gwelliannau – 21 Mawrth 2018
PDF 67 KB
- Newidiadau argraffu i’r Bil fel y’i diwygiwyd yng Nghyfnod 2
PDF 135 KB
- Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru), fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 3
PDF 181 KB
- Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru), fel y’i pasiwyd
PDF 180 KB
- Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru), fel y'i pasiwyd (Crown XML) XML 100 KB
- Llythyr gan y Twrnai Cyffredinol – 17 Ebrill 2018 [Saesneg yn unig]
PDF 22 KB
- Llythyr gan y Cwnsel Cyffredinol – 17 Ebrill 2018 [Saesneg yn unig]
PDF 191 KB
- Llythyr gan y Ysgrifennydd Gwladol Cymru – 16 Ebrill 2018 [Saesneg yn unig]
PDF 50 KB
- Llythyr gan y Ysgrifennydd Gwladol Cymru – 25 Mai 2018 [Saesneg yn unig]
PDF 143 KB