Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 13/11/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: Cofnodion: Cafwyd
ymddiheuriad gan Janet Finch-Saunders. Croesawodd
y Cadeirydd Leanne Wood i'r Pwyllgor a diolchodd i Rhun ap Iorwerth am ei waith
yn ystod ei gyfnod fel aelod. |
||
Deisebau newydd |
||
P-05-839 Mabwysiadu canllawiau WHO a chyflwyno Deddf Aer Glân i Gymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu’n ôl at Weinidog
yr Amgylchedd i ofyn iddi ymateb i'r sylwadau ychwanegol a wnaed gan y
deisebwyr cyn penderfynu a ddylid trefnu i gasglu tystiolaeth. |
||
P-05-846 Achub Ysbyty Tywysog Philip Llanelli Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Fwrdd Iechyd
Prifysgol Hywel Dda i: ·
ofyn am eu hymateb i'r ddeiseb
a'r sylwadau a gafwyd gan y deisebwyr; ac i ·
ofyn am y
wybodaeth ddiweddaraf am gynigion yn ymwneud â newid gwasanaethau yn Ysbyty
Tywysog Phillip. Gofynnodd
yr Aelodau hefyd am bapur yn nodi’r deisebau hynny a gafodd dros 5,000 o
lofnodion ers Mawrth 2017 |
||
P-05-848 Rhowch gyfle i Fyfyrwyr Cymru ddewis yr opsiwn astudio gorau ar eu cyfer hwy Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y
Cabinet dros Addysg i ofyn: ·
a allai ei
swyddogion gyfarfod â'r deisebydd i drafod y mater a godwyd yn y ddeiseb yn fwy
manwl; ac ·
a oedd wedi ystyried sicrhau bod
arian ar gael i fyfyrwyr o Gymru sy’n dymuno astudio yn unrhyw un o’r 100
prifysgol gorau yn y byd. Gofynnodd y
Pwyllgor hefyd a yw'r un trefniadau'n berthnasol i fyfyrwyr yn Lloegr ac yn yr
Alban. |
||
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
||
P-04-667 Cylchfan ar gyfer cyffordd yr A477/A4075 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor sylwadau ychwanegol gan y deisebydd ynghyd â llythyr ategol gan
gwmni cludiant lleol a chytunodd i: ·
roi rhagor
o amser i Valero ac eraill anfon sylwadau, cyn anfon y rhain ymlaen at
Lywodraeth Cymru a gofyn am ymateb; ac ·
ysgrifennu
at Gyngor Sir Penfro i ofyn am ei farn am y mater a godwyd yn y ddeiseb. |
||
P-05-731 Gwerthu tir a lonydd mynediad yn Abercwmboi Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor sylwadau gan y deisebydd ac, o gofio bod y Pwyllgor eisoes wedi
gofyn i'r preswylwyr gael cyfle i roi sylwadau os bydd Llywodraeth Cymru yn
penderfynu bwrw ymlaen i werthu'r tir dan sylw a bod y deisebydd wedi bod mewn
cysylltiad â swyddogion y Llywodraeth, cytunodd mai ychydig iawn y gallai’r
Pwyllgor ei wneud eto. Gan hynny, cytunodd yr Aelodau i gau'r ddeiseb. |
||
P-05-770 Ailagor gorsaf drenau Crymlyn Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd. O gofio bod Llywodraeth Cymru yn
datblygu proses o asesu gorsafoedd newydd posibl, a'r ffaith bod Crymlyn yn
cael ei asesu fel rhan o’r gwaith hwn, cytunodd yr aelodau i gau'r
ddeiseb. Wrth wneud hynny, roeddent am
ddiolch i'r deisebydd am ymgyrchu dros y mater hwn. |
||
P-04-399 Arferion lladd anifeiliaid Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol yn ymwneud â’r ddeiseb a chytunodd i baratoi
adroddiad yn crynhoi'r dystiolaeth sydd wedi dod i law ac i ffurfioli ei
argymhellion i Lywodraeth Cymru. |
||
P-04-433 Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol yn ymwneud â’r ddeiseb a chytunodd i baratoi
adroddiad yn crynhoi'r dystiolaeth a oedd wedi dod i law ac i ffurfioli ei
argymhellion i Lywodraeth Cymru. |
||
P-05-743 Rhowch derfyn ar fasnachu anifeiliaid anwes egsotig yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor sylwadau gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y
Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i ofyn: ·
am y
wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw drafodaeth
a gafwyd ynghylch y datblygiadau yn Lloegr a’r Alban ers ei gohebiaeth
flaenorol ym mis Chwefror 2018; ·
am
safbwynt pendant Llywodraeth Cymru ynghylch a fyddai’n fuddiol gwahardd
masnachu anifeiliaid egsotig ar hyn o bryd; ac ·
am restr
o'r anifeiliaid y gellid eu diffinio’n anifeiliaid egsotig ac sydd felly'n
anaddas i'w cadw fel anifeiliaid anwes. |
||
P-05-783 Sicrhau Cydraddoldeb Cwricwlwm i Ysgolion Cyfrwng Cymraeg e.e. Seicoleg TGAU Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a chytunodd i: ·
ysgrifennu
yn ôl i holi ai dyletswydd Llywodraeth Cymru yw sicrhau cydraddoldeb rhwng
darpariaeth addysg Gymraeg a darpariaeth addysg cyfrwng Saesneg, o ystyried bod
gan y ddwy iaith statws swyddogol yng Nghymru; ·
yn y
cyfamser, ysgrifennu at Gomisiynydd y Gymraeg yn gofyn am ei barn am y materion
a godwyd yn y ddeiseb. |
||
P-05-799: Newid y Cwricwlwm Cenedlaethol a dysgu hanes Cymru, a hynny o bersbectif Cymreig, yn ein hysgolion cynradd ac uwchradd ac yn y chweched dosbarth Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor i: ·
rhoi'r
dystiolaeth y mae wedi'i chasglu mewn perthynas â’r ddeiseb hyd yma i'r
Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i gyfrannu at ei ymchwiliad i
‘Addysgu hanes, diwylliant a threftadaeth Cymru’; ac i ·
gau'r
ddeiseb yn awr o ystyried y sylw manwl a gaiff ei roi i’r pwnc gan un o
bwyllgorau eraill y Cynulliad. Wrth wneud
hynny, roedd yr Aelodau'n dymuno diolch i'r deisebydd am gyflwyno’r ddeiseb ac
am weithio mor ddiwyd gyda'r Pwyllgor i godi ymwybyddiaeth o'r mater hwn. |
||
P-05-805 Rhoi chwarae teg i Athrawon Cyflenwi Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd
Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae wedi
gweithio fel athro cyflenwi yn y gorffennol. Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynghyd â sylwadau
ychwanegol gan y deisebydd a chytunodd i: ·
ysgrifennu
at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn a yw Llywodraeth Cymru yn dal i ystyried
datblygu model gwahanol i gadw rhestr o athrawon cyflenwi – fel ffordd o ymdrin
â’r mater yn y sector cyhoeddus - ochr yn ochr â'r gwaith o adolygu'r
fframwaith gwasanaeth a reolir ar gyfer gweithwyr asiantaeth; a ·
gofyn am
ragor o wybodaeth am ysgolion unigol neu awdurdodau lleol sy'n cyflogi athrawon
cyflenwi heb ddefnyddio asiantaethau. |
||
P-05-832 Diwygio’r cod derbyn i ysgolion ynghylch plant a anwyd yn ystod yr haf Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ynghyd â sylwadau
ychwanegol gan y deisebydd, a chytunodd i ysgrifennu at bob awdurdod lleol i
ofyn am fanylion eu polisïau mewn perthynas â cheisiadau i ohirio derbyn plant
sy'n cael eu geni yn yr haf, gan gynnwys: ·
nifer y
ceisiadau a gafwyd; ·
nifer y
ceisiadau a gafodd eu derbyn neu eu gwrthod; ac ·
os cytunir i ohirio derbyn plentyn, pa flwyddyn ysgol y
byddai’r disgybl yn ymuno â hi wedyn. |
||
P-05-798 Gwasanaethau cymorth i ddynion sy'n ddioddefwyr trais yn y cartref i gael eu rhedeg a'u cyllido'n annibynnol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd
Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Bu'n
ddefnyddiwr gwasanaeth ac yn wirfoddolwr yn Both Paretns Matter; ac mae'r
deisebydd yn gweithio iddo dros dro. Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth gan Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip ynghyd â sylwadau
eraill gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu’n ôl at Ysgrifennydd y Tŷ
i ofyn: ·
a yw
Llywodraeth Cymru wedi ystyried ariannu gwasanaeth cenedlaethol yn uniongyrchol
i ddarparu cymorth i ddynion yn benodol; ·
am
wybodaeth am y modd y bydd y mathau o wasanaethau a gaiff eu comisiynu o dan y
trefniant rhanbarthol newydd yn cael eu monitro; ac ·
am
wybodaeth am sut y caiff methodolegau'r gwasanaethau hynny sy'n cael cyllid
cyhoeddus eu hachredu neu eu gwerthuso'n briodol. |
||
P-05-836 Adroddiadau ar y Bwlch Cyflog rhwng y Rhyweddau Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd
Mike Hedges y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae'n
adnabod y deisebydd. Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu’n ôl at Arweinydd
y Tŷ i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau ers ei llythyr
blaenorol ar 6 Medi, ac am ragor o wybodaeth am yr amserlenni i sicrhau bod
data’n ymwneud â’r bwlch cyflog rhwng y ddau ryw gan gyrff cyhoeddus Cymru yn
cael eu cyhoeddi mewn fformatau mwy agored a hygyrch. |
||
P-05-819 Enwau Lleoedd Cymru - Bil Diogelu a Hyrwyddo Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth
gan y Gweinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth ynghyd â sylwadau
ychwanegol gan y deisebydd ac, oherwydd bod y Pwyllgor Diwylliant, Chwaraeon a
Thwristiaeth wedi rhoi sylw i’r mater penodol hwn yn ystod ei ymchwiliad i'r
Amgylchedd Hanesyddol yn ddiweddar, ac oherwydd ei argymhelliad i barhau i
adolygu’r mater, cytunodd i gau'r ddeiseb. |
||
P-05-830 Ailagor Canolfan Feddygol Dewi Sant, Pentwyn yn Amser Llawn Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, ynghyd â
sylwadau ychwanegol gan y deisebydd ac, o ystyried bod y Bwrdd Iechyd wedi
gwrthod y cais i gau'r Ganolfan a bod y deisebydd yn fodlon ar y sefyllfa,
cytunodd i gau'r ddeiseb. |
||
(9:45-10:30) |
Sesiwn dystiolaeth P-05-801 Rhaid achub y coed a'r tir yng Ngerddi Melin y Rhath a Nant y Rhath cyn iddi fynd yn rhy hwyr Lee Fisher Sarah Jones Nick Clifton Ffrindiau Nant y Rhath Dogfennau ategol:
Cofnodion: Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan Nick Clifton, Lee Fisher a Sarah Jones. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd ar gyfer eitem 6 Cofnodion: Derbyniwyd
y cynnig. |
||
Trafodaeth yn ystod y sesiwn dystiolaeth flaenorol P-05-801 Rhaid achub y coed a'r tir yng Ngerddi Melin y Rhath a Nant y Rhath cyn iddi fynd yn rhy hwyr Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a chytunodd i geisio trefnu cyfarfod rhwng yr
holl randdeiliaid cyn y sesiwn dystiolaeth gyda Chyfoeth Naturiol Cymru ar 27
Tachwedd. |