P-05-819 Enwau Lleoedd Cymru – Bil Diogelu a Hyrwyddo
P-05-819 Enwau Lleoedd Cymru – Bil Diogelu a Hyrwyddo
Cyflwynwyd y
ddeiseb hon gan Dr Dafydd Williams ac ystyriwyd gan y Pwyllgor am y tro
cyntaf yn ystod Mehefin 2018, ar ôl casglu 431 o lofnodion
Geiriad
y ddeiseb
Y Gymraeg yw un o nodweddion amlycaf Cymru, ac mae ein
hanes a’n diwylliant wedi’u cydblethu ag un o ieithoedd hynaf Ewrop.
Mae mwy a mwy o enwau lleoedd a thai Cymraeg yn cael eu
newid i enwau Saesneg. Mae hyn yn arwain at dranc diwylliant lleol ac un o’r
elfennau sy’n gwneud Cymru’n unigryw. Mae’r hen enwau Cymraeg hyn yn aml yn
ddisgrifiadol a’u gwreiddiau’n ddwfn yn hanes y lle.
Mae cynnal ein hunaniaeth a’n treftadaeth Cymraeg yn
bwysig i Gymry Cymraeg a di-Gymraeg fel ei gilydd.
Dylid diogelu hen enwau Cymraeg ar leoedd ac
adeiladau o dan y gyfraith, a dylai fod yn orfodol i ddatblygiadau newydd gael
enwau Cymraeg er mwyn diogelu ein diwylliant a’n hiaith unigryw. Byddai Cymry
Cymraeg, dysgwyr a’r di-Gymraeg yn gwerthfawrogi hyn. Byddai hefyd yn helpu i
feithrin ein prif nodwedd unigryw ar lwyfan y byd - rhywbeth y mae twristiaid
yn caru ei
Statws
Yn ei gyfarfod ar 13/11/2018 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 19/06/2018.
Etholaeth
a Rhanbarth y Cynulliad
- Arfon
- Gogledd Cymru
Rhagor
o wybodaeth
- Dysgwch fwy am broses ddeisebau'r
Cynulliad
- Llofnodwch e-ddeiseb
- Sut mae proses
Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 08/06/2018