P-05-836 Adroddiadau ar y Bwlch Cyflog rhwng y Rhyweddau

P-05-836 Adroddiadau ar y Bwlch Cyflog rhwng y Rhyweddau

Wedi'i gwblhau

P-05-836 Adroddiadau ar y Bwlch Cyflog rhwng y Rhyweddau

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Estelle Hart, ar ôl casglu 56 o lofnodion.

Geiriad y ddeiseb

​​​Nid yw Rheoliadau Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Penodol ac Awdurdodau Cyhoeddus) 2017 wedi cael eu cymhwyso i Gymru, gan olygu nad oes gofyniad ar gyrff cyhoeddus datganoledig i gyhoeddi adroddiadau ar eu bwlch cyflog rhwng y rhyweddau mewn man canolog.

Rydym yn credu y dylai cyrff sy'n derbyn arian cyhoeddus gyhoeddi'r wybodaeth hon, ac i sicrhau tryloywder arian cyhoeddus, dylai'r wybodaeth hon fod ar gael mewn man canolog ac yn yr un fformat, gan ddilyn canllawiau a ddatblygwyd ar gyfer cyrff sector cyhoeddus yn Lloegr.

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 03/12/2019 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb ar y sail ei bod bellach wedi bod yn beth amser ers i’r Pwyllgor dderbyn gohebiaeth gan y deisebydd ac felly mae’n anodd gweld sut y gellid symud y ddeiseb ymlaen ymhellach ac yng ngoleuni camau a amlinellwyd yn flaenorol gan y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 09/10/2018.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Gŵyr

·         Gorllewin De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 28/09/2018