Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1.1        Cafwyd ymddiheuriadau gan Janet Finch-Saunders.

1.2        Diolchodd y Cadeirydd Mike Hedges AC am ei waith fel Cadeirydd y Pwyllgor a hefyd Gareth Bennett AC sydd wedi symud i fod yn aelod o'r Pwyllgor Busnes.

 

2.

Deisebau newydd

2.1

P-05-757 Cael Gwared ar y Rhwymedigaeth ar Ysgolion i Gynnal Gweithredoedd Addoli Crefyddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

·         Ystyried y ddeiseb ochr yn ochr â P-05-765 Cadw canllawiau presennol ar gyfer Gwasanaethau Crefyddol yn y dyfodol; ac

·         Ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ofyn a fydd Llywodraeth Cymru yn ystyried adolygu'r gyfraith a'r canllawiau presennol ynghylch addoli ar y cyd, ac a oes ystyriaeth wedi'i rhoi i p'un a yw'r gofynion presennol yn cyd-fynd â chyfraith hawliau dynol.

 

 

2.2

P-05-765 Cadw canllawiau presennol ar gyfer Gwasanaethau Crefyddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

  • Ystyried y ddeiseb ochr yn ochr â P-05-757 Cael Gwared ar y Rhwymedigaeth ar Ysgolion i Gynnal Gweithredoedd Addoli Crefyddol; a
  • Dychwelyd at y ddeiseb ar ôl cael ymateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ofyn a fydd Llywodraeth Cymru yn ystyried adolygu'r gyfraith a'r canllawiau presennol ynghylch addoli ar y cyd, ac a oes ystyriaeth wedi'i rhoi i p'un a yw'r gofynion presennol yn cyd-fynd â chyfraith hawliau dynol - y cam y cytunwyd arno ar gyfer P-05-757.

 

 

2.3

P-05-761 Mynnu cyllid gan Lywodraeth Cymru i gefnogi Autism Spectrum Connections Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Autism Spectrum Connections Cymru yn gofyn am eu meddyliau am y ddeiseb a'r ymateb gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

2.4

P-05-762 Symud Cynulliad Cymru o Gaerdydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i aros am ymateb y deisebydd cyn penderfynu pa gamau pellach i'w cymryd ar y ddeiseb.

 

2.5

P-05-764 Gwell Gwasanaethau Iechyd Meddwl ar gyfer Oedolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i aros am ymateb y deisebydd ar ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon cyn penderfynu pa gamau pellach i'w cymryd ar y ddeiseb.

 

 

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-04-472 Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn ddeddf

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-04-575 Galw i Mewn Pob Cais Cynllunio ar Gyfer Cloddio Glo Brig a chytunwyd i ofyn i'r ddau ddeisebydd ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig roi tystiolaeth i'r Pwyllgor ar ddechrau tymor yr hydref.

 

 

 

3.2

P-04-575 Galw i Mewn Pob Cais Cynllunio ar Gyfer Cloddio Glo Brig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-04-472 Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn Ddeddf a chytunwyd i ofyn i'r ddau ddeisebydd ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig roi tystiolaeth i'r Pwyllgor ar ddechrau tymor yr hydref.

 

 

3.3

P-05-743 Rhowch Derfyn ar Fasnachu Anifeiliaid Anwes Egsotig yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig a chytunwyd i aros am farn y deisebydd ar y wybodaeth a ddarparwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet cyn penderfynu pa gamau pellach i'w cymryd ar y ddeiseb.

 

3.4

P-04-576 Caniatáu i Blant yng Nghymru Gael Gwyliau Teuluol yn Ystod Tymor yr Ysgol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-04-606 Sicrhau bod ysgolion yn defnyddio eu pwerau statudol o dan reoliad 7 o Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 heb unrhyw ymyrraeth neu ragfarn, a chytunwyd i aros am ddiweddariad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar ôl cwblhau'r adolygiad presenoldeb yn ddiweddarach eleni cyn trafod camau pellach ar y ddeiseb.

 

 

3.5

P-04-606 Sicrhau bod ysgolion yn defnyddio eu pwerau statudol o dan reoliad 7 o Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 heb unrhyw ymyrraeth neu ragfarn.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-04-576 Caniatáu i Blant yng Nghymru Gael Gwyliau Teuluol yn Ystod Tymor yr Ysgol, a chytunwyd i aros am ddiweddariad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar ôl cwblhau adolygiad presenoldeb yn ddiweddarach eleni cyn trafod camau pellach ar y ddeiseb.

 

 

3.6

P-04-679 Dileu'r Cymhwyster Bagloriaeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb gan nad oedd modd gweld sut i fwrw ymlaen â'r ddeiseb yn absenoldeb cyswllt â'r deisebydd, ac o ystyried ymrwymiad pendant i Fagloriaeth Cymru a nodwyd yn flaenorol gan Lywodraeth Cymru.

 

3.7

P-05-707 Rhaid i Hyfforddiant Athrawon Gynnwys Hyfforddiant Statudol ar Awtistiaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a chytunwyd i aros am farn y deisebydd ar y wybodaeth a ddarparwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet cyn penderfynu pa gamau pellach i'w cymryd ar y ddeiseb.

 

3.8

P-05-748 Bysiau Ysgol i Blant Ysgol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

  • Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunwyd i ysgrifennu at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ofyn am eu barn ar y ddeiseb a'r potensial i awdurdodau lleol ddarparu mynediad i drafnidiaeth dysgwyr pwrpasol i bob plentyn (sy'n mynd tu hwnt i'r gofynion statudol presennol), ac i ystyried yn y cam hwnnw p'un a ddylid gwahodd y deisebydd i ddod i'r Pwyllgor i drafod y ddeiseb.

 

 

3.9

P-04-505 Uned Anhwylderau Bwyta yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a chytunwyd i aros am farn y deisebydd ar y wybodaeth a ddarparwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet cyn penderfynu pa gamau pellach i'w cymryd ar y ddeiseb.

 

3.10

P-04-532 Gwella Gwasanaethau Niwrogyhyrol Arbenigol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor sylwadau pellach gan y deisebydd ac, o ystyried bod sylw manwl wedi'i roi i'r ddeiseb hon dros nifer o flynyddoedd a'r ymatebion cynhwysfawr diweddar gan y byrddau iechyd, cytunwyd i gau'r ddeiseb ar y sail y byddai'n well i'r materion sy'n weddill gael eu datrys ar lefel weithredol. Wrth wneud hynny, cytunodd Aelodau i roi cynigion pellach y deisebwyr i Lywodraeth Cymru er gwybodaeth gan ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a fyddai'n barod i gyfarfod â nhw.

 

3.11

P-05-720 Deiseb Cyngor Cymuned Hirwaun a Phenderyn i Osod Band Eang Ffibr Opteg yn y Pentref

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth a chytunwyd i gau'r ddeiseb ar y sail bod cyflwyno band eang ffibr opteg i fod i gael ei gwblhau'n fuan, ac y gellir codi materion penodol gyda Llywodraeth Cymru gan ddefnyddio'r wybodaeth gyswllt a ddarparwyd gan y Gweinidog.

 

3.12

P-05-725 Ehangu'r A470 o Bontypridd i gyfnewidfa Coryton, i fod â thair lôn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb gan ei bod hi'n anodd ei dwyn ymlaen yn absenoldeb cyswllt â'r deisebydd.

 

3.13

P-05-742 Peidiwch â gadael i Forsythia gau!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at:

 

·         Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i ofyn am ddiweddariad ar ddatblygiad dull newydd Llywodraeth Cymru i greu cymunedau gwydn; a

·         rheolwyr y ganolfan i ofyn am gymhariaeth o ran sut bydd y gwasanaeth a ddarperir yn wahanol yn dilyn y newidiadau.

 

4.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau y ddau bapur.

 

(10.15 - 10.45)

5.

Sesiwn dystiolaeth – P-04-628 Mynediad at Iaith Arwyddion Prydain i Bawb

Alun Davies AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes

 

Ruth Conway, Llywodraeth Cymru

 

Claire Rowlands, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Atebodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes gwestiynau gan y Pwyllgor.