P-05-725 Ehangu'r A470 o Bontypridd i gyfnewidfa Coryton, i fod â thair lôn.
P-05-725 Ehangu'r A470 o Bontypridd i gyfnewidfa Coryton, i fod â thair lôn.
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Geraint Williams, ar ôl casglu 130 llofnodion.
Geiriad y ddeiseb
Rydym yn galw ar Gynulliad
Cymru i fuddsoddi yn un o'r prif ffyrdd i'r brifddinas drwy ehangu'r ffordd
ddeuol bresennol i fod â thair lôn o Bontypridd i gyfnewidfa Coryton.
Ceir llawer iawn o dagfeydd ar
y ffordd bresennol yn y bore ac yn yr hwyr yn ystod yr wythnos, gan achosi
trafferth i fodurwyr sy'n teithio rhwng y Cymoedd a'r ddinas. Credir bod hon yn
ffactor allweddol sy'n cyfyngu ar ffyniant pobl a busnesau Caerdydd, yn ogystal
â Chymoedd y Rhondda, Rhymni, Merthyr a Chaerffili, sy'n dibynnu ar
gysylltiadau ffordd da â'r M4 a'r ddinas.
Mae'r tagfeydd yn arbennig o
wael ar y ffordd tua'r de o Bontypridd oherwydd sawl ffactor, gan gynnwys
traffig yn ciwio i ymuno â'r M4 yng nghyfnewidfa Coryton a'r nifer fawr o geir
sy'n ymuno â'r traffig o Ferthyr ac Aberdâr ym Mhontypridd, Upper Boat,
Nantgarw a Thongwynlais. Nid yw'r ffordd yn gallu ymdopi â'r holl draffig sy'n
dod o Gymoedd y Rhondda a Chaerffili.
O gyfnewidfa Coryton tua'r
gogledd, mae'r ffordd ychydig yn well. Fodd bynnag, mae'r holl draffig sy'n
ymuno â'r ffordd o'r M4 yn achosi dryswch ac oedi i ddefnyddwyr y ffyrdd yng
nghyfnewidfa Coryton. Mae'r ffordd wedyn yn parhau i wynebu tagfeydd a'r
traffig yn parhau i symud yn araf hyd nes iddi gyrraedd Pontypridd, pan mae
llawer o draffig wedi gadael y ffordd ar hyd ffyrdd ymuno ac ymadael amrywiol.
Pan fydd tagfeydd ar y ffyrdd ymuno ac ymadael eu hunain (fel yn Nantgarw ac
Upper Boat), mae llif y traffig yn eithriadol o araf.
Er nad oes unrhyw ddata ar gael
ar hyn o bryd, gellir damcaniaethu y byddai'r gymhareb cost a budd ariannol a
fyddai'n deillio o'r buddsoddiad hwn mewn seilwaith yn y rhanbarth yn gadarnhaol,
ac rydym yn gobeithio y bydd y Llywodraeth o leiaf yn ystyried y cynnig hwn.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 27/06/2017 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb gan ei bod hi'n
anodd ei dwyn ymlaen yn absenoldeb cyswllt â'r deisebydd. Gellir gweld manylion
llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig
ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau
ar 13/12/2016.
Etholaeth a Rhanbarth y
Cynulliad
- Merthyr Tudful a Rhymni
- Dwyrain De Cymru
Rhagor
o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 06/12/2016