P-05-762 Symud Cynulliad Cymru o Gaerdydd
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Royston Jones, ar ôl casglu
53 o lofnodion ar-lein.
Geiriad
y ddeiseb:
Rydym yn galw am symud y Cynulliad Cenedlaethol o
Gaerdydd i Aberystwyth er mwyn dechrau 'ail-gydbwyso' bywyd ac economi
cenedlaethol Cymru.
Gwybodaeth ychwanegol:
Mae Caerdydd yn ffynnu, ac yn tyfu ar gyfradd esbonyddol,
tra bod y rhan fwyaf o Gymru yn aros yn ei hunfan, sy'n ei gwneud yn glir nad
yw'r model presennol Caerdydd/Cymru o ddatblygu economaidd yn gweithio ar gyfer
80 y cant o'r wlad.
Mae Caerdydd yn cael y gyfran fwyaf o fuddsoddiad a
swyddi yn cael effaith andwyol ar weddill y wlad, ac er bod y duedd hon yn
weladwy yn y degawdau sydd wedi mynd heibio, mae wedi ennill mwy o fomentwm a
dod hyd yn oed yn fwy niweidiol er lles y genedl ers i Gynulliad Cenedlaethol
Cymru eistedd am y tro cyntaf ym 1999.
Yn waeth na hynny, mae tystiolaeth gynyddol o lygredd; y
math o lygredd sy'n anochel pan fo'r rheini sydd â dylanwad gwleidyddol a
rheolaeth ar y pwrs cyhoeddus yn cyfarfod yn rheolaidd, mewn cyd-destunau
cymdeithasol a chyd-destunau eraill, y rheini sy'n ceisio manteisio ar
gysylltiadau o'r fath.
Credwn, yn y byrdymor, mai'r ffordd hawsaf o wella'r
anghydbwysedd anghynaladwy a chynyddol hwn, a'r bygythiad cynyddol o lygredd,
yw symud Cynulliad Cymru a'i hasiantaethau a'i hadrannau amrywiol y tu allan i
Gaerdydd.
Byddai Aberystwyth yn leoliad delfrydol a chanolog ar
gyfer y Cynulliad a'i staff cymorth. Gellid lleoli asiantaethau eraill o
amgylch y wlad, oherwydd yng nghyfnod y rhyngrwyd a fideo-gynadledda, nid oes
angen i weision sifil ac eraill weithio y drws nesaf i'w gilydd.
Byddai'r buddion i rai o'r rhannau o Gymru sydd wedi'u hesgeuluso fwyaf yn
gwneud iawn yn fuan am y costau cychwynnol sy'n ymwneud â'r adleoliadau.
Cynulliad
Cenedlaethol Cymru
Statws
Yn ei gyfarfod ar 12/07/2017 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon
wedi'i chwblhau.
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb, gan ei bod yn
anodd gweld sut y gallai'r Pwyllgor fynd â'r ddeiseb yn ei blaen yn sgil diffyg
cyswllt gan y deisebydd.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.Cafodd ei thrafod gyntaf
gan y Pwyllgor Deisebau ar 27/06/17.
Etholaeth
a Rhanbarth y Cynulliad Rhagor o wybodaeth
- Dwyfor Meirionydd
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
Rhagor
o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 05/06/2017